Llyfr Nest/Ystraeon y Genhades
← Ystraeon yr Hen Gadfridog | Llyfr Nest gan Owen Morgan Edwards |
Ystraeon y Lleill → |
Ystraeon y Genhades
I.—Y GENHADES
O BOB ystraeon glywodd, y rhai gofiai Nest oreu oedd ystraeon adroddid iddi, weithiau ar fwrdd y llong, weithiau yn y cabin, gan foneddiges ieuanc. Athrawes oedd, ac yr oedd yn mynd allan fel cenhades i Ynysoedd Môr y De. Yr oedd Nest yn teimlo fod llygaid dwys y genhades yn edrych drwyddi, ac i'w henaid; ond yr oeddynt yn dyner ac yn garedig iawn. Yr oedd ei llais yn felodaidd iawn hefyd; a theimlai Nest fod ei chwmni, nid yn unig yn ei gwneud yn hapusach, ond hefyd yn ei gwneud yn well.
Weithiau adroddai'r genhades hanes rhyw blentyn bach gartref. Weithiau galwai sylw at rywbeth welent,—a gwelsant nautilus un diwrnod. Dro arall, adroddai ryw ystori oedd wedi glywed. A thro arall gwnai ambell gân fechan ddigri i ddifyrru Nest. Yr oedd yn llawn o gymdymdeimlad â phlant ac â rhai'n dioddef. Ni Wyddai Nest o'r blaen fod cymaint o ddioddef yn y byd, a fod gan Iesu Grist gymaint o waith cyn 'ennill y byd yn lwyr iddo. Bob nos, hefyd, wrth ddweyd ei gweddi, gofynnai i Iesu Grist a gai hi ei helpu i ennill y byd iddo. Nid y genhades ofynnodd iddi wneud; daeth y peth i feddwl Nest ei hun.
"Y mae'r tair yn dod yo ddistaw iawn."
II.—TAIR GENETH FACH
AR fore cynta'r flwyddyn, yr oedd tair geneth fach yn dod i lawr y grisiau eu hunain, wedi codi heb i neb eu galw. Y mae'r tair yn dod yn ddistaw iawn; ac y mae gwên disgwyliad ar wyneb pob un. Er ei bod yn oleu ddydd, y maent yn meddwl eu bod yn codi yn fore iawn. Eu hamcan yw gwaeddi "Fy nghalennig i" cyn i neb ddeall eu bod wedi codi, a chyn i neb waeddi "Fy nghalennig i" arnynt hwy. Eu perygl mawr yw chwerthin yn uchel cyn cyrraedd yr ystafell lle y mae eu mam a'u tad; oherwydd y mae eu calonnau yn llawn o obaith a mwynhad.
Nid oes dim ar y ddaear hon mor brydferth a phlant da mewn cartref hapus. Os medr rhieni wneud cartref hapus i'w plant, byddant wedi rhoddi cariad yn eu meddyliau at ddiniweidrwydd pur bore oes, ac wedi rhoddi hiraeth yn eu calonnau am gartref a mam a thad,—hiraeth fydd yn santeiddio eu heneidiau ym mhob temtasiwn a thymestl,—hyd eu bedd. Nis gallwn, feallai, roddi cyfoeth mawr na iechyd perffaith i'n plant; ond gallwn oll, hyd yn oed y tlotaf o honom, geisio gwneud eu cartref yn gartref dedwydd iddynt.
Yn nyfnder y gaeaf hwn, gellid gweld golygfa torcalonnus yn un o drefi bychain mwyaf crefyddol a mwyaf dyngarol Cymru. Yr oedd tri o blant bach heb gartref. Pan oedd yn dyddio, rhwng saith ac wyth o'r gloch y bore,—bore oer a gwlyb,—yr oedd tri bychan yn eistedd ar garreg drws gorsaf yr heddgeidwad. Gwasgont at eu gilydd i gynhesu; ond digon oer oedd y tri bychan carpiog.
