Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 4

Llythyr 3 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 5

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 4.

At RICHARD MORRIS, o Lundain.


DONNINGTON, Mehefin 22, 1752.

SYR,

Mi a dderbyniais eich Epistol, a rhyfedd oedd gennyf weled un yn dyfod o Lundain, a thra rhyfedd gweled Enw Gwr na welais erioed â'm llygaid. Ffafr oedd hon heb ei disgwyl eithr po lleiaf y Disgwyliad mwyaf y Cymmeriad. Er na ddigwyddodd i'm llygaid erioed ganfod mo honoch, etto nid dieithr i mi mo'ch Enw; tra fu byw fy mam [mi a'i clywais yn fynych.] Gan ofyn o honnoch pa fath fywoliaeth sydd arnaf, cymmerwch fy Hanes fel y canlyn. Nid gwiw gennyf ddechreu sôn am y rhan gyntaf o'm. Heinioes; ac yn wir, prin y tâl un rhan arall i'w chrybwyll, oblegid nad yw yn cynnwys dim sydd hynod, oddigerth Trwstaneiddrwydd a Helbulon; [a'ch bod chwithau'n gorchymyn yn bendant i mi roi rhyw drawsamcan o'm hanes.] Tra bum a'm llaw yn rhydd (chwedl pobl Fôn), neu heb briodi, byw yr oeddwn fal Gwyr ieuaingc eraill, weithiau wrth fy modd, weithiau'n anfodlon; ond pa wedd bynnag, A digon o Arian i'm cyfreidiau fy hun, a pha raid ychwaneg? Yn y flwyddyn 1745, e'm hurddwyd yn Ddiacon, yr hyn a eilw'n Pobl ni Offeiriad hanner pan; ac yno fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisiau Curad y pryd hynny yn Llanfair ym Mathafarn Eithaf ym Môn; a chan nad oedd yr Esgob ei hun gartref, ei Chaplain ef a gyttunodd A mi i fyned yno. Da iawn oedd gennyf y fath gyfleusdra i fyned i Fon (oblegid yn Sir Gaernarfon a Sir Ddymbych y buaswn yn bwrw y darn arall o'm hoes er yn un ar ddeg oed), ac yn enwedig i'r Plwyf lle'm ganesid ac y'm magesid. Ac yno yr aethym, ac yno ba'm dair Wythnos yn fawr fy mharch a'm cariad gyda phob math o fawr i fâch; a'm Tâd yr amser hwnnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm Plwyfolion; Eithr ni cheir mo'r melys heb y chwerw. Och o'r Gyfnewid! Dymma Lythyr yn dyfod oddi wrth yr Esgob (Dr. Hutton) at ei Gappelwr neu Chaplain, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis o Gaer'narfon (a young Clergyman of a very great fortune) wedi bod yn hir daer—grefu ac ymbil ar yr Esgob am ryw le, lle gwelai ei Arglwyddiaeth yn oreu, o fewn ei Eagobaeth ef, ac atteb yr Esgob oedd, o's Mr. Ellis a welai'n dda wasanaethu Llanfair (y lle gyrrasai'i Gappelwr fi,) yr edrychai efe (yr Eagob) am ryw beth gwell iddo ar fyrder. Pa beth a wnae Drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y Cappelwr wrth yr Esgob, nac ymryson â neb o honynt, yn enwedig am beth mòr wael, oblegid ni thalai'r Guradiaeth oddiar ugain Punt yn y flwyddyn.—Gorfu arnaf fyned i Sir Ddymbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes Curadaeth yn ymyl Croes Oswallt [yn sir y Mwythig, ac yno y cyfeiriais;] ac er hynny hyd y dydd heddyw ni welais ac ni throediais mo ymylau Môn, nag ychwaith un cwrr arall o Gymru, onid unwaith, pan orfu i mi fyned i Lan Elwy i gael urdd Offeiriad. Mi fù'm yn Gurad yn Nhref Groes Oswallt ynghylch tair Blynedd, ac yno y priodais yn Awst 1747. Ac o Groes Oswallt y deuais yma yn Medi 1748. Ac yn awr, i Dduw bo'r diolch, y mae gennyf ddau Langc têg, a Duw roddo iddynt hwy ras, ac i minnau iechyd i'w magu hwynt. Enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd oed yw er Dydd Calan diweddaf. Enw'r llall yw Gronwy, a blwydd oed yw er y pummed o Fai diweddaf.