Llyfr Nest/Ystraeon y Lleill

Ystraeon y Genhades Llyfr Nest

gan Owen Morgan Edwards

Ffarwel

Ystraeon y Lleill

1.—Y LLEILL

YR oedd tyrfa, fel y dywedais, ar fwrdd y llong. Hoffai pawb weld yr eneth fechan chwim yn gwibio hyd y dec ac yn y cabanau, ac yr oedd pawb a gair mwyn a gwen pan fyddai hi gerllaw. Gwelent mor ieuanc oedd, a chofient fod ei thad yn wael.

Wedi deall ei bod yn hoff o ystraeon, ceisiai pawb gofio rhyw ddychymyg neu hanes i'w adrodd iddi. Ac felly clywodd Nest lawer iawn o ystraeon nad ydynt yn y llyfr hwn.

Heb fanylu dim am yr aroddwyr ereill,—ond dweyd fod rhai yn garedig ddiathrylith a'r lleill yn adroddwyr o fedr, dyma ychydig o'r pethau glywodd

II.-Y MYNYDD A'R AFON

FFARWEL, fy nghyfeilles hawddgar," ebe'r Mynydd wrth yr Afon, "y mae'n well gennyt y Môr na mi. Yr wyf yn sefyll yma bob amser, a than oleu haul a lleuad yr wyf yn syllu ar dy dlysni, a gwrando ar dy gân. Ond mynd dy oreu yr wyt ti, ddydd a nos. Mae arnat hiraeth am y Môr."

"Rhaid i mi fynd," ebe'r Afon, "i roi dŵr i'r blodau. Oni weli hwy ar fy mynwes? Y mae'r

Y MYNYDD A'R AFON

ddôl yn disgwyl am danaf, i'w diodi. Y mae fy merched, y ffrydlifoedd bychain, yn crwydro i chwilio am danaf. Y mae llongau a chychod yn fy nisgwyl i'w cludo i'r môr."

Bydd arnaf hiraeth am danat," ebe'r Mynydd, "a ddoi di'n ol?"

"Dof. Pan af i'r môr, collaf bob amhurdeb. Cwyd yr haul fi i fyny i'r awyr, chwyth y deheuwynt fi uwch y tir, a disgynnaf yn wlaw tyner ar dy ben, yn fendith y Nefoedd iti, hen Fynydd cadarn a ffyddlon."

"Byddaf finnau'n lloches i'r defaid," ebe'r mynydd, "a rhoddaf fwyd i'r glaswellt ac i'r coed ac i'r adar. Yr wyf fi yn aros, yr wyt tithau'n newid. Ac wrth i mi aros, ac wrth i ti newid, y mae pob peth yn fyw ac yn dlws. Cân, Afon dlos, a chrwydra i wneud daioni. Yr wyt ti byth yn ieuanc, croesaw iti."

"Aros dithau, Fynydd ardderchog, yn gysgod i'r coed a'r blodau rhag ystormydd. Mawredd sydd iti, a ffyddlon wyt. Yr wyf bob amser yn dychwel atat, ac yn canu cân i ti."

III.—-DARLUNIAU'R BABAN IESU

Y MAE pedwar darlun o'r baban Iesu na byddaf byth blino edrych arnynt. Un yw darlun Raffael. Yn hwn saif ar lin Mair. Y mae hithau'n troi dalennau llyfr bychan darluniedig, ac y mae'r bachgen wedi dysgu sylwi arno. Gwyneb dwys, prydferth, ydyw, yn dechreu meddwl.

Yr ail yw darlun Carlo Dolci. Yn hwn dengys ei fam iddo flodau. Y mae yntau wedi dewis rhosyn, a gallai'r ddau ddweyd wrth eu gilydd,

"Rhosyn Saraon,
Ti yw tegwch nef y nef."

Gwyneb plentyn yn dechreu sylwi sydd yn y clarlun hwn.

Y trydydd yw darlun Sassoferrato. Plentyn gwallt goleu ydyw yma, yn cydio'n dynn am wddf ei fam. Gwyneb plentyn cariadus a serchog sydd yna.

Yr olaf yw darlun Murillo. Yn hwn saif ar garreg, gydag un llaw yn llaw ei dad, a'r llall yn llaw ei fam. Hwn yw'r goreu gennyf o'r pedwar, ond nis gallaf ddweyd dim am dano ond mai darlun o blentyn naturiol yw.