Paham y daethant yno? Y mae'n debyg mai oherwydd mai yno y gwelsant eu tad a'u mam ddiweddaf. Yr oedd y rhai hynny wedi eu gwysio o flaen yr ynadon am esgeuluso eu plant, a'u gadael yn newynog a diymgeledd. Cafwyd y tad a'r fam yn euog o'r creulondeb hwn at eu plant eu hunain, ac anfonwyd hwy i'r carchar.
Beth all wneud i dad a mam esgeuluso eu plant, a'u gadael i wylo mewn carpiau, ac heb ddigon o fwyd? Nid oes ond un peth yn y byd fedr wneud hyn, a'r peth hwnnw yw'r ddiod feddwol.
'Tra'r oedd y tad a'r fam yn y carchar, yr oedd eu tri plentyn bach yn chwilio am danynt; ac wedi cyrraedd rywsut at y fan y gwelsant hwy ddiweddaf. Beth bynnag fyddant, oddiwrth eu tad a'u mam y disgwyl plant nodded.
Cymerodd rhyw Samaritan drugaredd ar y plant. Cawsant fwyd a chynhesrwydd; a rhoddwyd cyfarwyddyd iddynt ffordd i fynd i orsaf y ffordd haearn, i fynd oddiyno i dloty tref gyfagos. A gwelwyd y tri yn cychwyn drachefn,—y plentyn lleiaf yn cael ei gario ar gefn yr hynaf, ac un troed bach yn noeth.
Yn lân a hapus y dylai plant gael codi o'u gwelyau bob bore, i dderbyn croesaw a chusan tad a mam. Ond am y tri bychan hynny, yr oedd yn rhaid iddynt hwy guro'n ofnus wrth ddrws y tloty, lle nad oedd iddynt dad na mam.
III.—BACHGENNYN YN ACHUB TREF
Hwyrach yr hoffech wybod sut yr achubodd llanc ieuanc o'r enw Hans dref rhag boddi. Is-Ellmynwr (Dutchman) o ran ei rieni oedd y bachgen hwn, ac yr oedd o'i febyd,—fel y dylai pob plant da fod,—yn ufudd bob amser i'w rieni. Yr oedd hefyd wedi cael ei ddysgu i ba le bynnag y caffai ei anfon gan ei dad a'i fam, i ddod adref yn gynnar o'i negesau.
Un prynhawn, fodd bynnag, yr oedd ei rieni yn dechreu mynd yn anesmwyth yn ei gylch, am nad oedd wedi dychwelyd yn ei amser priodol. Y tro hwn cafodd ei anfon o'r dref i'r pentref cyfagos, lle yr oedd ei ewythr yn byw, ac yr oedd fel arfer i ddychwelyd yn ddioed ar ol tê, fel y byddai gartref cyn nos. Aeth amser heibio, ond nid oedd hanes am Hans yn unman, a dechreuodd ei rieni anesmwytho. Wedi mynd at y drws dro ar ol tro, penderfynasant fynd i chwilio am dano, a chymeryd gyda hwy lusern oleuedig i gael gweld y ffordd.
Digwyddai fod y llwybr ar hyd yr hwn yr oedd rhaid i Hans ddod ar ochr arglawdd, oedd yn cadw y môr rhag gorlifo y tir. Tra yr oedd ei rieni yn mynd hyd y llwybr hwn, yr oeddynt wrth reswm yn bur ofalus, gan aros yn awr ac yn y man i alw a gwrando. Ond nid oedd dim argoel iddynt glywed Hans nes oeddynt bron a chyrraedd y pentref. Yna arosasant i alw,—"Hans, Hans."
O'r diwedd, clywsant lais bron odditanynt, ac aeth ei dad i weld beth oedd y mater. A pha beth, debygech chwi, oedd Hans yn ei wneud? Yr oedd yn cadw y môr yn ol â'i law fach.
