Llyfr Haf/Yr Eog
← Cwningod | Llyfr Haf gan Owen Morgan Edwards |
Y Dyrnogyn → |
Yr Eog
XVIII
YR EOG
1. MAE rhywbeth yn brydferth, os nad yn fawreddog, yn ymdaith y pysgodyn hardd a glân hwn drwy ddyfroedd afonydd a moroedd. Y mac ei ben a'i gefn yn lasddu ddisglair, ei ochrau ac odditanodd yn ariannaidd wyn. Yma ac acw y mae ysmotiau duon megis yn ychwanegu at ei dlysni.
2. Yn y gwanwyn a'r haf, pan fydd dwfr ein haberoedd yn lân, daw'r eog o'r môr i'n hafonydd, ac ymdeithia'n ddiorffwys, drwy ryw reddf ryfedd, nes cyrraedd graean glân, mewn rhyw nant fynyddig. Môr y Gogledd yw ei hoff gartref, ni cheir ef yn y Môr Canoldir. Daw i fyny Rhein, ceir ef yn afonydd Rwsia, Sweden, Norway, Ynys yr Ia, a Greenland. A daw i'n hafonydd ninnau. Hoff gan lawer bysgota amdano yn Nyfrdwy a Lledr a Dyfi, yn Nhywi a Hafren a Gwy. Ceir ef yn afonydd yr Amerig hefyd, a gofelir yn llawer gwell yno am y pysgodyn gwerthfawr,—brenin y pysgod ar lawer cyfrif, hoff ddanteithfwyd byd.
3. Daw i'n haberoedd trwy lawer o anawsterau. Rhaid iddo lamu tros greigiau, er mwyn esgyn o lyn i lyn. A welsoch chwi eog yn llamu? Ymffurfia ei hun yn gylch, ymdeifl ei hun i fyny, gan fflachio fel arian ac aur yn yr haul. Yn aml neidiant i fyny wyth troedfedd neu ddeg; a gall rhai neidio o ddeuddeg troedfedd i bedair ar ddeg yn syth ar i fyny. Y mae gelynion iddynt ar y ffordd. Er dod i fyny Dyfrdwy, ychydig a fedr fynd trwy Lyn Tegid i'w haberoedd uchaf; y mae y penhwyad ysglyfaethgar yno, ac yn gwylio pob eog. Wedi cyrraedd graean glân, lle tery'r haul cynnes ar y dwfr, ymgladda'r eog yng ngwely'r afon, ac yno dodwyir yr wyau. Yna â'r eog, y gwryw'n goch a'r fenyw'n ddu erbyn hyn, yn ôl i fwynhau dŵr yr afonydd.
4. Pan ddaw'r eogiaid bach o'r wyau, ni fydd yno neb i roi bwyd na chyngor iddynt. Pethau bach â phennau a llygaid mawr ydynt, yn newid eu gwisgo hyd,—llwydwyn rhesog i ddechrau, yna llwytgoch, yna glaswyn. Eu bwyd yw'r pryfed a geir yn yr afon. Toc, daw rhyw ysfa atynt am fynd i lawr i'r môr. Yn bethau bychain dwyflwydd oed, cychwynnant, ddeugain neu hanner cant gyda'i gilydd. Y maent yn ofnus iawn. Cadwant gyda'r lan cyhyd ag y gallant, ac yn y dŵr llonydd. Pan glywant sŵn rhaeadr, daw dychryn trostynt. Troant eu pennau'n ôl, i gyfeiriad eu hen gartref. Ymhen hir a hwyr, gedy'r dewraf ohonynt i'r dŵr eu cludo i ben y dibyn, a throsodd ag ef. Yna daw'r cwbl ar ei ôl, ar draws ei gilydd, a chânt orffwys ar ôl eu braw yn y llyn tawel islaw. Wedi cyrraedd y môr, tyfant yn gyflym. Ac yn eu hamser, yn bysgod brafiach a dewrach, deuant hwythau'n ôl.
Y maent o bob maint, rhai yn pwyso cymaint a thrigain pwys, neu hyd yn oed bedwar ugain. Delir hwy â genwair bryt neu bluen, â thryferi, ac â rhwydau.
Gellid gwneud llawer mwy i ddiogelu yr wyau a'r pysgod, a sicrhau digonedd o bysg maethlawn a blasus, nag a wneir gennym ni.