Dysgu meddwl, dysgu sylwi, dysgu caru, ac eto'n blentyn,—beth yn y byd sydcl dlysach na'r pedwar darlun hyn?

IV.-GWIR ARWR

Y MAE daioni lle na ddisgwylir ei gael yn aml. Ymysg y plant carpiog tlodion sydd yn hanner newynu hyd heolydd Llundain, y mae aml galon fechan ddewr yn curo, yn llawn caredigrwydd ac awydd gwneud daioni.

Yr oedd un o weinidogion Cymreig Llundain yn pasio cornel lle y saif crossing sweepper,—bachgen ungoes, wedi ei daflu yn hollol at drugaredd y byd. Y munud hwnnw, aeth plentyn bychan dan olwynion cab. Er perygl ei fywyd ei hun, rhuthrodd y cardotyn bach cloff i waredu'r plentyn. Tynnodd ddimeuau lawer o'i boced, cyfrifodd hwy, ac estynnodd hwy i'r cabman. Cododd y plentyn yn ei freichiau i'r cab, aca meddai,—

"Cabi, ar eich union i'r ysbyty."

Pan aeth y cab a'r plentyn clwyfedig ymaith, aeth y gweinidog at vr ysgubwr, estynnodd ddarn arian iddo, a dywedodd,—

"Fy machgen i, fedrwch chwi ddim fforddio talu o'ch poced eich hun.”

"Na, syr," oedd yr ateb dewr, "myfi sy'n talu.” A gwrthododd yr arian; er, y mae'n debyg, byddai raid iddo ddioddef oerfel a newyn o'r herwydd.

V.—PROFEDIGAETH GWEN OWEN

MERCH i rieni Cymreig yn byw yn Llundain oedd Gwen Owen. Yr oeddynt, oherwydd colli ei thad, wedi syrthio i dlodi mawr. Un bore, yr oedd mam Gwen yn wael, ac anfonodd ei merch fechan â llestr i ymofyn llaeth. "Gofala am y piser, Gwen," meddai, "fy mam a'i rhoddodd i mi, cerdd yn araf, paid a rhedeg, rhag i ti syrthio a'i dorri."

Yr oedd Gwen yn llawen iawn wrth feddwl ei bod yn cael mynd ar neges dros ei mham, a'i bod yn ddigon mawr i fod yn forwyn. Yn ei llawenydd, dechreuodd fwmian canu. Toc, dechreuodd redeg. Tarawodd ei throed yn erbyn rhywbeth, a syrthiodd ar y palmant llyfn. Torrodd y piser yn deilchion.

Gwelodd gwraig garedig ing y plentyn. Aeth gyda hi at ei mham wael. Mae Gwen yn awr yn forwyn gyda'r wraig garedig sychodd ei dagrau.

TORRODD Y PISER YN DEILCHION

VI.-CARIAD BRAWD A CHWAER

TRO diweddaf y gwelais Ilid a Gwenfron oedd ar falconi gwesty yn Llundain, ar noson haf oleu leuad, yn siarad yn hapus a'u gilydd. Ychydig fuasai'n dychmygu, wrth edrych arnynt, gymaint oedd dau mor ieuanc wedi ddioddef. Eto, gallai y craff ganfod fod Gwenfron yn welw, ac megis yn ddi-ysbryd oherwydd gwaeledd. Yr oeddwn i yn digwydd gwybod hanes y brawd a chwaer.

Yr oedd eu tad a'u mam unwaith mewn amgylchiadau cysurus, ond syrthiasant i dlodi. Penderfynodd y tad fynd i Awstralia i ennill arian, gan adael ei wraig a'i blant ar ol. Cyn mynd aeth at gyfaill, un oedd wedi dod yn gyfoethog trwy ei gymorth ef, a dywedodd wrtho,

—"Yr wyf yn mynd i Awstralia i geisio ail-ennill bywoliaeth. Yr wyf yn gadael digon i'm gwraig a'm dau blentyn fyw arnynt am bedair blynedd. Os na ddof yn ol yr adeg honno, a wnewch chwi ofalu na fyddant yn dioddef?"

