Pen Bendigaid Frân Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Trwyn Aur
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Aran Benllyn
ar Wicipedia

VII

YR ARAN

1. UN o fynyddoedd prydferthaf Cymru yw'r Aran. Y tu allan i gadwyn Eryri, hi yw'r uchaf yng Nghymru. Ymgyfyd ei phen yn ddau drum, sef Aran Benllyn ac Aran Fawddwy. Y mae'r olaf yn 2,970 troedfedd o uchter.

O amgylch godre'r Aran y mae trefydd a phentrefydd y Bala, Llanuwchllyn, Llan ym Mawddwy, Dinas Mawddwy, Dolgellau, y Brithdir, a Rhyd y Main. Yn narlun y gamfa dan y coed, ar y tudalen gyferbyn, ceir golygfa ar Aran Benllyn oddiar un o lwybrau Llanuwchllyn. Hwyrach mai o'r Bala, yn enwedig o lan dawel Llanecil y ceir yr olygfa brydferthaf. Yn union o'ch blaen yno cewch y fynwent hanesiol, lle gorwedd Charles a llu o efengylwyr a beirdd a'r Aran fel angel gwarcheidiol yn syllu'n ddwys a thawel arni dros y llyn.

Y mae dwy ffordd o'r Bala i Ddolgellau, a Llyn Tegid a'r Aran rhyngddynt. Os cymerwch ffordd Lanecil, a thros y Garneddwen, ewch heibio i gefn llydan yr Aran, a bydd Cader Idris yn fawreddog o'ch blaen. Os cymerwch ffordd Langower, a thros Fwlch y Groes, ewch heibio i wyneb yr Aran. Dyna'r olwg fwyaf diddorol arni: creigiau noethIwm a dibynnau unionsyth, a chymylau'r haf hyd eu hwynebau fel mwg yn esgyn.

2. Ar y talpiau creigiau hyn y mae llanerchau gleision, ac y mae'r glaswellt sydd yn tyfu yno yn felys iawn i ddefaid. Weithiau crwydra dafad i lawr, o dalp i dalp, hyd wyneb y graig, a'i hoen gyda hi. Mae'r glaswellt yn felys ar y llecynnau perygl hyn, ac y mae'r ddafad am i'w hoen gael y tamaid melysaf. Nid yw'n cofio na all hi na'i hoen byth ddringo i fyny yn ôl. O'r diwedd, deuant at dalp na allant fynd yn is nag ef,—nid oes ond gwagle erchyll dano. Bwytânt y gwellt melys yn awchus. Cyn hir bwytânt ef i gyd. Yna daw newyn. Gorwedd y ddau yno, yn rhy wan ac ofnus i symud.

Ond gwêl y bugail hwy. Geilw ar ei gymdogion. Ant i ben y mynydd, lle y dechreuodd y ddafad grwydro i lawr. Rhoddir rhaff am ganol un o'r bugeiliaid. Yna gollyngir ef i lawr yn araf hyd wyneb y graig. O'r diwedd daw at y dibyn craig lle mae'r ddafad a'r oen wedi gorwedd i farw. Ni syfl yr un o'r ddau, gwyddant trwy reddf mai cwympo a wnânt dros y graig i'r dyfnder odditan odd, ac y mae ar hyd yn oed oen ofn marw. Cymer y bugail yr oen yn ei freichiau. Yna tynnir ef a'i faich i fyny gerfydd y rhaff. Yna disgyn drachefn, a daw â'r ddafad grwydredig, ffôl, a gwan, i fyny yn ei gôl. Ceisia'r ddafad a'r oen sefyll, ond y maent yn gwegian uwch ben eu traed gan wendid. Eto, fel rheol, deuant i bori, i gerdded, ac i redeg cyn hir. Ond y mae rhai defaid yn byw yn y creigiau peryglus, ac nid oes neb erioed wedi eu nodi na'u cneifio. Mewn ambell fan y mae coed eirin Mair yn tyfu yn nannedd y creigiau. Rhyw aderyn a aeth a'r hadau yno. Daw blodau ar y coed bob blwyddyn, ac eirin, ond nid oes neb ond adar a fedr fynd yn agos atynt.

3. Y mae eisiau llygad clir, pen sefydlog, a throed sicr i ddringo mynyddoedd yn ddiberygl; ac nid oes ond profiad maith a fedr roddi y rhai hyn. Cerdda un yn ddiogel a didrafferth lle y penfeddwa ac y syrthia'r llall.

Er hynny, siwrnai hyfryd yw'r siwrnai i ben yr Aran, o lawer cyfeiriad; a gall plentyn pedair oed ei cherdded. Gwn am un a wnaeth hynny.

