Llyfr Haf/Lliw yn Amddiffyn

Pryfed Tan Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Nadroedd

XXII

LLIW YN AMDDIFFYN

1.Y MAE'N ddyletswydd ar bob creadur amddiffyn ei fywyd. Dyna'i reddf ddyfnaf. Y mae gan bob un ryw fodd i'w amddiffyn ei hun,—y mae gan y llew ei balf, yr arth ei chrafanc, y march ei garn, y baedd ei ysgythrddant; ac fel y dywedai yr hybarch Michael D. Jones, gan ddal ei ddwrn o flaen cynulleidfa: "Ac y mae gan ddyn, yntau, ei forthwyl." Y mae gan ambell greadur diniwed ei amddiffynfa,— y draenog ei wisg, y crwban ei gragen.

2. Ond hwyrach mai'r prif amddiffyn yw lliw. Edrychwch ar y darlun acw. Ond craffu, chwi welwch ddau wyfyn, un ar bob cangen uwchlaw'r fforch. Eu hunig amddiffyn rhag llygaid llym adar ysglyfaethus yw tebygrwydd eu cyrff i'r goeden y maent yn gorffwys arni. Pe gwelech hwy yno, yn eu lliwiau priodol, ar ddamwain yn unig y canfyddech hwy.

A fuoch chwi'n gofyn erioed: pam y mae y gloyn byw hwn yn felyn, a hwnacw'n las, a'r llall yn gochddu ac un arall yn wyn? Y mae eu tlysni'n amddiffyn iddynt, gan ei fod yn debyg i dlysni'r blodau yr hoffant ddisgyn arnynt. A fuoch chwi erioed yn teimlo ysbrigyn o bren crin yn troi'n

fyw wrth i chwi gyffwrdd ag ef? Gwyfyn oedd,

Y Gwyfyn Llwydfelyn

ar lun ysbrigyn. Y mae ieir mynydd bychain yr un lliw yn union â gwellt y mynydd. Y mae un gloyn byw yn union fel blodau'r grug.

Y mae pob peth sy'n byw yn yr anialwch,— camel, ehedydd, neu sarff,—o'r un lliw a'r tywod. Y mae adar y Pegwn, gwlad yr eira, yn wynion.

Y mae lliw yn gymorth i'r bwystfil ysglyfaethus hefyd, fel na welir ef yn dyfod. Y mae brychni'r llewpard, a rhesi ysblennydd y teigr, yn eu gwneud yn debyg i dyfiant coedwigoedd yr India. Y mae melyn hardd y llew yn ei wneud bron yn anweledig yn erbyn y wlad felynwerdd y llama ar hyd-ddi.

Nodiadau golygu