Llyfr Haf/Pryfed Tan
← Locustiaid | Llyfr Haf gan Owen Morgan Edwards |
Lliw yn Amddiffyn → |
Pryfed Tân
XXI
PRYFED TÂN
1. YR wyf yn cofio haf gwlyb anghyffredin. YR Nid oedd dichon cael y gwair yn sych. Yr oedd hanner cyntaf Awst wedi mynd, a ninnau heb gael dim gwair i ddiddosrwydd. Ryw fin nos mwyglaidd peidiodd y glaw â disgyn, a chododd a wel hyfryd o'r gogledd. Pan oedd wedi nosi, daeth y gair fod y gwair yn ddigon sych i'w drin. Ffwrdd â ni i'r weirglodd, a'n cribiniau yn ein dwylo. Wrth i mi droi'r gwair â'm cribin, beth feddyliech oedd fy syndod pan welwn y ddaear megis ar dân, gan oleuni gloyw, tan y gwair. Ofnwn, ar yr olwg gyntaf, losgi dannedd fy nghribin. Miloedd o bryfed tân oedd yno, yn chwilio am ryw fwyd yn y gwair wrth eu golau eu hunain.
2. Tua diwedd yr un mis, yr oeddwn yn mynd i fyny un o ffyrdd y cwm yn fyfyrgar, wedi nos, a'm pen i lawr. Cyn dod at drofa, codais fy mhen yn sydyn, a gwelais beth a wnaeth i mi gilio'n ôl mewn dychryn. Yr oedd pen aruthrol yn llenwi'r ffordd. Yr oedd ganddo drwyn bachog anferth. O bob ochr i'r trwyn yr oedd llygad yn fflamio tân. Fy meddwl cyntaf oedd troi fy nghefn, a dianc am fy mywyd oherwydd clywn fy ngwallt yn codi ar fy mhen. Ond yr oedd arnaf awydd gwybod beth oedd. Sylwais nad oedd yn symud dim. Cerddais ato, yn araf, araf. O'r diwedd, gwelais nad oedd o'm blaen ond carreg ddu fawr yn taflu allan o'r gwrych yn y drofa, a dau ysmotyn o bryfed tân ar lethr y clawdd uwch ei phen. Bum yn edmygu'r ddau deulu,—teulu'r Lampyris,— a rhoddais nifer ohonynt ar gantal fy het. Arosasant yno'n ddiddig, ac wedi mynd adre, rhoddais hwy o'r neilltu, gan feddwl eu chwilio'n fanwl drannoeth. Erbyn y bore, nid oedd yno yr un ohonynt.
3. Dywedir bod dwy lain deneu o sylwedd caled gwyn dan y pryfed; y mae'r llain yn ddwbl, yr ochr allan yn felynaidd dryloyw; a'r ochr i mewn yn wen, na ellir gweled trwyddi. Medr y pryf anadlu i'r lleiniau hyn, a rhywsut, ni wyddys yn siwr sut, medr oleuo lamp i ddangos iddo ei lwybr a'i gymdeithion.
Dywed llyfrau fod llawer o bryfed tân. Y mae un pryf wrth ei filiynau ar wyneb y môr, na welir yn eglur ond trwy chwyddwydr. Weithiau, gwna i filltiroedd o fôr edrych fel pe byddai ar dân. Y mae un pryf y gellir darllen print mân yng ngolau ei bedair lusern. Hwyrach bod rhai ohonoch wedi gweld Jac y Lantar. Rhyw bryfed tân yw'r hen ffrind hwnnw. Golau tyner prydferth ydyw'r golau. Y mae gwŷr dysgedig wedi rhoi llawer o amser i astudio'r golau mewn pryfed ac mewn mater fel phosphorus. Erbyn hyn medrant roddi paent ar wyneb oriawr a'i gwna'n dryloyw yn y nos.