"Yr wyf yn ddyledus i chwi am bob peth sydd gennyf," ebe'r cyfaill. "ni chaiff eich gwraig na'ch plant ddioddef eisieu tra bo gennyf grystyn i'w rannu a hwynt."

Aeth y tad i Victoria, a gweithiodd yn galed yno i godi busnes. Yr oedd y gwynt yn galed yn ei erbyn ; ond anfonai lythyrau cysurlawn adref at ei wraig a'i blant. Y mhen y pedair blynedd, pan hanner ddisgwyliai y fam ei fod yn dod adref, pallodd ei lythyrau. Ofnai y fam ei fod yn wael; ofnai hefyd na fedrai gael bwyd i'r plant, oherwydd

AR FALCONI YN LLUNDAIN

yr oedd yr arian yn prysur ddarfod. Effeithiodd yr ofn a'r pryder ar ei hiechyd gwannaidd, a bu farw.

Yr oedd y cyfaill hwnnw yn edrych ar y ddau blentyn yn wylo yn angladd eu mam. Gŵr caled oedd, heb le yn ei galon i deimlad na diolch. "Bydd y ddau acw yn bwysau arnaf fi," meddai ynddo ei hun, "ond ychydig wariaf fi ar eu bath. Pe dechreuwn dosturio wrth blant amddifaid, buan yr ehedai fy arian ymaith."

Ar derfyn tref y gwyddai am dani, yr oedd dwy hen ferch a brawd yng nghyfraith iddynt yn cadw "cartref i amddifaid." Dywedai y tri hyn mai o gariad at blant amddifaid y cadwent y lle. Aeth y cyfaill anffyddlawn a'r ddau blentyn wylofus yno. Wrth fynd, dywedai,—

"Bydd Mr. Wamp a'r ddwy Miss Strait yn fwy caredig hyd yn oed na'ch tad a'ch mam. Wedi bod yno dipyn, bydd yn dda gennych fod eich mam wedi marw. Yr oedd eich mam yn dlawd a'ch hen. gartref yn wael; ond yr wyf yn mynd a chwi i gartref mawr, lle cewch ddigon o fwyd, a digon o rai i chwareu â chwi."

Yr oedd y geiriau celyd yn archolli teimladau y ddau alarwr bychan, er na wyddent pam. Hawdd oedd gweld na feddai y gŵr ofalai am danynt fawr o syniad am deimlad plentyn, na fawr o gydymdeimlad â'u trallodion.

Pan gyrhaeddodd y plant y cartref newydd, aeth ias o ofn trwy'r ddau, ac edrychasant yn bryderus ar eu gilydd. Ni wyddent pam, ond yr oedd eu hen gartref, pan oedd eu mam yno, mor glŷd ac mor gynnes. Yr oedd ei gwên hi yn cynhesu eu calonnau pan oedd ychydig iawn o fwyd yn y cwpwrdd. Yr oedd ei gobaith,—' Fe ddaw eich tad adre,—yn ddigon i wneud iddynt ganu er fod eu dillad yn ddigon teneu a'u cylla yn ddigon gwag. Ond beth oedd yn y tŷ mawr o'u blaenau barai iddynt ofni? Ni welai cyfaill eu tad ond diddosrwydd yno. Pe buasai eu mam yn eu dwyn, buasai yn gweld yn gliriach beth oedd cartref newydd ei phlant.

Oer ac unig oedd cartref newydd y brawd a'r chwaer. Yr oedd y tŷ'n fawr, y mae'n wir, a'r plant yn lluosog. Ond ni fedrai'r ddau bach wneud cyfaill o neb,

Yr oedd Mr. Wamp a'r ddwy Miss Strait yn cadw tŷ eang oer yn gartref i amddifaid. Haerent fod eu bryd yn llwyr ar wneud daioni, ac mai eu cariad at blant a wnai iddynt ymroddi i gadw cartref i rai heb gartref arall yn y byd. Ond y gwir yw mai er mwyn elw yn unig y cadwent cu "Cartref; "ac yr oeddynt yn cashau y plant, druain, oedd dan eu gofal. Ni chaent ddigon o fwyd, a dysgid hwy i gashau eu gilydd, ac i brepian ar eu gilydd wrth y ddwy hen ferch ddideimlad a'u rheolai.

