Madam Wen/Awdurdod yr Ogof

Adduned Einir Wyn Madam Wen

gan William David Owen

Cêl-Fasnach



IV.

AWDURDOD YR OGOF

YR oedd yn noson dywyll; glaw mân a niwl wedi gordoi Llyn Traffwll a'r cylch. Ffolineb i neb ond rhai cyfarwydd fuasai anturio i barciau Traffwll ar y fath noson, ond gwyddai Nanni Allwyn Ddu ei ffordd yn dda drwy'r goedwig eithin, ac ymlwybrai dros ffos a thrwy gors gyda hyder un oedd gynefin. Cyn hir daeth at fwthyn tlodaidd a safai ar godiad tir ar gwr y parciau ac yn ymyl y gors.

Cai'r bwthyn yma y gair o fod yn breswylfod Wil Llanfihangel, ond ychydig o arwyddion oedd arno ei fod yn drigfa i neb. Yr oedd digon o arswyd ei amgylchoedd gwyllt ar ddieithriaid i'w cadw draw, a diau na chymerai cydnabod Wil lawer o hyfdra. Ac o ganlyniad yr oedd y bwthyn, er eiddiled ei furiau hen, lawn cystal â chastell i Wil.

Yr oedd Nanni o fewn pumllath i'r drws cyn y medrai weled golau egwan y gannwyll frwyn, gan mor niwlog oedd y nos. Curodd ar y drws yn ysgafn. Ond nis agorwyd. Clywodd Nanni drwst rhoddi pethau yn eu lle yn frysiog. A chan nad hwn oedd y tro cyntaf iddi gael profiad tebyg, daeth i'r casgliad cywir mai cist ddu Wil oedd ar ganol y llawr, ag angen ei symud o'r neilltu a'i chuddio cyn agor y drws i neb.

Ni buasai neb yn credu gymaint o gybydd oedd Wil, heb ei weled uwchben ei gelc yn y gist ddu. Gwyddai ei gydnabod am ei wendid, a gwyddai Nanni. Ar noson fel hon, tynnid y gist allan o'i chuddfan, ac eisteddai'r lleidr ar ei hymyl, i gyfrif ei drysor, gan ei osod yn ôl yn ofalus wedi gorffen. Ar adegau tynnai gynnwys y gist allan ddwywaith neu dair, a'i droi a'i drosi, a'i gyfrif a'i ail-gyfrif. Dyna oedd difyrrwch Wil yn ei oriau hamdden.

Pan ddarfu twrw'r symud, curodd Nanni eilwaith, ac agorodd Wil y drws yn ofalus. "Pwy sydd yna?" meddai, gan syllu i'r tywyllwch dudew.

Fi sydd yma," atebai Nanni. "Yr wyf yn curo ers meityn, a bron â blino'n disgwyl."

"Nanni! Tyrd i'r tŷ. Chlywais i ddim o dy sŵn di hyd y munud yma," oedd celwydd parod Wil. "Beth bar i ti fod ar grwydr ar noson fel hon, dywed? Tyrd i mewn.'

Aeth hithau i mewn, ac o ddireidi dywedodd, "Yn enw'r tad, beth wyt ti wedi bod yn i wneud; mae gennyt le bler iawn yma? Mae'r llawr yma yr un fath a phetai og bigau wedi bod ar hyd-ddo?"

"Dim gwraig sydd yma, weldi!" meddai Wil, a chanfu Nanni fod ei direidi wedi ei harwain i dir na fwriadai. Yr oedd dychymyg chwim Wil wedi bod yn drech na hi.

Dywedai pawb fod awydd cael Nanni'n wraig ar Wil. Ac yr oedd yn amlwg ar bob adeg bod ganddo fwy i'w ddywedyd wrthi hi nag wrth neb arall. Ond gwrthrych mawr ei serch oedd y gist drysor, ac ail lle yn ei galon oedd i bopeth arall. Hwyrach y safai Nanni yn nesaf i'r gist ddu yn ei fryd. Yr oedd lawer tro wedi dangos iddi sut y tueddai. Ond ni fynnai hi ddim o hynny. Heblaw bod i Ddic Tafarn y Cwch le cynnes yn ei chalon, Wil fuasai'r diwethaf yn y byd y buasai hi'n ei ddewis.