Tra yr oedd y llanc yn cerdded adref, gwelodd ar ochr yr arglawdd fod y dwfr yn dechreu torri drwy agen fechan. Clywodd ei dad lawer gwaith yn siarad am y llifogydd dychrynllyd oedd wedi cymeryd lle fel canlyniad i'r môr dorri drwy y gwrthgloddiau hyn, er i'r dechreu fod yn fychan, canys ai yr agen yn fwy, fel y byddai i'r gwrthglawdd ymollwng, a miloedd lawer yn boddi mewn canlyniad. Tra yn cofio am hyn, fe welodd y llanc bychan fod y ffrwd fach hyn yn dangos fod perygl. 'Doedd dim amser i redeg i'r dref i roi rhybudd, a 'doedd neb yn agos yn y cyfwng. Penderfynodd fynd i lawr i'r banc ei hunan, gan wasgu ei law fechan ar y twll i gadw y dwfr yn ol. Bu yno am amser maith yn methu clywed na gweld neb nes iddi fynd yn nos; er iddo alw yn fynych, 'dloedd neb yn ddigon agos i'w glywed, hyd nes iddo glywed llais ei dad. Yr oedd, erbyn hyn, yn oer a blinedig, ond arhosodd yno wrth ei orchwyl. Fe welodd ei dad y perygl ar unwaith, ac fe ddaliodd ei law gref i gadw y dwfr yn ol cyhyd ag y bu y fam yn rhedeg i'r dref i gael gweithwyr i gau y twll yn briodol. Ac nid hir y buont cyn gwneuthur hyn, ac yn awr yr oedd y perygl drosodd.
Ond yr oeddynt i gyd yn teimlo fod Hans bach wedi achub y dref. Oni buasai iddo atal y ffrwd fechan, buasai wedi rhedeg yn un fawr, a chyn y gallasai neb ei rhwystro, fe fuasai y môr wedi torri drwy y gwrthglawdd, ac erbyn y bore fe fuasai yr holl dref wedi boddi.
Gwelwn wrth hyn y gall perygl mawr godi oddiwrth beth sydd yn edrych yn fychan ar y cyntaf; ac os ydym am achub pobl rhag peryglon mawrion, ni ellir byth ddechreu yn rhy gynnar.
IV.—Y FOR FORWYN
Un o hanesion hynaf y byd yw hanes y fôr forwyn. Hanner genethig, hanner pysgodyn oedd hi. Yr oedd ganddi wyneb a gwallt a dwylaw merch brydferth, ond yr oedd gwrychell pysgodyn ar ei chefn, ac yn lle coesau a thraed yr oedd ganddi gynffon fforchog.
Trigai mewn ogof dan y môr, dan y creigiau peryglus. Os daw llong at y creigiau hynny, gwae iddi. Curir hi gan y tonnau yn erbyn y graig nes a'n ddrylliau. Gwaith y fôr forwyn dlôs a chreulon oedd hudo morwyr, druain, i'w dinistr. Canai delyn fechan, ac unwaith y clywai'r morwyr ei llais swynol, ni fedrent beidio troi y llong o'i llwybr, a mynd i gyfeiriad y llâis mwyn a'r dinistr.
Y mae hanes am un o forwyr yr hen amser fel hyn. Gwyddai fod ei long yn dod at gartref y fôr forwyn. Llanwodd glustiau y rhwyfwyr oll â chŵyr, fel na chlywent ddim. Yna gwnaeth iddynt ei rwymo ef wrth yr hwylbren yn ddiogel; a gorchymynodd iddynt gadw ar eu llwybr, beth bynnag a ddywedai ef wrthynt.
Bob tro y rhoid y rhwyf yn y dŵr, yr oeddynt yn dod nes nes at gartref y fôr forwyn. Toc, clywai'r morwr gân na chlywodd ei chyffelyb erioed,—yr oedd mor bur, mor felus, mor swynol. Teimlai awydd angerddol am rwyfo i gyfeiriad y llais. Anghofiodd y perygl, gwaeddodd ar y gŵr oedd wrth y llyw ac ar y morwyr i droi oddiar eu llwybr i'r de. Ond nid oeddynt yn clywed dim. Rhwyfasant yn ddiogel heibio'r perygl heb wybod ei fod yno.
