Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 48
← Llythyr 47 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
Llythyr 49 → |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 48.
At yr anrhydeddus a'r hybarch Gymdeithas o Gymmrodorion, Gronwy Ddû eu Cyfaill a'u Bardd gynt, a'u Gwasanaethwr, a'u Câr hyd angau, yn anfon Annerch-
Y PENDEFIGION URDDASOL,
"Yn gymaint a'm bod eisus yn dra rhwymedig i'ch hybarch Gymdeithas, a'm bod yn myned yn ddiattreg (Duw ro fordwy dda) yn rhy bell i ddisgwyl byth weled un wyneb Dŷn. o honoch; mi dybiais nad anghymmwys imi (neu'n hytrach fod yn ddyledus arnaf) gymeryd cennad teg gennych oll cyn fy nghychwyn. Ac, fal y mynnai Dduw dyma'r adeg oreu oll o'm blaen, sef ar noswaith eich Cyfarfod, pryd y mae rhan fawr o honoch wedi ymgynnyll trwy Undeb a Brawdgarwch (yn ol eich Arf-sgrif) i gyd synniaw ar wir lês eich Gwlad, ac i hwylio 'mlaen amryw eraill o ddibenion canmoladwy i'ch Cymdeithas. Gweddus a Christionogol iawn eich gwaith, boddlawn gan Dduw a chysurus i amryw o'i Aelodau anghenawg, a chlodfawr yngolwg holl Ddynol ryw a sicer a fydd eich gwobrwy (ddydd a ddaw) gan yr hwn a ddywed, "Gwyn ei fyd a dosturio wrth y tlawd a'r anghenus." Am danaf fy hun, nid allaf ymhonni o ddim rhan o'r fendith yma (er bod yn aelod o'ch urddasol Gymdeithas) gan na roes y Goruchaf im' mor Gallu, er y gallaf yn hyderus ddywedyd na bu arnaf erioed ddiffyg ewyllys, ac (os Duw a'm llwydda) na bydd byth. Dyn wyf i (fal y gŵyr amryw o honoch) a welodd lawer tro ar fyd, er na welais nemmor o dro da, ac mi allaf ddywedyd wrthych (fal y Patriarch Jacob i Pharaoh gynt) Ychydig a blin fu dyddiau'ch Gwas hyd yn hyn; ond yn awr yr wyf yn gobeithio fod Nef yn dechreu gwenu arnaf, ac y bydd wiw gan yr Hollalluog, sy'n porthi Cywion y Gigfran pan lefont arno, roi i minnau fodd i fagu fy Mhlant yn ddiwall, ddiangen. Er eu mwyn hwy'n unig y cymmerais yn llaw y Fordaith hirfaith hon, heb ammeu gennyf nad galwad Rhagluniaeth ydyw. Hir a maith yn ddiau yw'r daith i Virginia; ond etto mae'n gysur (pan elir yno) gael dau ganpunt yn y flwyddyn at fagu'r Plant. Mae hyn yn fwy nag a ddisgwyliais erioed ym Mhrydain na'r Iwerddon; a pha fodd yr attebwn i'm teulu, pe gwrthodwn y fath gynnyg trwy lyfrdra a difrafwch? Er eu mwyn hwy ynteu, mi deflais y Dis, gan roi f'einioes yn fy llaw, a diystyru pob perygl a allai 'ngoddiwes; a hynny nid yn fyrbwyll ond o hîr ystyried ac ymgynghori a'm carai. O..d er hynny wedi 'styried ol a blaen, mi welaf yn awr lawer anghaffael na fedrais graffu arnynt nes bod yn rhywyr. Erbyn. eyttuno & Pherchenog y Llong, mi welaf nad yw'r holl arian a gaf at fy Nhaith, ac oll a feddaf fy hun (wedi talu i bawb yr eiddo), ond prin ddigon i ddwyn fy nghôst hyd yno; ac erbyn y caffwyf fy nhroed ar Dir yr Addewid, y byddaf cyn llymmed o arian a phan ddaethum o grôth fy Mam. Gwaith tost yw i bump o Pobl fyned (nid i Deyrnas ond) i Fyd arall, heb ffyrling at eu hymborth! A gwaethaf oll yw, nad a'n Llong ni o fewn 30 milltir i Williamsburgh; ac (och! Dduw) pa fodd yr ymlusgir yno hyd Fôr na Thir heb arian? Fe ŵyr Duw mor llwm ac annrhwsiadus hefyd ydym oll i fyned i'r cyfryw le; ond nid yw hynny ddim os ceir Bara-
Dyna'r achosion (anwyl Gydwladwyr) a barodd i'm ryfygn gofyn eich Cymmorth ar hyn o dro, gan wybod yn ddilys na flinaf un o honoch byth rhagllaw; ond os Duw rydd Einioes, mi gyd unaf & chwi'n llawen i gymmorth eraill o'n Gwlad. Rhowch hefyd i'm gennad, ar hyn o achlysur, i dalu diffuant Diolch i chwi am eich parodrwydd i'm cymmorth dro arall, pryd yr oedd llai fy angen, er nad llai eich Ewyllys da chwi, na'm Diolchgarwch innau; er na cheisiais ac na chefais y pryd hynny ddim o'ch haelioni, o fai rhyw Aelod blin terfysgus. oedd yn eich plith. Ond yn awr yr wyf yn attolwg arnoch, y rhai oeddych mor barod im Cymmorth (ped fussai raid) fy ngymmorth ychydig wrth fy llwyr angenrhaid. Nid wyf yn ammeu Ewyllys da yr un o honoch ar y cyfryw achos; Ond pa un bynnag a wneloch ai ystyried fy ngyflwr ai peidio, Myfi a weddiaf ar Dduw roi ichwi lwyddiant yn y Byd hwn, a'r hwn sydd i ddyfod; yr hyn (y pryd yma) yw'r cwbl a cill eich ufuddaf wasanaethwr,
- Tachwedd yr Ail, 1750,