Llyfr Owen/Chlestacoff

Y Pibau Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Graig Losg

III

CHLESTACOFF

1. Y MAE Rwmania yn taro ar Rwsia, ac y mae Gogol, un o lenorion mawr Rwsia, wedi adrodd ystori am un o drefydd Rwsia. Yr oedd llawer o orthrwm yn Rwsia. Byddai'r cryf yn gwasgu'r gwan; byddai'r llywodraethwr, y barnwr, yr athro, a phawb mewn awdurdod, yn mynnu llenwi ei bocedau ei hun. Ar ei dro deuai swyddog y Llywodraeth i chwilio pob camwri, ac i geisio gwneud cyfiawnder. A byddai ei ddyfodiad yn ddychryn i'r rhai anghyfiawn. Nid oedd ynteu yn gyfiawn, bid siŵr.

2. Rhyw ddiwrnod, daeth teithiwr i dref. Gwelodd rhai o'r bobl ef rhwng rhigolau drws y gwesty. Ac aeth y si allan,—Mae'r swyddog wedi dod!" Synnwyd pawb, nid oedd neb yn ei ddisgwyl mor fuan, ac nid oedd neb wedi cael amser i guddio ei orthrwm a'i anwiredd.

Ond y gwir oedd nid y swyddog perygl oedd yn y gwesty, ond Chlestacoff. Teithiwr ofer oedd ef, wedi colli pob dimai a feddai ar y ffordd wrth fetio. Ac yr oedd ar ganol ffraeo â gŵr y gwesty. a wrthodai fwyd a diod iddo heb dâl.

3. Pwy ddaeth i mewn yn fawreddog iawn ond Llywodraethwr y dref. Tybiai Chlestacoff ei fod wedi dod i'w ddal ef, greadur afradlon; ond credai'r Llywodraethwr mai'r swyddog perygl oedd, yn cymryd arno mai teithiwr blin oedd. Felly, pan ddywedodd Chlestacoff fod gŵr y tŷ'n ddigon haerllug i godi tâl am ei fwyd a'i ddiod, rhoddodd y Llywodraethwr ei bwrs iddo ar unwaith, ac yr oedd yn falch o'r cyfle.

Gwelodd Chlestacoff sut yr oedd y gwynt yn chwythu, ac yr oedd wrth ei fodd. Deuai llawer o bobl ato i gwyno ar y Llywodraethwr, cymerai yntau'r gŵyn; cymerai rodd gan bob un hefyd, a dodai hi yn ei boced. Yna atgofiai'r Llywodraethwr am ei orthrwm ac am ei fynych ysbeilio; câi roddion gwerthfawr gan hwnnw hefyd. Daeth Chlestacoff yn ŵr mawr yn y lle hwnnw. O'r diwedd, dywod y Llywodraethwr, er ei ddirfawr lawenydd fod Chlestacoff a'i fryd ar briodi ei ferch Mari. Ac eb ef wrth ei wraig,—"Ychydig feddyliaist, wrth fy mhriodi i, y caet fod yn fam yng nghyfraith i uchel swyddog. "A'i freuddwyd yntau oedd,—cael cneifio pobl y dref o bopeth oedd ganddynt, ac edrych i lawr arnynt fel pe buasent dom yr heolydd. Onid ef a fyddai tad yng nghyfraith y swyddog?

Penodwyd dydd y briodas. Dywedodd Chlestacoff fod yn rhaid iddo fynd i ymweled â'i ystâd cyn e briodas. Daeth y dydd, ond ni ddaeth Chlestacoff. Yr oedd wedi anfon llythyr at gyfaill iddo ym Moscow, i adrodd fel yr oedd yn medru trin y ffyliaid. A phan oedd cyfeillion y Llywodraethwr yn disgwyl am y priodfab, wele'r llythyr- gludydd yn dod â'r llythyr hwnnw, yr oedd wedi digwydd ei agor, ac yn ei ddarllen iddynt i gyd. YR oedd y Llywodraethwr fel peth gwallgof. Y llymgi main tlawd hwnnw wedi medru ei dwyllo ef, a'i wneud yn wawd i'r dref i gyd, ac yn enwedig i'r rhai y gwnaeth gam â hwy mewn dull mor drahaus.

Ac i wneud pethau'n waeth eto, wele lythyr oddiwrth y gwir uchel swyddog, yn dweud ei fod yn dod, drannoeth, i ofyn i'r Llywodraethwr roddi cyfrif am lawer o bethau.