Y FÔR FORWYN
Y mae'r ystori'n wir. Y mae môr forwyn yn hanes pob bachgen ieuanc a geneth ieuanc. Ceisia hudo pob un oddiar lwybr ei ddyledswydd. Y munud y gwrandawa arni, ac y try oddiar lwybr gwaith a dyledswydd ì chwilio am bleser, mae creigiau dinistr o'i flaen, â drwy weddill ei fywyd yn wreck. Beth yw hanes y bechgyn a'r genethod sydd wedi codi o dlodi i gyfoeth, ac o ddinodedd i fri, ac o gylch cyfyng i ddefnyddioldeb eang? Gwrthod gwrando ar lais y fôr forwyn. Yn lle ymroi i bleser diog fel eu cyfoedion, gweithiasant yn galed, daliasant eu llygaid ar nôd uchel, a daethant yn ddiogel o byllau'r glannau i'r môr agored ardderchog sydd yn llwybr i bob man.
V.—CRWYDRYN BYCHAN
MAE gwir yn rhyfeddach na rhamant yn ddigon aml. Ychydig amser yn ol, anfonodd boneddiges imi ddernyn o'r Daily Telegraph, yn cynnwys hanes crwydriadau plentyn digartref.
Ddydd Sadwrn diweddaf, ebe'r papur newydd, dygwyd plentyn o flaen yr ynad, yr hwn a edrychai'n syn ar yr heddgeidwaid â llygaid mawr agored, ar y cyhuddiad o "grwydro." Bachgen bychan bychan oedd, tair ar ddeg oed, a'i enw Robert Robinson, ac yr oedd wedi bod yn grwydryn hyd wyneb y ddaear ers dwy flynedd.
'Trodd ei dad ef o'r tŷ yn Crewe yn 1895, paham nis gwyddid. Crwydrodd y bychan oddiyno, hyd lwybrau gwyrddion ac hyd y ffyrdd hirion, blin, ar heulwen a gwlaw, heb nôd o'i flaen, byth yn aros yn hir yn unman, am fisoedd a misoedd. Yr oedd ganddo chwaer yn Warrington, ond pa fodd y gallai ei chael mewn lle mor fawr a phoblog? Ond daliodd i gerdded ymlaen o hyd.
Daeth y gwanwyn, a rhoddodd flodau ar ei lwybr; daeth yr haf, a gwelai'r plant yn chwareu yn y caeau; daeth gwynt yr Hydref i chwirlio'r dail oddiar y coed, a gwelai yntau gasglu'r ffrwythau; daeth eira a rhewynt y gaeaf, a gwelai blant wrth y tân mewn llawer bwthyn clyd. Ond nid oedd neb a gair caredig i'w ddweyd wrtho ef; yng nghysgod gwrych neu fur y cysgai, heb gwmni ond y nos a'r eira a'r sêr. Cwsg oedd yr unig gymhwynasydd, ac ambell freuddwyd ddeuai i'r meddwl bychan.
Weithiau cai ei hun ar waenydd unig Yorkshire, yn cysgu dan goeden heb neb o fewn milltiroedd iddo. Dro arall, cai ei hun yn heolydd Lerpwl, yn cysgu mewn rhyw gornel dywell, a neb o'r miloedd pobl yn malio dim ynddo ef.
Daeth hiraeth am ei fam dros ei feddwl unwaith, a throdd ei gamrau tua'r cartref yr oedd wedi ei droi ohono. Erbyn cyrraedd yno, ac edrych trwy'r ffenestr, a holi, yr oedd ei fam wedi marw. Trodd ymaith, i'r nos, yn fwy unig nag erioed.
A ddioddefodd y plentyn bychan hwn? Do, mae'n ddiameu, misoedd o ing iddo ef oedd y misoedd hynny. Mae plant yn hoff iawn o gwmni, yn enwedig o gwmni eu gilydd; a gwn beth oedd teimladau y crwydryn bach pan wrthodai pob plant siarad, rhagor cyd-chwareu, âg ef.
