Llyfr Owen/Y Graig Losg
← Chlestacoff | Llyfr Owen gan Owen Morgan Edwards |
Hans Cristion Andersen → |
IV
Y GRAIG LOSG
1. Yr oedd geneth o'r enw Palma, un hynod brydweddol, yn byw dan gysgod mynydd Bucegi. Yr oedd yn dal ac urddasol yr olwg arni, ac yr oedd ei hurddas fel pe'n cuddio calon gynnes a serchog. Pwy a gerddai mor syth a hoyw â'r brydferth Balma? A phwy a feiddiai gellwair yn ysgafn â hi? Ac yr oedd ei chalon wedi ei rhoi i fugail o'r enw Tannas, a dydd y briodas yn neshau.
Cyn hynny daeth y gelyn dros y terfyn, a bu galw taer ar y gwŷr ieuainc i amddiffyn eu gwlad. Ymysg eraill, aeth Tannas. Beunydd dyheai Palma am hanes o faes y gwaed; a phan glywai fod y Rwmaniaid yn cwympo neu'n cilio, safai â'i phwys. ar graig neu fur hyd nes y peidiai ei chalon â churo. Ddydd a nos, dychmygai weld Tannas yn ing angau, neu'n farw oer.
2. Rhyw noson, clywai guro ysgafn ar ei ffenestr. Yng ngolau'r lleuad tybiai weled wyneb Tannas. Aeth allan, a dyna pwy oedd.
"Tannas!" ebr hi mewn syndod, "ai ti yw?"
"Ie," eb y gŵr ieuanc dychrynedig, gwelw, "oni weli dy fodrwy am fy mys, a'th arwydd ar fy ngwddf? "
"Pwy a ddywedodd wrthyt am adael y fyddin?"
"Neb. Deuthum o honof fy hun."
"Ond onid yw'r gelyn yn ein gorchfygu? Onid oes bechgyn eraill yn marw dros eu gwlad? Pa fodd y gellaist eu gadael?"
"Yr oedd arnaf hiraeth am danat. Ac y mae cariad yn gryfach na dim."
Fflachiodd dig a dirmyg o lygaid duon, byw, yr eneth, a dywedodd:
"Ffiaidd gennyf fuasai llwfrddyn yn gariad. Dos yn dy ôl ar dy union i'r gad."
"Yr wyt yn fy ngyrru'n ôl i ddinistr ac angau sicr. Y mae'r rhyfel yn ofnadwy. Ac yr wyt i fod yn wraig i mi."
"Bydd y graig acw wedi llosgi cyn y byddaf yn wraig i ti. Dos cyn i'r dydd dorri. Buasai'n gywilydd gennyf i neb dy weld."
"Ni chaf dy weld byth mwy," ebr y gŵr ieuanc, a dringodd y mynydd ar y Lieder, a'i wyneb tua'r gad. 3. Yr oedd y gelyn yn neshau. Yr oedd brwydr ffyrnig, waedlyd, ar lechweddau Bucegi. Ac er braw a syndod i'r pentref, gwelid y graig wgus i fyny fry yn eirias, yn llosgi'n loyw yn nüwch y nos. Yr oedd angerdd tân yr ymladd yn llosgi'r mynydd ei hun. Ac o! ddioddef a dolefain y marw oedd yno ar ddiwedd dydd y frwydr. "Fy mam," meddai Palma, "yr wyf yn mynd ar daith, ond ni byddaf i ffwrdd yn hir." Gwelai'r fam fod ganddi lestr dwfr, a thorth fechan; ac ni ddywedodd air, ond wylo'n ddistaw.
Dringodd Palma'r mynydd fel yr ewig, ac ar fin nos cyrhaeddodd gwr maes yr ymladdfa. Gwersyllai byddin fawr y Rwmaniaid ar y gwastadedd odditanodd, a thanau y gwylwyr o'u hamgylch. Yr oeddynt wedi hyrddio'r gelyn oddiar y mynydd, ond yr oedd eu lludded mor fawr fel y cysgent yn y lle y safent pan beidiodd y frwydr.
4. Ac ar ochrau'r mynydd, rhwng Palma a hwy, yr oedd maes yr ymladdfa. O'r llethrau hyn ni chlywid dim ond ochain y clwyfedig. Ychydig oedd nifer y meddygon a'r gweinyddesau, ac yr oedd y rhai hynny yn lluddedig yng nghwsg. Ni welid ond ambell anfad wraig yn ysbeilio'r marw. Crwydrodd Palma ymysg y rhai a orweddai, rhai yn hirgwsg angau, rhai mewn cwsg anesmwyth, rhai'n effro gan boen. Edrychai ar wyneb pob un yn graff a phryderus. Yr oedd gwên dawel ar wyneb ambell un, fel pe syrthiasai wrth feddwl am ei gartref. Griddfannai eraill yn eu poen, a idiferodd Palma ddiferynnau oerion peraidd o'i llestr ar enau sychedig, a thorrodd newyn llawer clwyfedig â rhan o'r dorth. Ond ym mha le yr oedd Tannas? Dywedai rhywbeth wrthi ei fod ynghanol y llu mawr a orweddai o'i blaen.
Pan oedd y bore yn dechrau torri, gwelai ladrones yn ceisio tynnu modrwy oddiam fŷs milwr, ond ciliodd honno pan welodd Palma'n dod i'r cyfeiriad. Gorweddai'r milwr ar ei gefn, ac adnabu Palma ei modrwy ei hun. Ond ni buasai'n adnabod yr wyneb. Rhoddodd ergyd cleddyf glwyf hir ar draws ei ddau lygad, ac yr oedd gwaed wedi fferru ar yr wyneb i gyd. Golchodd Palma'r wyneb â dwylo tyner, crynedig. A rhywfodd, dan ei chyffyrddiad, rhedai'r gwaed yn gynnes. Nid oedd Tannas wedi marw, er ei fod ar drengi. Trwy ymdrechion Palma cadwyd ei fywyd, ond ni chafodd ei olwg yn ôl.
5. Daeth y rhyfel i derfyn, a daeth dedwyddwch yn ôl i bentrefydd Rwmania. Daeth dydd priodas Palma â Thannas. Yr oedd hi yn falch iawn o honno. Dyma arwr," meddai, " gwelwch y groes ar ei fynwes."
"A gwelwch hi ar fy wyneb," ochneidiai Tannas.
"Ac ni chaf weld Palma byth mwy."
Ond yr oedd yn ddedwydd iawn. A phan yn hen, dywedai mor arw' oedd y frwydr pan welid craig y Bucegi'n llosgi. A gelwir hi byth yn Pietra Arsa,—y Graig Losg.