Lliw yn Amddiffyn Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Teulu'r Geneu Goeg

Nadroedd

XXIII

NADROEDD

1. ER perycled yw nadroedd mewn gwledydd eraill, ac er mor farwol yw eu brathiad, nid oes le i ofni yn ein gwlad ni.

Nid oes yng Nghymru ond dwy neidr, sef y Neidr Ddu a'r Neidr Fraith. Y mae'n hawdd adnabod y naill oddiwrth y llall. Y mae llinell ddu ogam yn rhedeg hyd gefn y Neidr Ddu o'i phen i flaen ei chynffon; llwytaidd yw'r Neidr Fraith, gydag ychydig ysbotiau duon. Y mae pen y Neidr Ddu'n llydan, a phen y Neidr Fraith yn weddol hir. Mae'r naill yn wenwynig, ond nid y llall.

2. Ond peidied neb â dychrynu. Ni frath y Neidr Ddu neb ond pan ymosodir arni, neu pan roddir troed arni. Creadur bach ofrus iawn ydyw. Dianga o'r golwg rhag eich cysgod bron. Nid oes arni eisiau ond lle i ymheulo a lle i gysgodi. A phe brathai, nid yw ei brathiad byth yn farwol. Os brethir chwi, sugnwch y briw mor egr ag y medrwch, a tha flwch y poer allan. Neu, oni fedrwch gyrraedd y briw, gofynnwch i rywun arall wneud hynny. Yna cerddwch yn hamddenol i siop cyffyriwr neu adref, a rhowch dipyn o sal volatile neu amonia ar y briw. Ni fyddwch ddim gwaeth nag ar ôl brath gwenynen.

Gelwir creadur bach diniwed arall yn neidr, sef y Neidr Ddafad. Y mae hon yn medru cau ac agor ei llygaid, ond y mae llygaid neidr bob amser megis yn agored.

3. Ym mis Awst diweddaf, gwelwyd neidr yn gwrando ar ganu, ac yn ei fwynhau. Yn ystod angladd yn Lleyn y bu hyn. Yr oedd y person yn sefyll wrth y bedd a'r galarwyr yn canu emyn lleddf. A gwelid neidr, wedi dod o rywle, yn codi ei phen cyn uched ag y medrai, ac yn ymysgwyd yn ôl a blaen gyda'r canu. Tra darllenid y bennod gladdu, aeth y neidr o'r golwg. Ond pan gododd nodau prudd "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau," daeth y neidr i'w lle wedyn, a siglai ei chorff yn ôl ac ymlaen gyda'r sŵn.

Nodiadau

golygu