Trodd ei gamrau tua Llundain. Teithiodd y ffordd hir heb gwmni, heb gymorth, ar fin newynu'n ddigon aml. Gwelai blant yn dod o'r ysgol, yn prysuro adref,—ond, er hired ei siwrne, nid oedd iddo ef gartref yn y byd.
Wedi cyrraedd Llundain, trodd o'r heolydd llawnion, a gorweddodd i gysgu wrth droed cofgolofn General Gordon, yr arwr achubodd lawer o blant digartref ac a roddodd iddynt foddion i ennill eu cynhaliaeth. Ac yno y cafodd yr heddgeidwad ef, yn cysgu'n dawel.
VI. EISIEU BOD YN FRENIN
"MI hoffwn fod yn frenin," ebe Huw bach ab Ioan. "Fuase raid i mi ddim dysgu felly, a fuase raid i mi ddim ufuddhau, dim ond gorchymyn."
Yr oedd Huw bach ab Ioan yn gwneud camgymeriad mawr. Y mae brenin yn gorfod dysgu, yn gorfod gweithio'n galed, ac yn gorfod ufuddhau,—ychydig iawn o frenhinoedd sydd yn cael eu ffordd eu hun. Gall Huw wneud ceffylau o'r cadeiriau, a dychmygu ei fod yn carlamu'n wyllt, a miloedd o bobl yn rhedeg oddiar y ffordd, ac yn rhyfeddu at ei allu i yrru cynifer o geffylau. Gall Huw ddychmygu hefyd y gallai reoli'r byd heb ddysgu dim; y mae llawer hŷn nag ef yn meddwl yr un peth ynfyd.
Bachgennyn, ar hyn o bryd,[1] yw brenin Spaen. Ei enw yw Alfonso XIII. Bu deuddeg Alfonso ar orsedd Spaen o'i flaen; ac yr oedd rhai ohonynt ynrhyfelwyr dewr ac yn wladweinyddion doeth. Ond bachgennyn tal, gwan, yw ef.
Mae'n medru, heblaw ei iaith ei hun, Ffraneaeg a Saesneg a'r Almaeneg, ae y mae'n bur hyddysg yn ei Ladin. Cwyd saith o'r gloch y bore drwy'r flwyddyn. Wedi ymwisgo, gweddio, a brecwesta, bydd gyda'i lyfrau o hanner awr wedi wyth tan ddeg, llyfrau Saesneg a llyfrau Ffraneaeg bob yn ail fore. O ddeg i unarddeg, ca wers mewn marchogaeth. O unarddeg tan hanner dydd astudia fferylleg, daearyddiaeth, neu'r grefft filwrol. Am hanner dydd ca nawnbryd gyda dau o'i athrawon. O un tan ddau cymer Almaeneg a thynnu lluniau bob yn ail. Wedi hynny, darllen lenyddiaeth a hanes. Y mae'n hofî iawn o hanes. Yna a allan am ychydig gyda'i fam, neu a drwy drill gyda bechgyn o'r un oed ag ef. Am saith o'r gloch ciniawa gyda'i chwiorydd. Am hanner awr wedi wyth, cymer wers mewn cerddoriaeth. Yna, wedi dweyd ei bader, a i'w wely am naw.
Y mae'n amheus gennyf a oes bachgen yn holl Ysgolion Sir Cymru yn gweithio mor galed a brenin baeh Spaen. Ymhen dwy flynedd a hanner bydd yn dechreu rheoli'r wlad. Y mae ei waith yn un anodd iawn, ac ni ŵyr neb eto a fedr lwyddo. Y mae llond y wlad o wrthryfel; y mae'r talaethau,— Catalonia, Asturias, Galieia, ar ereill,—yn teimlo iau Castile yn drom. Y mae llond y wlad o ddioddef ac o bechod; y mae'r llafurwyr yn cashau eu meistri, a therfysgoedd yn aml. Y mae Spaen yn dlawd, a'r trethi'n pwyso'n drwm ar y bobl. Y mae newydd fod mewn rhyfel âg Unol Dalaethau'r Amerig, ac wedi colli ei milwyr a'i llongau a'i threfedigaethau a'i phareh,—a hithau'n wlad falch iawn.
