Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 5
← Llythyr 4 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
Llythyr 6 → |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 5.
At RICHARD MORRIS.
Syr,
Dyma'ch Llythyr wedi cyrraedd hyd ymma; a da iawn oedd gennyf ei weled, ac nid bychan ei groesaw er mwyn y Llaw a'i hysgrifennodd. E fu frwnt anial gennyf lawer gwaith, er pan ysgrifenais attoch o'r blaen, na buaswn yn gyrru i chwi Gywydd y Farn. Ni's gwn, pe crogid fi, pa fodd y bu hynny o wall arnaf; eithr boed siccr gennych mai nid anewyllysgarwch oedd yr achos, ond byrr feddwl. Tybio wnawn i fal Hurtyn, mai amgenach a fyddai genych ei gael yn Argraffedig, heb ystyried mai unig Gymmeradwyaeth yr Anrheg oedd hanfod o honaw o law yr Awdwr. Ba wedd bynag, os rhynga fodd iwch esgusodi hynny o esgeulusdra, llyma fo i chwi yn awr fal y mae gennyf finnau trwy ei liw a'i loywion, fal y dywedynt.[1]—Wel, dyna i chwi Gywydd y Farn, ac odid na fydd ryfedd genych (a gwaeled y Gwaith) gael o hono gymmaint cymmeriad yn y Byd. Ond os mawr iawn ei Gymmeriad, mwy yw'r genfigen, gan rai, wrtho. Os nad ych yu dirnad paham y rhoddwyd y geiriau hyn yn ei ddiwedd—Crist fŷg a fo'r Meddyg mau—gwybyddwch claf a thra chlaf o'r Cryd oeddwn pryd y dechreuais y Cywydd, ac hyd yr wyf yn cofio meddwl am farw a wnaeth i mi ddewis y fath destyn. O's chychwi a chwenych weled peth ychwaneg o'm Barddoniaeth i, gadewch wybod pa ddarnau a welsoch (rhag i mi yrru i chwi y peth a welsoch o'r blaen), ac yno mi yrraf i chwi Gywyddau o fesur y Maweidiau. 'Rwyn dyall fod yr hên Frutaniaid yn Bobl go gymdeithgar yna yn Llundain. Ond pa beth a ddywaid yr Hen Ddihareb, Ni bydd dyun dau Gymro?[2] Gobeithio er hynny nad gwir mo bob Dihareb, ac os e, mai nad Dihareb mo hon, on'd rhyw ofer-chwedl a ddychymmygodd rhyw hen Wrach anynad, ymladdgar. Digon gweddol a thylwythgar y gwelais i hynny o Gymru a gyfarfüm â hwynt yn Lloegr. O's tybiwch yn orau, chwi ellwch ddangos Cywydd y Farn i rai o'ch brodyr yn y Cyfarfod Misawl nesaf, yn enwedig i Mr Huw Dafis, neu'r cyffelyb, & fo'n hanfod o'n gwlad ni ein hunain. Ni'm dawr i pa farn a roi'r arno, oblegid gael o hono farn hynaws a mawrglod gan y Bardd godidoccaf, enwoccaf sy'n fyw y dydd heddyw, ac (o ddamwain) a fu byw erioed Ynghymru, nid amgen Llewelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr wyf fi yn ei gyfrif yn fwy nå myrdd o'r Mân-glytwyr Dyriau, naw hugain yn y Cant, sydd hyd Gymru yn gwybetta, ac yn gwneuthur neu'n gwerthu ymbell resynus. Garol, neu Ddyri fòl Clawdd. Pe cai y fath Rymynnwyr melldigedig eu hewyllys, ni welid fyth Ynghymru ddim amgenach, a mwy defnyddfawr, na'u diflas Rincyn hwy eu hunain.
