Llyfr Owen/Ty'n y Gwrych

Y Pysgotwr a'r Môrwas Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Cofio'r Haf

XIX

TY'N Y GWRYCH

1. GER y fferm y magwyd fi ynddi y mae olion Ty'n y Gwrych. Yr oedd y tŷ mewn lle hyfryd iawn. Mae'r masarn a'i cysgodai eto'n aros, ac odditanynt ceir golwg ar rai o fynyddoedd mwyaf Cymru. Odditano dawnsia afon mewn glyn cul rhamantus, gan furmur a sisial. Weithiau wedi glaw mawr ar y mynyddoedd, bydd rhu ddwfn, brawychus, yn y ceunant. Ar gwr y cae y mae pistyll o ddwfr hyfryd i'r genau. Ni welais i neb yn byw yno, er fy mod yn hen. Ni welodd fy nhad neb yn byw yno chwaith, er ei fod ef yn llawer hŷn na mi pan fu farw. Ond unwaith, adroddodd ystori wrthyf, a glywsai gan ei dad ef. Yr oedd rhyfel enbyd yn y byd. Yr oedd hynny cyn rhyfeloedd Boni. Hwyrach mai Rhyfel y Saith Mlynedd oedd.

Yr oedd teulu bach dedwydd yn byw yn Nhy'n y Gwrych. Byddai'r gŵr yn gweithio hyd ffermydd yr ardal, yr oedd yn ŵr da gydag aradr yn y gwanwyn, a chyda ffust yn yr hydref. Yn y gaeaf ef a fyddai'n crasu'r ŷd yn un o odynau yr ardal.

2. Yr oedd porthmon yn dod i'r ardal ar ei dro. Byddai'n troi llawer o amgylch Ty'n y Gwrych, er nad oedd yno na gwartheg na defaid iddo i'w prynu. A phan fyddai hwn yn yr ardal, gofalai gŵr y tŷ am fod gartref, er gwaethaf yr aredig a'r dyrnu a'r crasu a'r cwbl.

Y gwir yw, yr oedd trysor wedi ei guddio yn rhywle ym mwthyn Ty'n y Gwrych. Ni ŵr ei faint, ond buasai'n ddigon i synnu y neb a'i gwelai. Ac fel hyn y daeth yno.

Yr oedd y gŵr wedi bod yn was ffyddlon i ŵr bonheddig o deulu uchel. Gorfu i hwnnw ffoi. ar gam, o'i wlad ei hun dros y môr. Cyn myned, daeth ar hyd nos i Dŷ'n y Gwrych a baich trwm ar ei geffyl. Cuddiwyd hwnnw ganddo ef, ac ni wyddai neb ond y gŵr lle y rhoddodd ef. Ac addawodd hwnnw gadw'r gyfrinach, a gwylio'r trysor hyd nes y deuai'r meistr yn ôl.

Aeth rhai blynyddoedd ymaith, ond ni ddeuai na siw na miw oddiwrth y dyn a ddihangodd dros y môr. Ond yr oedd y porthmon dieithr wedi amau, rywsut, fod ei drysor yn Nhy'n y Gwrych. Yr oedd wedi holi'r gŵr lawer tro, ond yr oedd hwnnw wedi bwrw dieithr, oherwydd ei fod yn drwgdybio'r porthmon. Yr oedd yn amser anodd cael gwaith, yr oedd y bwyd yn brin a drwg, yr oedd y rhyfel yn trymhau yn ein herbyn. Yr oedd y cynhaeaf wedi methu oherwydd y tywydd gwlyb, ac ofnid newyn yn y wlad. Er mwyn cadw bywyd ei deulu, aeth gŵr Ty'n y Gwrych gyda'r porthmon i yrru gwartheg teneuon i Loegr. Ffarweliodd â'i wraig a'i blant, gan addo dod yn ôl gyntaf y gallai.

3. Aeth misoedd heibio. Darfu haf a hydref, ac yr oedd gaeaf caled eto yn y cwm. Erbyn hyn yr oedd moddion y teulu wedi darfod, a'r plant yn dioddef eisiau bwyd. Ond disgwylient yn ffyddlon y deuai'r tad adref cyn hir.

Daeth ofn, hefyd, i'r bwthyn. Weithiau tybient glywed rhywun yn y tŷ ganol nos, yn troi a throsi popeth. Erbyn un bore, yr oedd carreg yr aelwyd wedi ei chodi, a phridd dros y llawr. Dro arall, clywent sŵn megis un yn ceibio yn yr ardd; a byddai yno beth tebyg i fedd newydd ei lenwi erbyn y bore.

Rhyw ddydd, daeth y porthmon yno. Wrth ei weld yn dod, llawenhaodd y plant, oherwydd tybient fod eu tad yn dod gydag ef. Ond newydd trist oedd ganddo. Yr oedd y tad wedi ei orfodi i ymuno â'r fyddin, wedi ei anfon dros y môr i Ffrainc, ac yno yr oedd yn ei fedd. Aeth y porthmon oddiyno gan adael y teulu yn nyfnder eu trallod. Gyda'r nos daeth yno drachefn, a dywedodd mai dymuniad y tad oedd iddo ef gymryd ei le, ei fod am aros gyda hwy, ac y byddai drannoeth yn dechrau ceibio holl lawr y bwthyn, i'w ail wneud. Ac wylodd y plant yn chwerwach am fod un mor frwnt yn cymryd lle eu tad hoff a charedig. Yr oedd yn noson olaf yr hen flwyddyn. Noson glir, oleu-leuad, oedd, a rhewai'n galed. Yr oedd yr afon yn blymen o rew; a gwasgai y plant at eu gilydd yn y bwthyn rhag rhynnu gan yr oerfel. Yr oedd y porthmon wedi yfed diod gadarn, codai ei lais yn uwch o hyd; ac o'r diwedd, gan regi, agorodd y drws a dwedodd wrth y wraig a'r plant : Fy nhŷ i yw hwn. Allan â chwi, bob un! Y mae allan yn ddifai le i chwi."

4. Yr oedd dau ddyn yn nesu at y bwthyn. Yr oedd un yn hen ŵr crwm, gwalltwyn; yr oedd y llall yn ddyn cydnerth canol oed. Daethant i'r drws y funud yr agorodd y porthmon ef: a chlywsant ei eiriau.

"I ble'r ânt o'u tŷ eu hun?" ebr y gŵr canol oed.

Gwelwodd y porthmon, a chrynodd ei liniau. Ond tra oedd yr hen ŵr yn edrych a oedd y trysor yn ddiogel, a thra oedd gŵr Ty'n y Gwrych yn edrych a oedd ei drysor yntau'n ddianaf, sef ei wraig a'i blant, dihangodd y porthmon o'u gŵydd. Drannoeth, cafodd bugail ei gorff rhewedig ar Gors y Ddwywern. A daeth diwedd ar ofnau ac eisiau teulu'r bwthyn.