—Am fy mywoliaeth nid ydyw on'd go helbulus, canys nid oes genyf ddim i fyw arno onid a ennillwyf yn ddrud ddigon. Pobl cefnog gyfrifol yw Cenedl fy Ngwraig i, ond ni fu'm i erioed ddim gwell erddynt, er na ddygais moni heb eu cennad hwynt, ac ni ddigiais mo'nynt 'chwaith. Ni fedr fy Ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg, etto hi ddeall beth; ac ofni'r wyf, onid Af i Gymru cyn bo hir, mae Saeson a fydd y Bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu gair o Gymraeg. Mae gennyf yma Ysgol yn Donnington, ac Eglwys yn Uppington, i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 Punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hynny tuag at gadw tŷ a chynifer o Dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud a'r Bobl yn dostion ac yn ddigymmwynas? Er hynny, na atto Duw i mi anfodloni, oherwydd Po cyfyngaf gan Ddyn ehengaf gan Dduw.[1] Nid oes ond gobeithio am well Troiad ar Fyd. Fe addawodd eich brawd Llewelyn o Geredigion,[2] yr edrychai ryw amser am ryw le i mi Ynghymru; ac nis gwaeth gennyf fi o frwynen ymha gwrr i Gymru. Duw a gadwo iddo ef iechyd a hoedl, ac i minnau ryw fath o fywioliaeth, ac ammynedd i'w ddis- gwyl. Nid oes gennyf yn awr neb arall i ddisgwyl wrtho, Ni waeth gan y Bobl yma, am a welaf fi, er yr hwyed y cadwont Ddyn danodd, os cânt hwy eu gwasanaethu, deued a ddel o'r Gwasanaethwr, ni phrisiant hwy ddraen, er gwario o hono ei holl nerth a'i amser, ie, a gwisgo o hono ei Gnawd oddi am ei Esgyrn, yn eu gwasanaeth hwynt. Ysgottyn yw'r gwr yr wyf yn ei wasanaethu yn awr, a Douglas[3] yw ei enw. Yagatfydd, chwi a'i hadwaenoch; y mae yna yn Llundain yn awr, a'r rhan fwyaf o'i amser, gyda Iarll Baddon (Earl of Bath) yn dysgu ei Fab ef. Efe yw'r Gwr a gymmerth blaid y Prydydd Milton, yn erbyn yr Enllibiwr atgas gan Lauder. Pa wedd bynnag, tôst a chaled ddigon yw hwnnw wrthyf fi; 'r wyf yn dal rhyw ychydig o Dir, sy'n perthyn i'r Ysgol, ganddo ef, ac er ei fod yn rhy ddrud o'r blaen, etto fe yrrodd y leni i godi ar fy Ardreth i, rhag ofn a fyddai i Gurad, druan, ennill dim yn ei wasanaeth ef, neu gael bargen ry dda ar ei law ef. (O, the unparalleled extent[4] of Scotch kindness and charity !) Etto ni chlywai ei Stiwart ef (yr hwn a wyddai'n anian dda pa beth a dalai y Tir) ar ei galon godi mo'r Ardreth un ffyrling yn uwch, ac odid y rhoesai neb arall gymmaint am dano. Nid wyf ond Bwngler am ysgrifennu Llythyr Cymraeg, o eisiau arferu, er fy môd yn dyall yr Iaith yn o lew; ac am hynny gwell i mi bellach droi'r Ddalen.—I am exceedingly obliged to you for the favour you did me in putting my name in for one of the Welsh Dictionaries, and should be glad to know if one might buy two or three of the Bibles to give away, and at what price? As for Cywydd y Farn Fawr, I would have sent it you with all my heart, but that I understand that Mr Ellis, Minister of Holy-head, intends to be at the expence of printing it. That, probably, was the reason why Mr Wm Morris did not send you a Copy of it. He can shortly send it in print, with Notes, Explanations, &c., which will be far better and more correct than I can send it at present. However, if you choose to have it from me, you shall and wellcome; only let me know so much in a line by Post, for I hope, that which I received is not to be both first and last. If it please God to lend me my life and health, I will find enough of that kind of diversion for you, especially if I could once be so happy as to get rid of the confinement of a School. I have now but very little time to spare (perhaps an hour or two in a day) and yet, notwithstanding, I keep up a pretty expensive correspondence. I make shift to write some new thing or other to Mr L. Morris, about every month. Some time ago I was wishing I had a Correspondence in London (besides my Patron, for he would do me no good,) that I might, if possible, be furnished with a few Books