Fel yr eir i fyny, y mae'r golygfeydd yn newid, ac yn ymehangu. Daw bryniau uchel, wedi eu dringo a mynd yn uwch na hwy, yn bethau bychain distadl i lawr odditanom. Daw rhywbeth newydd i'r golwg o hyd. Dacw Lyn Tegid, fel llen hir o arian, a mwg tref y Bala fel cwmwl ysgafn yn ei ben draw. I gyfeiriad arall, wele aber afon Mawddach, a phont Abermo yn rhimyn hir main, yn ei chroesi. Ar un llaw wele fryniau bronnog, gleision, Powys, bron heb rif; ar y llaw arall wele fynyddoedd creigiog Gwynedd, a'r Wyddfa fel brenhines yn eu canol.

4. Mae'r blodau'n newid fel yr awn i fyny. Ar y dechrau gwelem frenhines y weirglodd aroglus, a'i blodau melynwyn, prydferth, yn rhoi rhyw gyfaredd i bob nant; a'r glaswenwyn, yntau yn ei fri yn Awst; a'r pengaled coch; a llu o flodau melyn, coch, a gwyn. Ond, fel yr awn i fyny, ânt yn anamlach. Daw brwyn a chrawcwellt. Ond bron hyd derfyn y daith, gwelwn droadau prydferth y Corn Carw yn y glaswellt byr a llonnir ni gan wên siriol ar wyneb bychan euraidd Melyn y Gweunydd.

5. Mae'r adar yn newid. Y mae ein ffrindiau gyda godre'r mynydd,—y Fronfraith, yr Asgell Fraith, Tinsigl y Gŵys, a llu eraill. Fel yr awn i fyny, odid nad y Gwddw Gwyn a Chlep yr Eithin a Bronrhuddyn y Mynydd a welwn. Ond fel y cyrhaeddwn ben y mynydd, deuwn i gartref adar rhaib,—y genllif goch, aderyn y bod, a'r eryr ei hun amser a fu. Ar ben y mynydd, a'r llechweddau creigiog, serth, is ein traed, mwyn yw edrych ar wibiadau y genllif goch. Rhydd gylch ar ôl cylch odditanom, yna ymsaetha i fyny, yna ehed ar wib yn union atom fel pe ar ei hyrddio ei hunan arnom, ond cyn ein cyrraedd rhydd dro sydyn chwim, ac ymaith â hi drachefn fel saeth. Difyr iawn i ni yw gwylio ei champau; ond y mae'n ddychryn i adar eraill, oherwydd ni wyddant pa funud y disgyn yn sydyn arnynt, gan blannu ei hewinedd cryfion yn eu cnawd.

6. Y mae'r awyr yn newid fel yr awn i fyny. Erbyn cyrraedd pen yr Aran, ni wyddom beth yw lludded. Y mae'n corff fel pe wedi ysgafnhau, rhedwn heb flino, ac y mae'r ysbryd wedi colli ei flinder i gyd. Ar ben uchaf Aran Benllyn y mae llyn hyfryd o ddwfr. Gorwedd Llyn Pen yr Aran mewn padell o graig, a'i finion bron cyrraedd y dibyn un ochr. Hyfryd yw eistedd ar ei lennydd gwyrddion, a theimlo yn awyr bêr y mynydd ein bod yn fwy o enaid nag o gorff.

Pam y cwyd Aran fawreddog yn uwch na'r bryniau o'i chylch? Am ei bod o ddefnyddiau caletach, rhai na fedr nerth y rhew na dyfalwch y glaw eu gwisgo ymaith ond yn rhyfeddol araf. Cerrig tân yw cribau bryniau'r Aran i gyd, a gellir casglu darnau prydferth o risial ymysg ei chreigiau. Ond y mae ganddi glog o garreg feddalach, rhyw lechen ddu, frau, am ei hysgwyddau.

Bu'r mynydd dan gynyrfiadau rhyfedd yn yr amser a fu. Dengys ffurf ei haenau hynny—y maent wedi eu gwasgu a'u plygu fel pe baent bapur. Dywed rhai mai hen losgfynydd oedd y ddwy Aran. Dan Aran Benllyn y mae Llyn Llynbren, ac o honno rhed Twrch i Ddyfrdwy islaw. Dan Aran Fawddwy y mae llyn Lleithnant, ac o honno ef y cychwyn afon Ddyfi.

Hir y cofir ymdaith i ben y mynydd,-ei olygfeydd eang, ei awyr ysgafn, a'r hoen a'r iechyd a geir yno.