Yr oedd llawer o'r plant yn blant drwg yn dod yno, ac aent yn waeth wedi dod. Plant yr oedd ar rywun eisieu eu lle oedd llawer ohonynt, plant a'u mamau wedi marw, plant na ofalai neb am danynt yn eu bywyd ac na alarai neb am danynt yn eu marwolaeth.

Gwael iawn oedd y bwyd, hollol anghymwys i blant o oedran tyner. Ychydig oedd o hono hefyd, ac yr oedd golwg newynog ar y llu plant wrth godi oddiwrth y bwrdd yn ogystal ag wrth ddod ato. Ceid dyledswydd yn y bore; darllennai Mr. Wamp bennod hir mewn llais sychlyd. Yn ystod yr oriau hynny, tyfai casineb at y Beibl ac at grefydd ym mynwesau y plant. Yn y bore a'r prynhawn yr oedd ysgol. Arolygai y ddwy Miss Strait hi. Llais main, gwichlyd, oedd gan yr ieuengaf o'r ddwy, ac yr oedd i'w glywed bob munud. Yr oedd yr hynaf yn ddistawach ; ond yr oedd, yn ei hoes, wedi gwisgo cannoedd o wialenau bedw allan yn llwyr. Hir iawn oedd oriau'r ysgol. Pregethai y ddwy Miss Strait y dylai y plant fod fel hyn ac fel arall, y dylent hoffi'r ysgol a'u gwersi, ac y dylent gredu mai Mr. Wamp oedd y dyn goreu yn y byd, ac mai y ddwy Miss Streit oedd y ddwy fwyaf caredig. Ond ni fedrai'r plant hoffi yr hyn ddysgid iddynt, llusgai'r oriau hirion yn araf heibio, tra y gwyliai dau bâr o lygaid creulawn laweroedd o barau o lygaid bychain gwrthryfelgar ac anhapus. Y wialen oedd yn teyrnasu yno; am dani hi y meddyliai y plant o hyd, ac am dani hi y meddyliai y ddwy Miss Strait.

Yr oedd hiraeth y ddau blentyn am eu mam yn fawr yn ystod oriau'r ysgol. Mor hawdd oedd dysgu gyda hi, mor wahanol oedd y Testament Newydd pan yn gorffwys ar ei glin, mor hawdd oedd ei deall yn esbonio. Rhoddodd Gwenfron ei phen ar y ddesc i wylo o hiraeth unwaith. Cysgodd dan wylo. Breuddwydiodd ei bod gyda'i mham. Yr oeddynt yn crwydro drwy'r caeau, yn torri blodau i'w dangos i'w mham, ac yr oedd Ilid yn chwareu yn fachgen bach hapus o'u cwmpas. Deffrodd mor sydyn fel y credai fod ei breuddwyd yn wir, a'i bod yn estyn blodyn llygad y dydd i'w mham. Ond yn lle gwyneb tyner ei mham, gwelai wyneb llym, di-dosturi, y Miss Strait ieuengaf yn edrych yn ddigofus arni. Yn lle rhoddi blodyn llygad y dydd i'w mham, yr oedd yn estyn ei llechen at Miss Strait, megis heb yn wybod iddi hi ei hun. Ei gwaith y prynhawn hwnnw oedd ysgrifennu brawddeg,—"Teach us to be content,"—ryw ddeuddeg o weithiau ar y llechen. Ond, ymysg y llechau llawnion ddanghosid i Miss Strait, yr oedd ei llechen hi yn wâg. Yr oedd wedi colli llawer ar ei chysgu y noson cynt; poenid hi gan ddannodd. Gofynnodd Miss Strait iddi yn ddigofus paham na fuasai wedi llenwi ei llech âg ysgrifen. Yr oedd Gwenfron yn hollol eirwir, a chyfaddefodd ar unwaith ei bod wedi cysgu. Ac ychwanegodd, yn awydd plentyn i ennill cydymdeimlad,—' Mi welais mam yn fy nghwsg." Llanwodd llygaid yr eneth o ddagrau wrth gofio am ei breuddwyd, ond nid oedd gan Miss Strait le yn ei chalon i ofidiau plentyn bach. Ond gellid clywed ei llais caled yn gwaeddi geiriau yr oedd ar bawb o'r plant eu hofn,—

"Gwenfron Jones. Stand out!"