that would give me an insight into the Oriental Languages, I mean the Arabick and Syriack; for the Hebrew and Chaldee I have some smattering in. I have often heard that almost any Book may be had, and pretty reasonably, at the Booksellers' stalls in London. Now if you should by chance see an Arabick Grammar, &c., either buy it, or cheapen it, and let me know the price, I could easily send up the money by the Salop Waggon, [which goes to London every week,] and receive any parcel from thence back by the same for it comes within half a Mile of my house. I say if you should see such a book by chance, (for I would not put you to the least trouble in the World about it,) and secure it for me, I would remit the money immediately, and ever gratefully acknowledge the favour. And perhaps I might some time or other be able to compass the buying of a Polyglott Bible.—Mae genyf ryw awydd diwala i ddysgu cymmaint ag a allwyf, ond yma ni fedraf gael mo'r llyfrau i ddysgu dim a dalo i'w ddysgu. Nid wyf yn cofio glywed sôn erioed am y Mr Huw Dafis yr ych yn crybwyll am dano, nag am Modryb Mari Brodiart o Lan Eilian 'chwaith. Mae'n atgof genyf glywed sôn am Mr Richard Broadhead, neu Brodiart, o Ren Hescin, ym Môn; ond ni adnabûm i neb erioed yn Llan Eilian, na nemmawr yn un lle arall ym Môn, oddigerth ychydig ynghylch y Cartref, a thua Dulas a Bodewryd a Phenmon, &c., lle'r oedd ceraint fy Mam yn byw. Er pan aethum i'r ysgol gyntaf, hynny oedd ynghylch Deg neu un ar ddeg oed; nid oeddwn arferol o fod Gartref ond yn unig yn y Gwyliau, ac felly nid allwn adwaen mo'r llawer. Mi a wn amcan pa le mae Tref Castell yn sefyll, er na's gwyddwn pwy a'i pioedd. Y tro cyntaf erioed yr aethum i'r Ysgol, diangc a wnaethym gyd â Bechgyn eraill, heb wybod i'm Tad a'm Mam: fy Nhad a fynnai fy nghuro, a'm mam ni's gadawai iddo; ba wedd bynnag trwy gynhwysiad fy Mam, yno y glynais, hyd oni ddysgais enill fy mywyd. A da iawn a fu imi; oblegid ynghylch yr amser yr oeddwn yn dechreu gallu ymdaro trosof fy hun, fe fu farw fy Mam, ac yno nid oedd ond croesaw oer gartref i'w ddisgwyl. I Dduw y bo'r diolch, mi welais ac a gefais lawer o adfyd, ac etto methu cefnu'r cwbl; ond gobeithio'r wyf weled o honof y darn gwaethaf o'm bywyd eisus heibio.—Da iawn a fydd gennyf glywed oddiwrthych, pan gaffo'ch gyfleusdra; a goreu po cyntaf. Bid siccr i chwi, os gwelwch yn dda, gael rhyw Gywydd yn y nesaf, ac ymhob un o hyn allan. Chwi a gawsech Gywydd y Farn yn hwn oni buasai fy mod yn meddwl mai gwell i chwi ei gael yn Argraphedig. Os nid ellwch yn hawdd ddidolli'ch Llythyr â Ffrencyn, gyrrwch ef ymlaen heb yr un; ni wna Grotten na'm dwyn na'm gadael.—If Mr Hugh Davies calls of me in his way to Anglesey, I shall be glad to see him; I live four Miles short of Salop, within half a Mile of the Golden Horse Shoe, on Watlingstreet road; which is about 3 quarters of a Mile short of Tern Bridge Turnpike as he goes from Watlingstreet to Atcham, and so to Salop. I have time to write no more but that I am (with abundance of thanks for this favour) Your most obliged humble servant,

Gronwy Ddu, alias Offeiriad
alias Y Bardd Bach o Fon.

N.B.—Llwybreiddiwch eich Llythyr fal o'r blaen, ond yn unig cofiwch ei orchymmyn i Gŵd Shiffnal (Shiffnal Bag) ac mi a'i caf ddauddydd neu dri yn gynt, oblegid heb hyny fe â heibio i'm trwyn i i'r Mwythig, ac yno bydd hyd ddychweliad y Post.

Nodiadau

golygu
  1. Quo angustius apud hominem (hominis sensu) eo largius liberius) Apud Deum,
  2. Lewis Morris, Esqr. of Cardiganshire.
  3. Dr. Douglas, late Bishop of Carlisle, now Bishop of Salisbury.
  4. Yn y llawysgrif "extensiveness" wedi ei gywiro i "extent,"