Dyna paham y teimlai'n awr yn ddig wrthi ei hun am yr hyn a ddywedodd. Troi'r stori oedd yr unig ffordd i ddyfod allan o'r dryswch. "Mae ar Madam Wen eisiau dy weled di ar unwaith," meddai wrtho.

Sobrodd Wil yn sydyn. Newidiodd ei ddull ar unwaith. Pryd daeth hi'n ôl?" gofynnodd.

"Neithiwr, yn hwyr iawn."

"Sut y gwyddet ti ei bod hi wedi dychwelyd? gofynnodd yntau a'r arwydd lleiaf erioed o wawd yn ei lais. Yr oedd Wil wedi mynd yn amheus o berthynas yr ogof a Chymunod ers ysbaid.

"'Waeth i ti sut y gwyddwn i. Yr wyt ti wedi cael dy neges."

"Do," meddai yntau'n fyr.

Wedi ailfeddwl, ychwanegodd hithau, "Digwydd mynd i Dafarn y Cwch ddarfu imi, a gair adawyd yno ganddi hi."

"Paid â dywedyd celwydd," meddai Wil, ac aeth ymlaen mewn gwawd mwy agored. "Beth ddywedai yswain mawr Cymunod pe bai o 'n gwybod sut y mae ei forwyn ffyddlon yn ymddwyn. Ac yntau'n ustus heddwch, ei forynion yn cynllwyn fel hyn â lladron pen-ffordd."

Nid oedd amcan yn y byd mewn dywedyd hyn, heblaw gwneud iddi hi deimlo'n anghyfforddus. Hoffai Wil wneuthur hynny â phawb. Ond teimlodd Nanni ryw fath o euogrwydd fel petasai Wil trwy ryw ddewiniaeth yn hysbys o'r ymddiddan a fu rhyngddi hi â Madam Wen ryw awr yn gynt. Ond wrth reswm, fel y cysurodd hi ei hun, nid oedd dichon iddo wybod. Cododd Nanni i ymadael. "Mae Madam Wen mewn tymer afrywiog heno," meddai. "Mae cwmwl du iawn o gylch ei haeliau hi, ac arwydd ystorm."

"Paham hynny? Beth ddywedodd hi?"

Ddywedodd hi ddim, ond bod arni hi eisiau dy weld. Ac nid wyf yn meddwl mai hiraeth am weld Wil Llanfihangel sy'n peri iddi fod mewn cymaint o frys." Tipyn o falais Nanni oedd hyn, a thalu'r pwyth i Wil cyn ymadael.

Ychydig amser a gymerodd yntau i ymlwybro drwy'r coed eithin nes dyfod i enau'r ogof. Safodd funud cyn myned i lawr drwy'r agen hanner-cudd i gell agosaf allan yr ogof. Yr oedd yn dywyll iawn, ond gwyddai ef yn dda am y lle, er na wyddai ef na'r un arall o'r fintai ond ychydig am du mewn y gell arall oedd y pen draw i lwybr cul a throellog yng nghalon y graig. Rhoddodd Wil yr arwydd, sŵn a glywir hyd heddiw yng ngororau'r llyn—cri corsiar yn yr hesg.

Yn y man gwelodd olau yn yr agen, a daeth Madam Wen i'r golwg a chanddi lamp yn ei llaw. Gwisgai fantell lwyd, liw'r graig, yn llaes at ei sodlau, a barai iddi edrych yn dalach nag oedd hi.

"Wyt ti wedi gwella, Wil?" meddai hi, wrth osod y lamp ar y fainc garreg sydd yr ochr chwith i'r gell.

Yr oedd Wil ar ofyn gwella o ba beth, pan welodd ei llygaid treiddgar hi megis yn darllen ei fyfyrdodau. Nid oedd arswyd dyn yn y byd arno, ond tawelai yn rhyfedd yn ei gŵydd hi, a bron na ellid dywedyd yr ofnai hefyd. Cawsai ddigon o brofiad o'i hewyllys haearnaidd hi, a gwelsai ei dewrder di-ail ar lawer achlysur; buasai'n dyst o'i phenderfyniad di-droi-yn-ôl gymaint o weithiau nes creu ynddo'r parch mwyaf iddi fel arweinydd i'w hofni ac i dalu ufudd-dod iddi. Hwyrach hefyd y cofiai Wil bob amser fod ei dynged ef ei hun megis ar gledr ei llaw hi, un oedd mor ddysgedig a gwybodus, a'i dylanwad yn fawr. Barnodd mai doeth tewi nes clywed beth arall oedd ganddi hi i'w ofyn.