Am y Grammadeg Arabaeg a Syriaeg, gadewch iddynt, ni fynnwn i er dim eich rhoi chwi mewn côst na llafur er porthi fy awydd fy hun. Nid wyf etto berchen y bocced a brynnai Lyfr o werth Dwybunt. Rhyw Goron neu Chweugian a fyddai ddigon genyf fi wario ar Lyfrau Arabaeg. Nid oeddwn i yn deusyf nac yn disgwyl yr A'ach chwi i'r boen i ymofyn cyn fanyled ynghylch y fath beth. Rhaid i mi, heb y gwaethaf, roi heibio feddwl am y cyfryw bethau, hyd oni thro'o Duw ei wyneb a gyrru i mi fy Ngofuned, neu rywbeth a fo cystal er. fy lles. Rhaid yw yn awr arbed yr Arian tu ag at fagu'r Bardd a'r Telyniawr, a chodi calon "Y Wraig Elin rywiog olau." Am y Llyfrau Arabaeg ac Ebryw sydd yn eich meddiant chwi eich hunan, nid wyf mor chwannog a'u cybyddu oddiarnoch: ni fyddai hynny mor llawer gwell nâ lladrad, oblegid fe orfyddai arnoch brynnu eraill yn eu lle hwynt at eich gwasanaeth eich hun. Mae'n gyffelyb eich bod chwi'n dyall yr Ieithoedd hynny, ac os felly mi a wn fi yu swrn dda anwyled y gall fod genych y Llyfrau. Mae gennyf fi yma Feibl, a Salter, a Geirlyfr a Gramadeg Hebraeg, a dyna'r cyfan,-a da cael hynny. Ond am yr Arabaey, ni feddaf Lyfr o honi. Gwych a fyddai gennyf gael gwybod pwy yw Siancyn Tomos Phylip, sy'n dyall yr ieithoedd Dwyreiniol cystal. Gwyn eich byd chwi, ac eraill o'ch båth, sydd yn cael eich gwala o ddysg a Llyfrau da, ac yn amcreiniaw mewn ehangder a digonoldeb o bob cywreinrwydd, wrthyf fi a'm bith, sy'n gorfod arnom ymwthio'n dynn cyn cael llyfiad bys o geudyllan goferydd Dysgeidiaeth. Gwae fi o'r cyflwr! Ni ddamweiniodd i mi adnabod mo Ieuan Fardd o Golege Merton,[3] ond mi a glywais gryn glod iddo, a thrwy gynhorthwy Llywelyn Ddu, mi welais rywfaint o'i Orchestwaith a diddadl yw na chafodd mo'r glod heb ei haeddu. Er ei fod yn iau nå mi, o ran oedran, eto mae'n hŷn Prydydd o lawer, oblegid ryw bryd Yngwyliau'r Nadolig diweddaf y dechreuais i, ac oni buasai'ch Brawd Llywelyn, & yrrodd i mi ryw dammaid praw, o waith Ieuan, ac a ddywaid yn haêrllug y medrwn innau brydyddu, ni feddyliaswn i erioed am y fath beth. Tuag at am yr hyn yr y'ch chwi yn ei ddywedyd, sef, mai Gronwy Ddu o Fôn yw Pen Bardd Cymru oll, mae gennyf ddiolch o'r mwyaf i chwi am eich tŷb dda o honof; ond gwir ydyw'r gwir, yn ydych yn camgymeryd. Llewelyn Ddu yw Pen Bardd Cymru oll, ac ni weddai'r Enw a'r Titl hwnnw i neb arall sy'n fyw heddyw. Nid yw Ieuan a minnau ond ei Ddysgyblion ef, ac o'r Dysgyblion pwy a yf ei ddysg orau, ond hwnnw fo'n wastadol tan law ei Athraw? E fu hynod iawn yr ymdrech rhwng Gŵr o Geredigion a Gŵr o Fôn, er ys gwell na thrychan Mlynedd aeth heibio, sef, D. ap Gwilym, a Gryffydd Gryg; ac am yr wyf fi'n ei ddyall, Môn a gollodd a Gheredigion aeth a'r maes. Felly ninnau:—pa beth yw Gronwy Ddu wrth Ieuan Fardd o Geredigion? eto gwych a fyddai i Fôn gael y llaw uchaf unwaith, i dalu galanas yr Hên Ryffydd Grûg? Gwaetha peth yw, nid wyf fi'u cael mo'r amser, na heddwch, na hamdden gan yr hen Ysgol front yma, a drygnad y Cywion Saeson, fy Nysgyblion, yn suo 'n ddidor ddidawl yn fy Nghlustiau, yn ddigon er fy syfrdannu a'm byddaru. Chwi welwch fy mod yn dechreu dyfod i ysgrifennu Llythyr Cymraeg yn o dwtnais. Gadewch gael clywed oddiwrthych cyntaf byth ag y caffoch hamdden, ac os oes genych ryw Lyfrau Hebraeg a dim daioni ynddynt, neu rai Arabaeg, a alloch yn bur hawdd eu hepcor, chwi ellwch eu llwybreiddio ataf fi—i'w gadael yn yr "Horse Shoe near Tern Bridge," a'u gyrru gyda'r Waggon sy'n perthyn i'r Mwythig. Ond na yrrwch i mi ddim a fo dreulfawr, ag na alloch yn bur hawdd eu hepcor. Os gyrrwch Lyfr yn y Byd a dalo ei yrru, myfi a ddygaf y gost, ac a'i gyrraf yn ol i chwi drachefn (Carriage paid). Bellach rhaid cau hyn o Lythyr oblegid ni erys Malldraeth wrth Owain, ac y mae lle i ofni nad erys y Pôst wrth Ronwy. Byddwch wych. Wyf eich tra-rwymedig a gostyngeiddiaf Wasanaethwr,
Dyd-dyd gadewch wybod orfu i chwi dalu am y Llythyr o'r blaen.