Llyfr Owen/Yr Indiaid Cymreig

Gwlad yr Haul Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Yr Haul a'r Lleuad
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Madog ab Owain Gwynedd
ar Wicipedia

YR INDIAD COCH

X

YR INDIAID CYMREIG

1. TUA chan mlynedd yn ôl sonnid llawer am ryddid dyn, ac am hawl pawb i fod yn annibynnol. Ac wrth fod Indiaid cochion yn America mor annibynnol, mor anhyblyg, mor hoff o ryddid, telid llawer o sylw iddynt, a mawr oedd eu parch.

Yr adeg honno cofiwyd bod y trioedd Cymreig a hen feirdd yn sôn am dywysog a aeth ar goll ar y môr, sef Madog ab Owain Gwynedd. Aeth yn 1170, eb yr hanes, hyd Fôr Iwerddon, ac ymhell i Iwerydd dieithr, a gwelodd bethau rhyfedd. Yn 1172 aeth i'r môr drachefn gyda thri chant o wŷr, a throisant ben y cwch yn syth i'r gorllewin. Ni ddaethant byth yn ôl.

Ond ymhen rhyw chwe chant o flynyddoedd, pan dynnai Indiaid yr America sylw, cofiwyd am ddifancoll Madog ab Owain Gwynedd. A daeth sôn rhyfedd o'r America fod, ymysg yr Indiaid, lwyth neu ddau yn siarad Cymraeg! Bu teithiwr Americanaidd o'r enw Mr. Catlin yn byw gyda llwyth Indiaidd gwaraidd a charedig, a chyhoeddodd fod llawer o'u geiriau yn Gymraeg pur. Ac felly dywedodd y rhai oedd am foli Cymru nad Columbus a ddarganfu yr America, ond Cymro, sef Madog ab Owain Gwynedd, gannoedd o flynyddoedd cynt. A dywedent fod disgynyddion Madog a'i wŷr, sef y Madogwyr, yn byw yn awr ar lannau'r Miswri. A llawer o bethau eraill a ddychmygasant. Yn wir, dychymyg oedd y cwbl.

Ond credodd miloedd o bobl mai gwir oedd, a bu effaith y gred ar lenyddiaeth Saesneg a Chymraeg. Canodd Ceiriog gân, ar alaw Difyrrwch y Brenin, yn darlunio Madog a'i wŷr yn myned i'r môr:

Wele'n cychwyn dair ar ddeg
O longau bach ar fore teg.

Yr oedd "Madog" Robert Southey yn boblogaidd iawn. Ac apeliodd "Ffarwel Madog Dywysog" Mrs. Hemans at genedl o forwyr, sef y Saeson.

2. Ymysg y rhai a gredodd chwedl y Madogwyr yr oedd Cymro ieuanc brwdfrydig a gwladgarol o'r Waen Fawr yn Arfon, o'r enw John Evans. Penderfynodd fynd ar daith anturus i chwilio am ei gydwladwyr, rhag nad oeddynt yn cofio yn glir am yr Iesu. Y mae rhywbeth yn arwrol yn hanes y cenhadwr ieuanc. Crwydrodd fil a chwe chant o filltiroedd i chwilio am ei gydwladwyr. Ond gorfu iddo droi i gaban yn rhywle ar lan Misŵri. dan dwymyn boeth, ac yno y bu farw. Canodd Ceiriog gân iddo ar alaw "Llwyn Onn":

Mae'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymro yn flin ar ei daith :
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Misŵri,
I chwilio am Iwyth a lefarai ein hiaith.
Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloywon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio drwy'i hun;
Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon,
"Pe le mae'r hen Gymry, fy mhobl fy hun '!


Fe ruai bwystfìlod, a'r nos wnâi dywyllu,
Tra'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn;
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un;
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,—
"Pa le mae'r hen Gymry, fy mhobl fy hun? "

Ni fu Cymru croengoch ar lannau Misŵri eroed. Ond, er hynny, y mae rhywbeth ym mreuddwydion ac ystraeon yr hen Indiaid yn debyg i rai'r hen Gymry. Hyd y gwelais i hwy, y maent yn dyner a lleddf a chwaethus fel rhai'r Cymry. Yn wir, gallwn dybied bod hanes pen Bendigaid Frân, a hanes pen Tamo yn y gogledd dir, wedi dod o'r un gwreiddyn.