Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 49
← Llythyr 48 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
→ |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 49.
At WILLIAM MORRIS.
FY ANWYL GYFAILL,
Ar ol cydalaru â chwi am farwolaeth eich dau Frawd godidog, y nesaf peth a ddylwn ei wneuthur yw mynegi iwch pa fodd y digwyddws im glywed y trist newyddion. Ar fyrr eiriau, fal hyn y bu: chwi fe weddai a ysgrifennachos at ryw Wm. Parry yn Middlesex yn y wlad yma, tros saith ugain milltir, o'r lle 'rwyf i'n preswylio, ac ynteu ymhen hir a hwyr a scrifennodd yma. Minnau a'i hattebais ynteu drachefn, ond byth gwedi ni chlywais siw na miw oddiwrtho. Ofni 'rwyf fod rhyw chwiwgi wedi dyfrodi fy llythyr cyn ei roi i'r Parry. Nid oes yma ddim Pôst yn myned trwy'r wlad fal yna, dim ond ymddiried i'r cyntaf a welir yn myned yn gyfagos i'r lle, ac weithiau fe fydd Llythyr naw mis neu flwyddyn yn ymlwybro 30 milltir o ffordd, ac yn aml ni chyrraedd byth mo'i bennod, Hiliogaeth Lladron o bob gwlad yw'r rhan fwyaf o drigolion y fangre hon, ac y mae ysfa diawledig ar eu dwylaw i fod yn ymyrreth â phethau pobl eraill, ac i wybod pob ysmicc a fo rhwng Sais geni a'i gydwladwyr yn Lloegr. Dialedd a chwant sydd arnynt gael gwybod helyntion Gwyr o Brydain a pha un a wnelont ai rhoi gair da i'r Wlad a'r bobl yn eu llythyrau ai peidio. Fe gyst i mi fyn'd drugain milltir neu gwell i roi hwn i ryw Gadpen ar fwrdd Llong; onid e ni ddeusi byth hyd yna, os daw er hynny. Mi 'scrifennais attoch liaws o lythyrau ynghylch wyth mlynedd i'r awrhon; nis gwn a gawsoch ddim o honynt. Y mae yma o fewn deugain milltir attaf, un Sion ap Huw, Cymro o Feirionydd, yn Berson mewn plwyf.[1] Hwnnw a ddywed i mi fod fy Nghyfaill Lewis Morys wedi cael ei daflu yn y gyfraith, ai ddiswyddo ai ddifetha, cyn iddo adael Cymru; ond nis clywai mo'i farw. Fe ddywed hefyd fod peth o'm Gwaith i yn argraphedig, a gwaith y Llew gyda hwynt. Gwych a fyddai ei gweled. Do hefyd a gwaith Ieuan Fardd yn argraphedig. A ellid byth ei weled y tu yma i'r Mor? Ni chaf na lle nag amser i ddywedyd i chwi ddim o'm helyntion ar hyn o dro; pan weloch yn dda 'scrifennu, chwi gewch wybod y maint y fynoch. Yr unig beth sydd i'm i'w daer ddeisyf gennyf yw, rhoi imi lawn gyfrif pwy rai o'm Cydnabyddiaeth sy'n fyw, a pha le y maent, rhag i mi sgrifennu at bobl yn eu beddau. Ple mae'ch nai Sion Owain fwynwr Mae'r Parry o'r Mint? Mae'r Person Mr. Humphreys? Ai byw Tom Willms y Druggist o Lân y Bais? Os è, ai yna y mae fyth? Ai byw Huwcyn Williams, Person Aberffraw? Ai byw'ch Tad? a'm Chwaer Sian innau ym Mynydd Bodafon? Mi ges y newydd farw 'Mhrawd Owen Ynghroes Oswallt. Yr wyf i (i Dduw bo'r diolch) yn iach heinif, a'r wlad yn dygymmod a mi'n burion. Nid oes un o'm teulu Seisnig yn fyw, ond fy Mab Rhobert. Yr wyf yn briod a'm trydydd Wraig, a chennyf dri o blant a aned yma. Ond nawdd Duw a'i Saint rhag y trigolion, oddigerth y sawl o honynt sydd Saeson; ac nid da mohonynt hwythau oll. Annerchwch fy Nghyfaill Parri o'r Fint, a Pherson y Twr gwyn, a Sion Owen fwynwr, ie ac Andrew Jones, a phob wyneb Dŷn a'm hadwaeno. Duw gyda chwi oll. Mi fyddaf yn disgwyl Llythyr ymhen chwech mis. Mi wyf yr eiddoch &c.,
Nodiadau
golygu- ↑ Ychwanega'r Llawysgrif rhwng cromfachau.—"One John Pugh Son of David Pugh of Ty Newydd in Dolgelley, he was Curate of Llanddoget A.D. 1763, from whence he took trip to America."