Llyfr Del/Ymwelydd Rhyfedd

Dau Ddedwydd Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Beth Yw'r Gwynt?

YMWELYDD RHYFEDD

YR wyf yn cofio noson aeafaidd eiraog lawer blwyddyn faith yn ôl. Nid oeddwn i ond plentyn y gaeaf hwnnw; ond, er y noson y cyfeiriaf ati, gyda'i dychryn a'i braw, y mae gennyf barch at fy nhad yn ymylu ar addoliad.

Bwthyn digon tlodaidd oedd ein cartref, rhyw filltir o'r pentref. Ond yr oedd yn ddiddos iawn, a thân mawn braf glân yn ei gynhesu drwyddo. Yr oedd ffenestr bur fawr yn wyneb ei gegin, a ffenestr fechan yn y cefn. Wrth ffenestr y cefn rhoddid bwyd i'r adar, a llawer robin goch ddeuai i dalu ymweliad â ni ar y rhew a'r eira. Ond yr oedd ymwelydd mwy dieithr i ddod y noson honno.

Yr oedd fy mam yn wael yn ei gwely; ac yr oedd dau fachgen ohonom, a'r babi heblaw hynny. Nos Sul oedd hi; yr oedd yn noson casgliad olaf y flwyddyn hefyd, ac yr oedd yn rhaid i nhad fynd i'r capel.

Yr oedd llofruddiaeth newydd gymeryd lle yn ymyl. Yr oedd crwydryn wedi llofruddio morwyn; a dywedid fod ceiliog du wedi neidio o rywle ar arch yr eneth, druan, adeg ei chladdu. Yr oedd arswyd y ceiliog du wedi meddiannu pawb trwy Lan y Mynydd; a dyna'r rheswm, mae'n debyg, pam yr oedd Malen

Llwyd, gwraig arw herfeiddiol, yn gwarchod gyda ni y noson honno.

Wrth i fy nhad agor y drws i fynd allan clywem swn gwynt uchel yn y derw a'r masarn mawr oedd yn gwylio o amgylch y tŷ. Ond yr oedd yr eira'n rhy wlyb i'r gwynt— fedru ei symud oddiar y ddaear; ac yr oedd sain newyn a chynddaredd yn nolef y gwynt. Noson i fod yn y tŷ oedd, nid noson i fod allan; a chlywais fy mam yn dweyd wrth fy nhad, mewn Ilais gwannaidd, am frysio adre o'r capel.

Cysgodd y babi'n hapus, a gwenodd trwy ei gwsg; a dywedodd Malen Llwyd wrthym ni ein dau mai gweld angylion yr oedd. " Ond am danaf fi, weli di," ebai wrthyf fi, wrth weld y dyddordeb gymerwn yn hanes y babi a'r angylion, " pe cauwn i fy llygaid, fel y babi yma, ysbryd drwg ddoi i siarad â fi, ac nid angel." A chyda'r gair, cauodd ei llygaid, fel pe i gael golwg ar yr ysbryd a enwasai.

Gyda i'r hen Falen gau ei llygaid, dyma ergyd ar y ffenestr, a neidiodd yr hen wraig mewn dychryn ymron oddiar ei chader, er mawr berygl i'r babi. Ergyd fel pe buasai rhywbeth ysgafn wedi ei hyrddio yn erbyn y ffenestr oedd, ac yna ergyd arall drymach yn dod yn union ar ei hol. Codais i, ac eis at y ffenestr, a rhoddais fy llaw ar y glicied. Pan oedd fy llaw ar y glicied, clywn ysgrech anaearol yn ymyl y ffenestr. Wrth dynnu fy llaw yn ôl, yn fy nychryn, codais y glicied; a chwythodd pwff o wynt y ffenestr yn agored. Gyda hynny dyma rywbeth i mewn, gyda swn nas gallaf ei ddesgrifio; a chauodd y ffenestr yn glec ar ôl y rhywbeth, megis o honi ei hun. Gyda hynny, dyma ergyd fawr yn erbyn y ffenestr drachefn. Yr oedd yr hen Falen wedi dychrynnu'n enbyd, ac yn gwaeddi,—" Beth ydi o, y ceiliog du neu dderyn corff?"

Yr oedd yr ymwelydd dieithr erbyn hyn yn curo adenydd gwylltion yn erbyn ffenestr fach y cefn, ar gyfer y ffenestr a ddaethai i mewn drwyddi, ac yr oedd ein gwynebau fel y galchen wrth ei glywed. Yr oedd arnaf ofn y gwnai rywbeth i fy mabi; a chymerais hidlen,—hidlen laeth,—a gosodais hi ar gefn yr ysbryd. Distawodd yn union; ac yr oeddym i gyd mewn distawrwydd yn disgwyl am fy nhad.

Pan ddaeth fy nhad adref, dywedasom yr hanes yn grynedig wrtho; a chyfeiriasom ein bysedd yn ofnus iawn at yr hidlen ar y ffenestr bach, lle'r oedd yr ysbryd neu'r ceiliog du neu rywbeth. Rhoddodd fy nhad ei law dan yr hidlen, a chydiodd mewn aderyn oedd yno gerfydd ei draed. Petrisen braf dew oedd, ac yn crynnu gan ofn fel pe buasai'n galon i gyd. Esboniodd fy nhad mai dianc o flaen y genllif goch yr oedd y betrisen, ei fod wedi gweld y genllif ysglyfaethus yn ymsaethu o gwmpas.

"Wel. mae hi'n un dew," ebe Malen Llwyd, oedd wedi adfeddiannu ei hun erbyn hynny, mi wneifl swper ardderchog i chwi."

" Na," ebai fy nhad, "i chwilio am nodded y daeth yma, a nodded a geiff."

Nid oedd fy nhad ond dyn tlawd, ac yr oedd yn anodd cael lluniaeth briodol yn y dyddiau hynny, dyddiau oerfel ac afiechyd. Ond am fywyd y betrisen, nid am fwyd amheuthyn yr oedd ef yn meddwl. Yr oedd y gwynt wedi distewi erbyn hynny, ac yr oedd yn codi'n noson oleu braf. Agorodd fy nhad y drws, a gollyngodd y betrisen allan.