Y Manati Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Yr Eog

Cwningod

XVII

CWNINGOD

1. YM mis Awst, pan fydd yr haul yn gynnes ar y caeau, a digon o lysiau gwyrddion ymhobman, gallech feddwl bod y cwningod yn hapus iawn. Ac, yn wir, felly y maent.

Y mae cartref y cwningod yn noddfa ddiogel iddynt. Cloddiant dwll yn y ddaear, ac yna gwnânt dynel hir, ac yno, ymhell o gyrraedd dyn a chi, y mae eu lloches glyd. Bryniau tywodlyd sychion sydd wrth eu bodd i wneud eu cartref ynddynt, yn enwedig os bydd llwyni o eithin ar hyd-ddo. Turiant yn hawdd i'r bryn tywodlyd, ac y mae ganddynt ddigon o le i lawr yn eu cartref tywyll ond clyd a sych.

2. Yn rhai o'r ystafelloedd hyn y megir y rhai bychain. Y maent hwy yn bur ddiamddiffyn,— yn noethion a deillion pan yn fabanod. Ond y mae y fam wedi gwneud eu nyth yn gynnes â blew fydd wedi dynru o'i gwisg ei hun. Cyn mynd allan i chwilio am fwyd, gofala am gau yr ystafell y mae y rhai bach ynddi â phridd; ac nid oes neb ond hi'n gwybod lle y maent. Ac nid â yno ond yn y nos, rhag ofn i ryw elyn wybod lle y mae ei rhai bach yn llechu.

Llysiau yw bwyd y cwningod. Os bydd eithin o amgylch eu llochesau, bwytânt y rhai hynny; y mae y blagur ieuanc yn fwyd wrth eu bodd. Ond weithiau, er iddynt sefyll ar eu traed ôl, y mae llawer o'r blagur hwn yn rhy uchel iddynt fedru ei gyrraedd.

3. Fel pawb ohonom, ni chaiff y ewningod bob amser ddewis lle eu cartref na natur eu bwyd. Os bydd raid iddynt fyw ar ddaear wleb, ni fyddant yn tyllu i honno; eithr gwnânt ryw fynedfeydd hirion trwy'r grug, neu'r eithin, neu'r glaswellt bras fydd yn tyfu yno. Ambell dro, gwnânt eu cartref mewn hen geubren; ac felly byddant yn byw mewn ty pren.

4. Yn y nos y deuant allan i fwyta, ac i chwarae, a than olau'r lleuad y mae hawsaf eu gweld. Difyr iawn yw gweld eu pranciau hapus. Mae'n rhaid y bydd y rhai ieuainc wrth eu bodd yn cael chwarae allan, yn lle gorfod mynd i'w gwelyau yn yr ystafell fechan, dywyll, honno tan y ddaear. Ond y maent mewn perygl beunydd: y mae adar nos, fel y dylluan, yn chwilio am danynt yn ysglyfaeth.

Pethau bach tlysion ydynt, o liw llwyd golau, a'u blew yn esmwyth iawn. Ac y maent yn hollol ddiniwed. Ni frathant.

5. Y mae ganddynt glustiau mawrion, er eu bod yn llai na chlustiau'r ysgyfarnog, a chlywant yn dda. Y mae ganddynt lygaid mawr, hefyd, a gwelant yn eithaf wedi nos. A da fod ganddynt glust a llygad, oherwydd y mae llawer yn ceisio eu bywyd. Pan wêl un ohonynt berygl, dechreua redeg tua'r tyllau. Rhed y lleill ar ei hôl, a buan iawn y byddant wedi diflannu tan y ddaear.

6. Wrth redeg, codant eu cynffonnau i fyny; a chan fod y gynffon yn wen dani, y maent fel pe'n codi baneri gwynion i fyny. Y mae golwg ddigrif iawn ar y llu cynffonnau gwynion pan fydd ugeiniau a channoedd o wningod yn rhedeg am eu bywyd yn un dyrfa gymysg brysur. Y mae gweld y gynffon wen yn ei wneud yn beth hawdd i filgi eu dilyn neu i ddyn eu saethu. Pam y mae Natur yn eu dysgu i wneud peth a ymddengys mor ffôl a pherygl. Y farn gyffredin yw eu bod yn codi'r gynffon wen er mwyn i'w cyfeillion, ac yn enwedig eu rhai bach, weld ffordd y rhedant i ddiogelwch.

7. Nid ydynt yn darparu bwyd at y gaeaf, fel y gwiwerod. Ond medrant ymdaro yn eithaf; cânt ryw lysiau i'w bwyta trwy'r gaeaf. Ond weithiau, os bydd eira mawr ar y ddaear am hir, bydd yn galed iawn arnynt; a'r adeg honno cnoant risgl coed ffrwythau, a bydd y coed farw i gyd os dirisglir eu bonau.

Ni fedr cwningod fyw ond lle y mae bwyd glas. trwy'r flwyddyn. Felly, ni cheir hwy yng ngogledd a dwyrain Ewrob; buan y buasai'r gaeaf a newyn a'r blaidd yn eu difa yno. Ond cawsant gartref newydd yn Awstralia. Aeth ymfudwyr a hwy yno. Amlhânt yn fuan iawn, bydd llu o rai bach yn eu mysg bob amser, ac y maent bron yn bla yn Awstralia. Difânt y coed a'r llysiau yn y tymhorau sychion, ac y mae bron yn amhosibl eu difa hwy.

Ond, yn y wlad hon, gwnânt lawer iawn o dda; ac ni wnânt ddrwg i goed ond ar ambell aeaf eithriadol o galed. Pethau bach tlysion, difyr, diniwed, ydynt; hawdd eu dofi; cyfeillion i ni.

Nodiadau

golygu