Llyfr Del/Dau Ddedwydd

Gŵr Anfoesgarh Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Ymwelydd Rhyfedd

DAU DDEDWYDD


MAE oerwynt llym o'r gogledd rhewllyd draw
Yn chwythu'n finiog drwy heolydd Llundain fawr;
Prysura pawb trwy'r oerfel tua'i gartref clyd,
A'r eira gwyn o'r nefoedd lwythog ddaw i lawr.

Ond hwre! Mae dau fachgen yn Llundain,
Mor ddedwydd a neb yn y fro,
Rhai coesnoeth a throednoeth bob amser,
Yn chware beth bynnag a fo.


Chware berfa ynghanol yr eira
Ddug wres nas gall manblu ei roi,
Gwna chware hwy'n gynnes a dedwydd,
Tra'r hen elyn Oerfel yn ffoi.