"Nid oes golwg torri esgyrn arnat," aeth hithau ymlaen, ond diflas imi oedd clywed amdanoch, İlanciau Siôn Ifan a thithau, yn ffraeo ac yn ymladd noson yr wyl mabsant, ac yn gwneud sôn amdanoch, Y diwedd fydd, ryw dro,"—dywedodd hyn yn bwyllog a chyda phwys,—"fel y dywedais ddengwaith o'r blaen, y daw swyddog y siryf o hyd i ti. Ac yna daw dy hanes allan i gyd o bant i dalar, ac ni fydd neb a all gadw dy ben ar d' ysgwyddau pan ddaw diwrnod crogi ym Miwmaris."

Byddai arswyd crogi ym Miwmaris yn hunllef ar Wil. Cymerodd y cerydd yn ddistaw fel plentyn drwg wedi ei ddal mewn trosedd; ni ddywedodd air. Yn unig meddyliodd mor anodd oedd gwneud y peth lleiaf heb i hynny ddyfod i glyw meistres yr ogof.

Treuliwyd hanner awr i drafod materion ynglŷn â'r llong a'r gêl-fasnach. Wil yn adrodd ac yn rhoddi cyfrif, a hithau'n holi. Yr oedd yn rhaid cael cyfrif manwl o enillion y llong, pob manylion am a gafwyd ac am a dalwyd i bob aelod o'r fintai hefyd. "A ydyw pob un wedi ei fodloni?" gofynnodd iddo ar y diwedd, a chydag ychydig wawd. "A fodlonwyd Robin y Pandy y tro yma?"

"Do, am wn i," atebodd Wil. "Mae pawb yn dawel cyn belled ag y gwn i."

"A fuoch chwi allan ar geffylau un noson? " gofynnodd iddo'n ddirybudd.

"Bu Dic a minnau am dro i'r Borth," atebodd yntau'n amwys. Ond y munud nesaf yr oedd yn hanner edifar ganddo am yr ymgais i'w chamarwain. Gwelodd wg yn tywyllu ei hwyneb, ac aeth i ddyfalu yn frysiog pa un o wib—deithiau ysbeilgar y fintai oedd wedi dyfod i'w chlyw.

"A fu mintai gref ohonoch allan un noson?" ail-ofynnodd yn bwyllog ac yn oeraidd.

"Wel do!" atebodd yntau mewn lled-addefiad, gan bryderu pa un o'r teithiau y byddai orau iddo ei dadlennu.

"A chawsoch ysbail lled fawr?"

Yr oedd hi'n ddyrys arno. Pa un ai helynt y Sais o'r Mwythig, ai ynteu'r cyfarfod â Morys Williams, ynteu'r ymweliad â Phlas Llwyn Derw oedd mewn golwg? Nid oedd Wil wedi bwriadu sôn am yr un o'r tri, oni byddai raid. Ac yn awr wrth addef un trosedd, hwyrach y deuai un arall i'r golwg. Yr oedd yn anodd gwybod pa beth i'w ddywedyd, a hithau'n disgwyl. Atebodd yn gloff, "Dim rhyw lawer iawn."

"Cawsoch ddeugain gini neu well?"

Llamodd ei galon. Yr oedd wedi cael gollyngdod. Yr oedd yn eglur yn awr mai at helynt yswain Cymunod y cyfeiriai. Dyna oedd y swm. Ac felly ni wyddai hi ddim am y daith i Blas Llwyn Derw, nac am bwrs aur y Sais o'r Mwythig. Yr oedd yno ychydig sylltau dros ddeugain gini," atebodd yn barod.

Ond ni pharhaodd ei dawelwch yn hir, na'i hunanfeddiant. Yr oedd arglwyddes yr ogof mewn tymer flin. Ac i un nad arferai deimlo'n gartrefol dan drem ei llygaid llym hyd yn oed pan fyddai pethau'n hwylus, dychryn oedd gweled y llygaid hynny yn melltennu dicter.