Cerddodd Gwenfron yn araf i'r lle agored oedd yn un pen i'r ystafell, a safodd yno yn fud a thrist o flaen y plant ereill.

Toc, daeth diwedd yr ysgol. Taflai y ddwy Miss Strait gip-edrychiadau ar eu gilydd. Yr oedd Gwenfron yn edrych ar y llawr, ac yn sylwi ar ddim. Ond yr oedd Ilid yn gweld y cwbl, ac yn gwybod yn rhy dda beth oedd i ddigwydd i'w chwaer fach.

'Toc, dechreuodd y Miss Strait ieuengaf lefaru, Dywedodd wrth y plant beth oedd diogi. Ac yna pwyntiodd â'i bŷs at Gwenfron, gan ddweyd,— "Geneth ddiog." Yna tynnodd y blouse teneu oedd yr eneth yn wisgo i ffwrdd, nes oedd ei breichiau a rhan o'i chefn yn noeth. Yna cydiodd yn dynn yn ei dwy law. Daeth Miss Strait yr hynaf a gwialen hir, gan sefyll y tu cefn i'r eneth, a'i gwyneb caled at wyneb caled ei chwaer. Cymerodd amser i edrych ar yr eneth grynedig, ac yna cododd ei braich, a disgynnodd gwialenodied ar draws breichiau a chefn Gwenfron, gan adael gwrym ar ei chnawd. Disgynnodd y wialen yr ail waith, a dolefodd y plentyn,—

"O mam, mam."

Yr oedd ei llais fel pe'n gwneud i Miss Strait greuloni, a chiliodd dipyn yn ol i roddi ergyd drymach. Ond disgynnodd yr ergyd honno ar wyneb plentyn arall. Yr oedd Ilid wedi rhuthro yno, ac wedi sefyll rhwng y wialen a'i chwaer. Rhoddodd wth i'r Miss Strait ieuengaf nes yr hanner syrthiodd ar draws cader, a cheisiodd" gydio yn y wialen oedd yn llaw y llall. Wedi cael aml wialenodied ar ei wyneb a'i ddwylaw, cafodd afael yn y wialen fedw. cydiai ef yn y blaen, a Miss Strait yn y bôn, ac yr oedd tynnu caled rhyngddynt. Yr oedd y plant fel pe wedi dychrynnu gormod i wneud dim, ysgrechiai y Miss Strait ieuengaf ar uchaf ei llais.

Agorodd y drws, ac wele Mr. Wamp yn cerdded yn awdurdodol i mewn.

Gwaeddodd y ddwy Miss Strait ar draws eu gilydd pan ddaeth Mr. Wamp i mewn. "Yr eneth ddiog wedi fy insultlio," gwichiai un. "Y bachgen drwg wedi ymosod arnaf a cheisio fy nharo," dolefai'r llall.

Edrychai Mr. Wamp edrychiad creulon penderfynol. Cydiodd yng ngholer Ilid heb ddweyd gair, a llusgodd ef allan. Disgynnodd y wialen ar Gwenfron drachefn; ond am ei brawd yr oedd yn meddwl, nid am dani ei hun.

Ni welodd Ilid am dri diwrnod. Ni feiddiai ofyn dim i neb. Ofnai bopeth. Tybed a oeddynt wedi ei ladd?

Er ei llawenydd, gwelodd ef wrth y bwrdd brecwast. Yr oedd yn llwyd ac yn deneu iawn. Ond yr oedd yr eneth fach amddifad yn hapus, hyd yn oed o dan olwg y Miss Strait ieuengaf, pan deimlai fod ei brawd yn yr un ystafell a hi,

Ni ddywedai Ilid fawr o'i hanes ar y cyntaf. Ond dychmygai ei chwaer sut fu arno oddiwrth ambell frawddeg. "Mae'n gas gen i'r dyn yna,"— deuai y geiriau dros ei wefusau beunydd. Gwyddai mai Mr. Wamp oedd yn feddwl.

"Waeddais i ddim, Gwenfron," meddai dro arall. ""Yr oeddwn i wedi penderfynu y cawsai fy lladd, neu y buaswn yn marw o newyn, cyn y dywedwn wrtho fod yn edifar gennyf."

Byddai'r plant yn cael crwydro o amgylch y grounds wedi amser tê. Un prynhawn, aeth y brawd a'r chwaer i gornel bellaf y lle, gan adael y plant ereill ar ol.

