Llyfr Owen/Cofio'r Haf
← Ty'n y Gwrych | Llyfr Owen gan Owen Morgan Edwards |
Caru Cymru → |
XX
COFIO'R HAF
1. YN y gaeaf oeraf, pan fo'r gwynt yn finiog a'r ddaear dan rew ac eira, mor fwyn yw cofio bod yr haf yn dod yn ôl. Tipyn o aros, tipyn o ffydd, tipyn o hiraeth eto, ac fe ddaw yr haf.
Y mae y nentydd coediog mor brydferth â gwlad y Tylwyth Teg. Hawdd yw cofio am yr afon yn disgyn dros y creigiau, o ris i ris. Mor wyn yw'r dŵr pan yn torri'n ewyn wrth lamu a disgyn : mor loyw a chlir yw'r dŵr yn y llynnoedd bychain llonydd. Ar y gwaelod graeanog, gwelwch gerrig crynion, gleision, a cherrig gwynion, a'r brithyll hoyw yn chwarae rhyngom a hwy.
2. A dyna gysgod hyfryd y coed rhag gwres y dydd. Lle bynnag y mae brenhines y Tylwyth Teg yn byw, a all ei phlas fod yn fwy ardderchog na llecyn las ar fin afon dan gysgod onnen lydanfrig? A ydych yn cofio aroglau'r haf,—mintys y dŵr, blodau'r drain, mafon cochion? Os teimlwch yn oer ac annifyr yn y gaeaf weithiau, cofiwch fod yr haf yn dod. Os ydych wan neu afiach, mynnwch fyw tan yr haf.
(Gweler y darlun ar y tudalen nesaf.)