Llyfr Owen/Yr Haul a'r Lleuad

Yr Indiaid Cymreig Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Dyn Coch

XI

YR HAUL A'R LLEUADI

1. YR ydych chwi wedi dysgu yn yr ysgol mai pelen aruthrol o dân ydyw'r Haul, ac mai o honno y caiff y planedau a'u lleuadau eu gwres, eu goleuni, a'u bywyd. Yr ydych wedi dysgu hefyd mai byd bychan—oer ac heb fywyd, medd rhai—ydyw'r Lleuad, yn troi o gylch y Ddaear bob mis, a'r ddwy yn troi o gwmpas yr Haul mewn blwyddyn.

2. Pan oeddwn i 'n blentyn fel chwi, dywedid llawer o hanes yr Indiaid Cochion wrthym. Yr adeg honno yr oeddynt yn ymladd yn erbyn yr ymfudwyr gwynion o Gymru a gwledydd eraill, ac yn sicr yr oeddynt yn greulon iawn. Hwy oedd pobl lluosocaf yr America unwaith; ond erbyn heddiw nid erys ond ychydig ohonynt.

Ar hela yr oeddynt yn byw, yn enwedig hela'r ych gwyllt a'r carw. Yr oeddynt yn fuandroed iawn, ac yn saethwyr medrus â'r bwa. Nid oedd eu bath am bysgota ychwaith. Addurnai'r dynion eu pen â phaent a phlu amryliw, yn enwedig pan ymdeithient i ryfel. Yr oedd amryw lwythau ohonynt,—yr Auron, y Siawnî, y Sion, y Traed Duon, yr Obidsewê, ac eraill,—ac yr oeddynt beunydd mewn rhyfel ffyrnig â'i gilydd. Byddai y plant yn dioddef llawer yn y rhyfel, ac yn y gaeafau celyd, pan fyddai'r ymborth yn brin. Ond hyfryd iawn fyddai eu byd pan fyddai'n heddwch a haf. Caent ddigon o gig pan ddeuai'r helwyr adref o hela hyd y paith eang, a chodid digonedd o bysgod o'r afonydd gloywon. Ac ar fin nos haf byddent wrth eu bodd yn chwarae o amgylch y wigwam, sef y babell y cysgent ynddi. Nid oedd ysgolion yn eu mysg, nac athrawon nac athrawesau. Ond eisteddent, yn gymysg â'r cŵn, wrth draed y bobl mewn oed a gwrandawent arnynt yn adrodd ystraeon. Ac yr oedd rhai, yn enwedig y gwŷr doeth (y dewiniaid) a'r gwŷr meddyginiaeth (eu doctoriaid) yn medru llawer iawn.

Pan oedd yr haul yn mynd i lawr ryw hafnos, gofynnodd un o'r plant beth oedd yr haul, a pham yr oedd yn boeth ac yn goch, a'r lleuad mor welw a phrudd. A dechreuodd rhyw hen heliwr esbonio.

3. Yn yr hen amser, meddai, cyn i'n tadau ni ddod i'r wlad hon, nid oedd yma ond deg o ddynion, brodyr cryfion, nerthol, ac un eneth eiddil, ofnus. Bu farw naw o'r brodyr y naill ar ôl y llall ac felly nid oedd yn aros ond yr eneth ac un dyn, a hwnnw yn ddyn nerthol a chreulon. Gofynnodd y dyn a ddeuai'r eneth yn wraig iddo ef. Dywedai hithau na ddeuai, oherwydd yr oedd yn ddrwg ei dymer, yn ddiog, yn gas, ac ni feddyliai am neb ond amdano'i hun. A phenderfynodd hi ddianc y noson honno, er mwyn bod o'i gyrraedd. Rhedai'n gyflym wrth olau leuad, a chlywai ef yn rhedeg ar ei hôl, gan waeddi ar ei gŵn. Gwelai hithau dwll yn y ddaear; ac er ei fod yn edrych yn ddu ac yn ddwfn, llithrodd iddo am ei bywyd. A syrthio, a syrthio a wnaeth, am oriau lawer, yn y tywyllwch.

Pan welodd oleuni, nid wrth ei phen y gwelai ef, ond i lawr dan ei thraed. Yr oedd wedi syrthio trwy'r ddaear i'r ochr arall. Ac fe'i cafodd ei hun mewn byd hyfryd,—afonydd llawn o bysgod, heldir llawn o geirw, a thywydd hyfryd, cynnes. Draw gwelai ŵr tal, myfyriol, yn pysgota. A gwyddai ar ei olwg mai dewin oedd, un yn gwybod meddwl yr Ysbryd Mawr. Erfyniodd arno ei hamddiffyn rhag yr hwn a edrychai am dani, ond bu'n hir iawn cyn cymryd sylw o honni. O'r diwedd, dywedodd wrthi'n swta : "Cei fynd i fyny i dramwyo'r nefoedd; ac os teithi di yn ffyddlon, fel y gweli dy hen gartref bob mis, ni fedr fyth dy ddal."

Aeth yr erlidiwr heibio'r twll yn y ddaear heb feddwl fod y ferch wedi disgyn iddo, ac aeth yn bell oddiyno. Ond yr oedd y cŵn yn dal i gyfarth lle yr aeth hi i lawr. O'r diwedd, mentrodd yntau i lawr, a syrthiodd trwy'r ddaear i'r ochr draw. Gwelodd yntau y dewin yn pysgota. Holai ef a welodd wraig deg, ond gwelw a blinedig, yn dianc fel pe am ei bywyd. Am oriau ni chymerai'r dewin ddim sylw o honno. Ond o'r diwedd, dywedodd : "Cei fynd i fyny i'r wybren i redeg ar ei hôl. Ond, er i ti redeg ar ei hôl am byth, a rhedeg nes bydd dy gorff ar dân, ni fedri ei dal." 4. A dyna pam y mae plant yn hoffi gweld y dydd yn hir, ac yn gwrthod mynd i'w gwelyau, er mwyn gwneud taith yr Haul yn hir. Ond pan welant mor brudd a gwelw yw'r Lleuad, y maent am i'r nos fod yn fer, rhag ofni'r ffoadures brydferth druan, flino'n rhedeg, a gadael i'r Haul ei dal.