Tasg caled sydd o flaen Alfonso bach. Beth pe buasai Huw bach ab Ioan yn frenin, ae yntau'n wyllt ei dymer ac yn gwrthod dysgu? Dinistriai ei wlad ac ef ei hun.
VII.—PRYDER AM DAD
AFON fawr India yw'r Ganges. Addolir hi gan drigolion y wlad, a chredant y ceir goleuni ganddi ar bob amgylchiad mewn bywyd. Os bydd rhywun mewn perygl, rhoddant lusern fechan i nofio arni. Os nofia llusern i lawr yr afon. o'r golwg, tybiant y bydd y claf byw; ond os difíydd yn y dŵr, credir mai marw a wna.
Ar ei glan, mewn bwthyn salw, flynyddoedd yn ol, fe drigai geneth hardd. Collasai ei mam, a denwyd ei thad i ymrestru yn filwr i ymladd â gelynion ei wlad. Ni allai y fereh, gan flinder dwys, wneud fawr o ddim ond meddwl am, yrfa ei thad dewr. Carasai yn fawr wybod rhywbeth yn ei gylch; ac wedi hir-ddisgwyl, o'r diwedd penderfynodd ymofyn â'r afon Ganges. Dacw hi, gyda'i llusern fach yn ei llaw, ar noson dywell, yn dianc, yn ddistaw fel ewig, o'r bwthyn, a'i llygaid yn llawn o nwyfiant ieuenctid. Dryllir ei sandalau gan y drain a'r mieri, a chilia bwystfilod rheibus yn synedig wrth weld y goleuni a chlywed y trwst. Neshaodd yr eneth at yr afon a gosododd y llusern i nofio arni, a chariwyd hi i lawr gyda'r lli. Gwelir pryder dyfnach ar wyneb y fach, a graddau o ofn yn dechreu dangos ei hun yn ei llygaid.
Cred fod ei thad yn fyw ac yn iach, ac y del adref ati ryw ddydd, os parha y llusern yn oleu tra y dywed hi ei gweddi hwyrol. Tŷb weithiau fod y goleuni wedi mynd allan, a chyffroir hi nes bron dyrysu ei gweddi. Camgymeriad ydoedd. Daw y llusern i'r golwg unwaith eto. Mae'r weddi drosodd, a chenfydd, wrth sylwi'n fanwl, y goleuni yn teithio yn hwylus i gyfeiriad y môr. Cyfyd i fyny wedi i'r llusern gilio o'r golwg, gan redeg tua'r bwthyn a gwaeddi,—"Mae 'nhad yn fyw!" Gwrendy y creigiau ar ei chri ac atebant yn ol,— "Mae 'nhad yn fyw."
Gobeithio na siomwyd hi, ond i'w thad ddychwelyd yn iach a chydag anrhydedd mawr, canys ni feddai drysor mwy na'i eneth fach.
VIII. NOFIWR PRYDFERTH
Y MAE cragen eiddil gywrain y Nautilus yn un o'r pethau tlysaf yn y byd. Gall y Nautilus ddod o'r gragen, gan ledu dwy fraich fel dwy hwyl i'r gwynt, a physgota & breichiau ereill. Neu gall ymwasgu i'w gragen, a suddo i'r dyfnder tawel, tra bo ystormydd yn curo yn ddidrugaredd ar wyneb y môr. Gwerthir y gragon gain gan ynyswyr Môr y De; ac nid oes law fedr gerfio peth tlysach, perfieithiach, na hi.
Y NAUTILUS YN NOFIO
IX.-GWRHYDRI GENETHIG
GENETH dlawd oedd Pati. Gwraig weddw oedd ei mam, yn ennill tamaid prin, wrth olchi, i Pati a thri brawd llai.
