Llyfr Owen/Pen Bendigaid Frân

Hans Cristion Andersen Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards
Yr Aran
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Bendigeidfran fab Llŷr
ar Wicipedia

VI

PEN BENDIGAID FRÂN

1. YR oedd y frwydr rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yn un galed. Croesodd Cymry Bendigaid Frân Iwerddon i ddial cam Branwen ferch Lŷr a chwaer Brân.

Ymladdai'r Cymry'n bybyr, ond yn ofer. Oherwydd yr oedd gan y Gwyddelod bair neu grochan haearn mawr. Ac wedi cynneu tân mawr dano, taflent eu lladdedigion i'r pair bob nos. A gwelech ryfeddod,—erbyn y bore byddai pob Gwyddel marw wedi dod yn Wyddel byw, ac yn barod i ail ddechrau ymladd. A phan welodd y Cymro, a. achosodd yr anghydfod, sef Efnisien, mor druan oedd hi ar ei gydwladwyr, mynnodd gael ei daflu i'r pair dadeni. A gwnaeth ymdrech i ymestyn yn y pair, nes torrodd y pair yn bedwar darn, a thorrodd ei galon yntau.

Ond nid oedd o Gymry'n fyw ond naw pan yn troi adref o'r Iwerddon, ac o'r naw yr oedd Bdndigaid Frân wedi ei glwyfo'n angheuol â phicell wenwynig. A dywedodd Brân wrth y lleill:

"Torrwch fy mhen oddiwrth fy nghorff, ac ewch ag ef i'r Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb at Ffrainc. Chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Byddwch saith mlynedd yn Harlech ar ginio, ac adar Rhiannon yn canu i chwi. A bydd y pen yn gystal cwmni i chwi ag y bum i erioed. A byddwch bedwar ugain mlynedd yng Ngwalas. hyd oni agorwch y drws sydd yn edrych ar Aber Henfelen a Chernyw. A phan agorwch y drws hwnnw, ni ellwch aros yno'n hwy. Ewch i Lundain."

2. Ac aeth yr wyth, a'r pen gyda hwy, i'r môr ar eu ffordd adref. Daethant i Aber Alaw ym Môn. Ac yno edrychodd Branwen yn ôl ar Iwerddon, ac ar Gymru, a dodi ochenaid fawr, a thorri ei chalen. A gwnaed bedd iddi yng nglan Alaw. Daeth y saith oedd yn weddill i Harlech, ac yno y buont ar ginio yng nghwmni difyr pen Brân. Am saith mlynedd. Ac allan ymhell uwch ben y weilgi yr oedd tri aderyn Rhiannon yn canu'n felys ac yn glir fel pe buasent yn eu hymyl.

Ac ar ddiwedd y saith mlynedd aethant tua Gwalas ym Mhenfro. Ac yno yr oedd lle teg brenhinol uwch ben y môr. Ac aethant i'r neuadd, a gwelent dri drws ynddi,—dau yn agored, a'r llall, sef y drws at Gernyw, yng nghaead. " Welwch chwi. ebr Manawyddan, " dacw'r drws na ddylem ei agor."

Ac yno y buont am bedwar ugain mlynedd, a'r pen gyda hwy. Ac ni chawsant amser mwy digrif a hyfryd erioed Oherwydd nid oeddynt yn meddwl nac yn cofio am yr holl anffodion oedd wedi cyfarfod â hwy yn Iwerddon ac wedi iddynt gyrraedd Cymru.

Ond, rhyw ddiwrnod, ebr Meilyn fab Gwynn wrtho'i hun: "Rhaid i mi gael agor y drws acw, a gweled a yw y peth a ddywedir amdano yn wir." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Aber Henfelen a Chernyw. A chydag iddo wneud hynny, daeth i gof y saith yr holl anffodion oedd wedi cyfarfod â hwy. yn enwedig colli bywyd eu harglwydd Bendigaid Frân.

Ni allent aros yn hwy yng Ngwalas. Aethant ar hyd y daith hir i Wynfryn Llundain, sef y Tŵr Gwyn. ac yno claddasant ben Bendigaid Frân. A thra fo'r pen hwnnw yn cael llonydd, ni ddaw gormeswr byth i orthrymu'r ynys hon.

Dyna fel y byddai'r hen Gymry yn adrodd hanes pen Bendigaid Frân.