"Faint o ffordd a ddywedi di sydd oddi yma i Gymunod?" gofynnodd iddo.

"Dwy filltir prin," meddai yntau, fel bachgennyn yn adrodd gwers.

"Fuaset ti'n ystyried ti'n ystyried perchen Cymunod yn gymydog?"

Teimlai Wil ei bod hi'n chwarae ag ef fel y chwery dyn â'i gi, ond sut ar y ddaear y gallai osgoi ei hateb hi. "Wel, buaswn, am wn i."

Am wn innau, hefyd, weldi! Ond dywed i mi, ai yn enw Madam Wen yr aethoch chwi allan mor wrol i ymosod ar gymydog, ac i'w ysbeilio?" Y fath sarhad y medrai hi ei roddi mewn brawddeg! Synnai Wil fod modd gwneud hynny mor effeithiol heb na llw na rheg o fath yn y byd.

"Y dyhirod digywilydd i chwi! Dwsin neu ddau ohonoch i ymosod ar un gŵr, a hwnnw'n gymydog tawel! Pa le mae'r rheolau a roddais i chwi pan ymgymerais â'ch noddi? Y cnafon trachwantus i chwi! Hoffwn wybod pa faint o ddaioni a wnaethoch yng nghorff y deufis a aeth heibio; pa sawl cymwynas a wnaed â'r tlawd; sawl tro caredig â neb mewn eisiau.

Ni ddywedodd y lleidr air.

"Yr wyf yn dechrau blino ar y castiau gwirion yma," meddai hi. "Yr ynfydion i chwi, efo'ch mân ladrata a'ch ymgiprys ymysg meddwon. Gwrando! Y tro nesaf y clywaf am ynfydrwydd o'r fath, bydd yna ben ar y fintai a'r fasnach, ac ni wnaf ymhel yn rhagor â chwi. Mi wyddost yn eithaf da mai wedi dy grogi y buaset ti cyn hyn onibai amdanaf fi."

Gwyddai Wil yn dda mai ar ei doethineb a'i gwybod— aeth hi y dibynnai'r gêl—fasnach a llwydd y fintai, ac ofnai rhag i'r trychineb a fygythiai hi ddigwydd iddo. Gwyddai hefyd fod ei ddiogelwch ef ei hun yn fwy sicr ond ei chael hi wrth gefn. A gwyddai pawb ohonynt nad oedd un aelod o'r fintai a fuasai'n dilyn Wil hanner cam er ei fwyn ei hun, ond bod eu hymddiried ynddi hi yn drwyadl. Yr oedd ei hawdurdod hi yn bendant, ac nid oedd dim i'w wneud yn awr ond derbyn y cerydd a'r dannod yn ddistaw, a thalu ufudd-dod.

"Pa le mae'r arian?" gofynnodd iddo.

Rhannwyd hwynt yn deg y noson honno." Chwarddodd hithau mewn gwawd. "Yn deg, ai do? Anrhydedd lladron, aie? Gwrando! Bwriadaf i'r gŵr a'u piau eu cael yn ôl bob hatling.

Syrthiodd wynepryd Wil wrth glywed hynny, a dechreuodd hel esgusion. Ond ni wrandawai hi.

"Rhaid eu cael, ac am hynny dos di ar unwaith i'th gêlfan dy hun, a thyrd â deugain gini i mi, a gofala mai yn ysgrepan ledr yr yswain y dodi hwynt. Yfory, cei ymweled â'th lanciau ufudd, a gweld pa faint o anrhydedd lladron sydd yn aros ynddynt. Cawn weld a fydd Robin y Pandy yn fodlon i ymwadu er dy fwyn, a rhoi yn ôl y gyfran a dderbyniodd ef."

Daeth golwg hyll i wyneb Wil, ond rhaid oedd mynd a gwneuthur fel y gorchmynnid. Aeth tua'r bwthyn gan regi'n enbyd.