Gwelais Pati droion yn edrych ar blant bach dedwydd oedd yn cael digon o fwyd, a digon o deganau. Yr oedd yn amlwg na wyddai beth oedd eiddigedd. Edrychai arnynt gyda llygaid llawn o serch; buasai'n foddlon iawn i chwareu gyda hwy, ac i wneud unrhyw dro caredig iddynt. Gwelais hi wrth ffenestr siop teganau lawer gwaith hefyd. Yr oedd yno un ddoli wedi mynd â'i serch yn lân. Yr oeddym yn lletya bron gyferbyn; a llawer gwaith y gwelais Pati yn sefyll o flaen y ffenestr, a'i chap wedi ei daflu'n ol oddiar ei gwallt goleu, ac yn syllu yn fyfyrgar ar y ddoli dlôs. Ond ni fuasai waeth iddi hi feddwl am y lleuad, neu am bluen o aden angel, nag am y ddoli honno. Yr oedd yn costio chwe cheiniog.
Ryw nawn yn yr haf, yr oeddwn i fynd a cherbyd at lan y môr i gyrchu fy mam.adre. Yr oedd hi wedi bod yn eistedd yno drwy'r bore, yn mwynhau awel y môr. Pan ddynesais ati, gwelwn fod Pati yn ei hymyl. Ac ebai wrthyf,—
"Y mae'r eneth fach yna, weli di, wedi bod yn ffeind iawn wrtha i. Mi gollais fy ysbectol; ac oni bai am y ffrynd bach yma, ni chawswn hi eto. Hwde, fy ngeneth i, dyna i ti chwe cheiniog i brynnu doli."
"I brynnu doli,"—gwelwn wefusau Pati yn ail adrodd geiriau diweddaf fy mam, ac yr oedd llond ei
DACW'R DDOLI OEDDWN I WEDI FEDDWL GAEL
llygaid gleision o lawenydd. Ni phrysurodd ymaith, ond cydiai'n dynn iawn yn y chwech.
Aeth y cerbyd a mam a finnau'n gyflym i'n llety. Ond pan edrychais at ffenestr y teganau, wele Pati yno. Safai yn llonydd a myfyrgar o flaen y ffenestr, ac o flaen y ddoli. Yr oedd nôd ei bywyd bychan yn y golwg. Penderfynais fynd i lawr, ac ar draws yr heol, i weld y llawenydd ar wyneb Pati wedi iddi brynnu'r ddoli.
Erbyn i mi gyrraedd yno, yr oedd Pati wedi diflannu. "I'r siop yn sicr," meddwn wrthyf fy hun. Arhosais ennyd, gan ddisgwyl gweld llaw y siopwraig yn tynnu'r ddoli o'r ffenestr. Ond ni welwn ddim. Eis i'r siop, Nid oedd Pati yno, nac wedi bod yno. I ble yr aethai, tybed? Cefais wybod yn union. Pan ddaethum allan o'r sìop, gwelwn hi'n sefyll yn fyfyrgar fel o'r blaen o flaen y ffenestr. Ni welodd hi fi.
Yr oedd torth chwech'ar un fraich iddi. Rhoddodd fŷs y llaw arall ar y ffenestr, ar gyfer y ddoli, ac meddai wrthi ei hun,— Dacw'r ddoli oeddwn ni wedi feddwl gael." Yna trodd ymaith, a cherddodd yn gyflym tuag adre, tan fwmian canu.
Bu ymladd caled rhwng y ddoli a'r dorth yn mynwes y plentyn, mae'n ddiameu. Ond gwell oedd ganddi foddio ei mam a'i brodyr bach newynog na boddio ei hun. Ac os na chaf ddweyd fod Pati wedi cyflawni gwrhydri, nis gwn beth yw ystyr y gair.