"Fan yma y ces i hi waethaf, Gwenfron," ebe Ilid. " Yr wyf yn credu y buasai wedi fy lladd oni buasai iddo glywed rhyw lais."

"Rhyw lais?"

"Ie, rhyw lais." Mi dy laddaf,' ebe ef wrthyf, a tharawodd fi â'r ffon pen haearn sydd ganddo. A chyda hynny, dyma lais yn gwaeddi o rywle,— "A fedrai rhywun ei adnabod yn ei fedd ?' Mi syrthiodd y ffon o'i law, mi gurodd ei liniau yn eu gilydd, a dechreuodd redeg i'r tŷ. Eis innau ar ei ol. Yr oedd yn wyn iawn. ac yn chwys dyferu. Mae rhyw ddirgelwch yn perthyn i'r lle yma, Gwenfron. Oes yma ysbryd, tybed?"

Safai y ddau blentyn, gan edrych yn syn ar eu gilydd, mor ddifrifol a phe buasent hen bobl.

Yr oedd dau ddyn yn eu gwylio yn bryderus, o ddau gyfeiriad gwahanol. Ond ni wyddent hwy, druain, ddim ond fod eu tad ymhell i ffwrdd a'u mam yn y nefoedd.

'Toc, clywai'r ddau blentyn drwst rhywun yn dod o'r coed. Ac wele wyneb gwelw, didrugaredd, Mr. Wamp yn ymddangos. Fel rheol, byddai yn weddol garedig wrth Gwenfron, ond cashai Ilid, ac yr oedd fel pe wedi penderfynu ei ladd. Eithr y tro hwn, gwenodd yn wenieithus ar llid, ac edrychodd yn hyllig ar Wenfron. 4

"Ilid," meddai, "y mae Gwenfron wedi lladrata gwnïadur arian Miss Strait. Rhaid ei chwipio â chansen. Tydi gaiff ei chwipio."

Gwynnodd gwyneb y ddau blentyn. "Os gwrthodi," hisiai'r adyn creulawn rhwng ei ddannedd, "ti gei dy chwipio gan un cryfach na fi, a bydd ei ol arnat byth. Mi wn i na cherddi mor syth wedi'r chwipio hwnnw."

"Ni tharawaf fy chwaer byth," ebe Ilid, "beth bynnag ddigwydd imi."

"Af i nol y gansen,"ebe Mr. Wamp," a'r dyn cryf. Cawn weld prun ohonoch gaiff ei chwipio, a phwy fydd y chwipiwr." A chyda threm wawdlyd, prysurodd ymaith, wedi dweyd,—"Peidiwch a symud modfedd o'r llecyn hwn."

Gydag iddo fynd ymaith, daeth dyn dieithr atynt, fel pe buasai wedi disgyn o'r awyr. Yr oedd dillad estronol am dano, ac yr oedd ei wyneb yn dangos ei fod yn dod o wlad boethach. Ond cynhesodd calonnau y ddau blentyn ato ar unwaith, ac ufuddhasant heb yngan gair pan ddywedodd,—

Blant bach, dowch gyda mi."

Tra yr oedd Mr. Wamp yn dod a chansen ddu hir i'r coed, ac adyn mawr, llofruddiog, yn ei ddilyn, yr oedd y ddau blentyn mewn cerbyd yn prysuro tua gorsaf y dref, ac wedi deall fod eu tad wedi dod yn ol.

Yr oedd y tad wedi ennill arian lawer. Ond pan ar gychwyn adref at ei wraig a'i blant, i'w cyrchu ato, taflwyd ef oddiar geffyl. Bu'n hofran rhwng byw a marw'n hir mewn pentref Awstralaidd, a neb yn gwybod pwy oedd. Yna bu am amser maith heb ddod i'w bwyll, ac ni wyddai neb beth oedd yn feddwl wrth waeddi am cei wraig ac Ilid a Gwenfron. Pan wellhaodd, daeth ar ei union i chwilio am danynt.

Dan ofal tyner eu tad, graddol enillodd y plant eu hoen a'u hapusrwydd. Pan welais hwy ddiweddaf, yr oedd y tri yn mynd i weld bedd y fam. Beth sydd burach a gwell na chariad brawd a chwaer?