*****

Bychan a wyddai yswain Cymunod bod cymaint o sôn amdano mewn lle mor anhebyg a'r ogof y noson honno, a phell o'i feddwl ar y pryd oedd yr ysgrepan golledig a lladron Madam Wen. Yr oedd ei feddwl yn llawn o bethau tra gwahanol. Y bore wedi'r daith dros y Penmaen yng nghwmni Einir Wyn, cododd Morys yn gynnar, a'i awydd am ei gweled yn fawr, a'i serch ar dân. Yr oedd wedi myfyrio llawer am yr addefiad rhyfedd a wnaethai hi, ac wedi penderfynu ceisio'i pherswadio i anghofio'i hadduned, a myned i Fôn gydag ef i fwynhau tawelwch cartref cysurus.

Cododd yn gynnar, gan weled pob munud yn awr. Ond er cynhared oedd, yr oedd yn rhy ddiweddar. Yr oedd Éinir wedi codi cyn dydd, a chyn syflyd o'r un ymwelydd arall, wedi cychwyn i'w thaith heb ddywedyd wrth neb i ble.

"Peidiwch â synnu dim," meddai Syr Robert. Dyna'i hanes hi erioed. Yma heddiw, ac yfory ni ŵyr neb ym mha le. Dichon na chawn air amdani eto am ddeufis neu dri. Yna daw yn ôl o'i chrwydriadau, mor llawn ag erioed o nwyf a hawddgarwch, a phawb yn ymryson rhoddi croeso iddi."

Melys iawn i glust Morys oedd clywed geiriau cynnes amdani, ond ychydig o fwyniant pellach oedd iddo yn y Penrhyn wedi ei cholli. Gwnaeth esgus drannoeth i ddychwelyd adref.

Da oedd ganddo gael tawelwch ei ystafell gysurus i ail-fyw, mewn dychymyg, y noswaith flaenorol; i atgoffa yr hyn a ddywedodd hi, ac i ail-bwyso pob awgrymiad o'i heiddo. Ar hyn y rhedai ei feddwl pan gurodd Nanni yn y drws, gan ofyn i'w meistr a oedd arno eisiau rhywbeth yn ychwaneg cyn i'r morynion ymneilltuo. Gwelodd yntau ei bod wedi hwyrhau. Cododd ar unwaith a goleuodd gannwyll, ac aeth i fyny'r grisiau culion.

Ystafell isel, hir, oedd ei ystafell wely, ac iddi ddau ddrws, un ym mhob pen. Pan agorodd Morys un drws, a channwyll yn ei law, dychmygodd weled yn sefyll yn y drws arall rywun ar lun merch landeg luniaidd, mewn gwisg wen o'i phen i'w thraed. Rhwbiodd ei lygaid ac ail edrychodd, ond erbyn hynny ni welai ddim ond drws caeedig.

Yr oedd yn anodd ganddo gredu mai dychmygu a wnaeth. Haws oedd credu mai drychiolaeth a welsai. Daeth ofn arno, rhyw fath o ofn yr annaearol, ac mewn tipyn o gryndod y cerddodd at y drws ac yr agorodd ef yn araf.

Er clustfeinio a syllu'n hir ni chlywodd ac ni welodd ddim ymhellach. Yr oedd y morynion i gyd i lawr y grisiau; a heblaw hynny, fel y dywedodd wrtho'i hun, nad oedd yn eu plith neb mor landeg na hanner mor lluniaidd â'r hon a welsai ef. Os gwelodd hefyd.

Daeth yn ôl i'r ystafell wedi cau'r drysau, a'i feddwl yn parhau'n gythryblus. Wrth edrych o'i gylch disgynnodd ei olwg ar obennydd ei wely. Beth oedd yma?

Mewn syndod dirfawr gafaelodd yn yr ysgrepan ledr golledig. Syllodd arni mewn mwy o syndod. Yr oedd ôl ei gyllell ef ei hun ar yr ystrapiau. Yr oedd hi'n llwythog hefyd. A dwylo crynedig agorodd hi, a thywalltodd ei chynnwys, yn aur ac arian, ar y gwely. Dechreuodd gyfrif. Yr oedd y swm yno'n gyflawn, heb geiniog ar ôl.

Ehedodd ei feddwl ar unwaith at Madam Wen, a daeth i'w gof y pethau rhyfedd a glywsai amdani o dro i dro, a dechreuodd fyfyrio.

Nodiadau golygu