X.—CAMGYMERIAD Y FAM
MAE serch mam at ei phlant, fel rheol, yn gwneud ei meddwl yn ddoeth a'i bywyd yn arwrol. Y mae ambell eithriad; a'r eithriadau hyn yw pethau pruddaf hanes y byd. Adroddir eto, ar aelwydydd Finland, hanes prudd mam gollodd ei serch am ennyd at ei phlant.
Yr adeg honno, yr oedd Finland newydd ei gorchfygu gan Rwsia greulon, ac yr oedd sawdl y gorthrymwr ar wddf y gwladgarwr. Yn ystod y rhyfel yr oedd heidiau afrifed o fleiddiaid wedi dod o'r gogledd oer a'r dwyrain caled, ac ni feiddiai dynion dewr fynd i'r caeau a'r coedydd, hyd yn oed liw dydd. Daeth gaeaf gerwin,—eira gwyn dros bob man,—a daeth newyn at yr heidiau bleiddiaid.
Yr oedd mam yn mynd â'i thri phlentyn i dŷ ei thad, i chwilio am nodded yn y dyddiau duon hynny. Yr oedd y dioddef, mae'n sicr, wedi gwanhau ei meddwl. Bachgen afiach, croes, chwech oed, oedd yr hynaf; nid oedd dim wrth ei fodd, ac yr oedd ei lais gwenwynllyd i'w glywed yn cwyno ar hyd y dydd. Bachgen hardd, serchog, pedair oed, oedd yr ail; yr oedd pawb yn hoff iawn o hono. Baban ar y fron oedd y llall,
Cerbyd un ceffyl oedd ganddynt, y fam yn dal y ffrwyn. Carlamai'r ceffyl ymlaen, rhag ofn y nos— a'r bleiddiaid. Cyn mynd ymhell, clywent udiadau'r bleiddiaid o'u hol. Fflangellai'r fam y ceffyl; ond, er iddo fynd ei oreu, yr oedd y bleiddiaid yn ennill arnynt. Rhuthrodd dau flaidd enfawr at y ceffyl. Heb betruso dim, cydiodd y fam yn y bachgen hynaf a thaflodd ef i'r bleiddiaid. Arosodd yr holl haid am ennyd i ymladd am dano ac i'w fwyta.
Cyn pen hir, clywid sŵn ofnadwy'r bleiddiaid yn nesu drachefn. Edrychodd yr ail fachgen ym myw llygaid ei fan. "Mami, ydw i'n dda; yn tydw i, mami?_ Chaiff y bo-bos mo'na i, a gan nhw, mami ? mami? Cyn pen ychydig funudau, yr oedd y bleiddiaid ar eu gwarthaf; a thaflodd y fam y bychan hoffus iddynt.
Yn fuan fuan, daeth sŵn y bleiddiaid ar yr awel eto. Taflodd y fam ei baban iddynt oddiar y fron. Cyn i'r bwystfilod ddod ar warthaf y fam wedyn, yr oedd hi a'r ceffyl lluddedig wedi cyrraedd cyfannedd. Cafodd amser i adrodd hanes colli'r plant; ac yna bu farw o ddychryn a thorr calon. Ystori brudd, onite? Ond y mae gwers i'r hanes ofnadwy hwn. Nid oes dim, hyd yn oed cadw bywyd, yn rhoddi hawl i ni wneud drwg. Mil gwell i'r fam, druan, fuasai marw gyda'i rhai bychain na marw o dorr calon wedi eu colli.
XIL—PWSI A MINNAU
CYD-SBIO, cyd-studio mae Pwsi a fi,
A'n llyfr sydd yn llawn o ddarluniau;
Ar bedwar troed bach yn eistedd mae hi,
Ac felly yn union 'rwyf finnau.
Disgwyl gweld llun rhyw blant bach yr wyf fi,
Bob tro a roddaf i'r ddalen;
Ond nid lluniau felly sydd wrth ei bodd hi,—
Mae Pwsi yn disgwyl llygoden.
- ↑ Erbyn hyn y mae'r brenin hwn yn ŵr, wedi priodi un o deulu ein brenin ni, ac wedi gweld llawer o droion cynhyrfus.