Llyfr Owen/Caru Cymru
← Cofio'r Haf | Llyfr Owen gan Owen Morgan Edwards |
Gofynion a Geirfa → |
XXI
CARU CYMRU
1. Y MAE caru ein gwlad yn beth naturiol iawn i Gymry, oherwydd ei bod yn wlad mor hawdd ei hadnabod a'i chofio. Gwlad o fynyddoedd a moroedd ydyw, ac y mae ysbryd rhyddid yn awelon ei bryniau. Ac y mae hiraeth am dani yn un o nodweddion pob un sy'n ei gadael. Mae'r hiraeth hwn yn rhyfela â phob awydd golud gwledydd pell:
Mae'r llong yn y porthladd yn disgwyl am danaf,
A gwae i mi feddwl ymadael erioed.
2. Y mae un ddihareb yn dweud : "Câr dy wlad, a thrig ynddi." Ond dywed rhai eraill y dylai'r Cymro ennill y byd. "Gwlad i gall, pob gwlad," ebr un. "Gwlad Cymro, pob gwlad," ebr un arall. Ond cred pawb mai "Câs gŵr na charo'r wlad a'i mago."
Gynt, dysgid plant yn yr ysgol i anghofio Cymru; ac os cofient hi, i'w dirmygu. Ni ddioddef y werin beth fel hyn yn awr. Yn y darlun ar y tudalen nesaf, cewch olygfa o ddrama fechan sy'n apelio'n rymus at lowyr Deheudir Cymru.
3. Yn yr hen amser, yr oedd bachgen yn yr ysgolo'r enw Dewi ab Ioan, os cofiaf yn iawn. Ond mynnai yr athro, oedd yn bur ddiystyrllyd o bopeth Cymraeg, ei alw yn David Jones. Gwrthodai'r bachgen ateb i'r enw hwnnw, er pob gwawd ar ran ei gydysgolheigion a phob cosb a ddeuai oddiwrth yr athro. Yn y darlun gwelir ef yn eistedd ar gornel ei ddesg. Y mae'r athro'n galw "David Jones." Mae rhai o'r bechgyn yn ei wawdio, eraill yn edrych yn sarhaus arno, eraill yn ei gynghori i ateb. Ond eistedd ar gornel y ddesg, a'i freichiau ymhleth a'i ddannedd yn dynn ar ei gilydd, ac nid oes na chosb na gwawd na chyngor a wna iddo ateb.
Y mae'r bachgen yn ystyfnig. Ystyfnig, hefyd, oedd Owain Glyn Dŵr a Martin Luther. A pha ffolineb creulon oedd gwneud merthyr o fachgen oherwydd ei wladgarwch,—un o deimladau mwyaf santaidd a mwyaf dyrchafol dyn?
(Teitl y darlun gyferbyn yw—
Y GWLADGARWR. DAN WAWD.
Fe'i tynnwyd gan Mr. Frederic Evans.)