Madam Wen/Gwyl yr Hydref

Cyflawni Hen Addewid Madam Wen

gan William David Owen



XVIII

GWYL YR HYDREF

YR oedd rhyw briodoldeb pert mewn cadw gŵyl ar ddydd y nawddsant mewn bro fel Llanfihangel. Nid sant pob plwy a bennai ddydd ei ŵyl gyda'r fath ddoethineb, gan ystyried amgylchiadau tymhorol y rhai oedd o dan ei nodded. Wedi prysurdeb cynhaeaf, ac wedi mis o ddyrnu ar gyfer gaeaf, amheuthun oedd cael gŵyl cyn canol hydref i orffwys ac i ymddifyrru cyn dyfod oer hin Tachwedd.

Ar derfyn tymor da, hawdd oedd llawenhau ac ymdaflu i ysbryd yr ŵyl yn egnïol. Ac os tymor symol a fyddai wedi digwydd, mwyaf yn y byd a fyddai o angen hwyl yr ŵylmabsant er codi'r galon ac er adnewyddu gobaith am dymor gwell flwyddyn wedyn. Nid oedd fawr neb a fedrai wrthsefyll y demtasiwn i fod mewn tymer dda ar ddiwrnod y "glapsant."

Blwyddyn adfydus a gawsai Siôn Ifan: yr arwaf, fe dybiai, a fu ar ei ben o'r dydd yr ymgymerodd gyntaf â thorri syched cymdogion o dan arwydd y Cwch. Ond wedi ystorm a blinfyd daethai haul ar fryn eilwaith, a llawenhai Siôn Ifan er mai haul ei hydref oedd.

Un achos llawenydd neilltuol iddo oedd bod ei fab hynaf wedi llwyr ymwadu â'i hen anwadalwch, ac yn awr yn mynd i briodi. Yr oedd Catrin Parri hefyd yn falch ryfeddol o hynny, yn enwedig gan mai Nanni oedd y wraig i fod. A pha wythnos o'r flwyddyn, o ddechrau Ionawr i ddiwedd Rhagfyr a fuasai hanner mor gymwys fel amser priodi ag wythnos yr ŵyl? Yr adeg honno byddai ardal gyfan yn fwy na pharod i gydlawenhau. A dyna mewn rhan paham y trefnwyd priodas Dic y diwrnod o flaen yr ŵylmabsant. Gwnaed Tafarn y Cwch yn dŷ gwledd y diwrnod hwnnw.

Daeth priodas Dic yn fath o arwyddlun ymysg ei gymdeithion o ddiwedd un oruchwyliaeth a dechrau un newydd. Ef a fu'n ddolen gydiol, fel petai, rhwng arweinwyr y fintai â bechgyn tawelach y fro. Ond daethai amser dewis llwybrau, ac ymwrthod a wnaeth Dic â ffyrdd a llwybrau Wil a Robin, ac felly'r ardal hefyd, gan ddewis yn hytrach ymwadu â'r hen fywyd. yn ei holl agweddau na cherdded ffordd y gwaed. Dyna paham y peidiodd y fintai â bod.

Dichon mai naturiol iawn y diwrnod hwnnw oedd i ddychymyg pawb yno ehedeg oddi wrth fwrdd llawen y wledd i brif dre'r sir, ac i'r carchar lle'r eisteddai Wil yn disgwyl am y bore oedd i roddi terfyn sydyn ar ei holl oruchwyliaethau daearol ef. Ond nid oedd y gronyn lleiaf o gydymdeimlad ag ef, mwy na Robin, ym mynwesau'r rhai oedd wedi cydweithio â'r ddau yn yr amser a fu. Ac ni soniwyd gair amdanynt drwy gydol y dydd.

Ddiwrnod y briodas yr oedd y Wennol wrth angor yn afon Cymyran, ac yn chwifio baner i ddathlu'r uchelwyl. Ond yr oedd Huw Bifan a'i griw bron i gyd ar y lan ers oriau, ac yn Nhafarn y Cwch, â'u llygaid mor llon â neb oedd yno. Y bore hwnnw y daeth gair i Huw i ddywedyd bod y Wennol wedi newid perchen. Nid fel yr ofnent i ddyfod yn eiddo estron. Cynysgaeth Nanni oedd hi ar ddydd ei phriodas, rhodd y ferch fonheddig galon-gynnes o'r parciau: ac o hynny allan Dic fyddai piau'r llong las.

Y bore wedi diwrnod priodas Nanni, cododd Twm bach Pen y Bont oriau o flaen yr haul, gan rwgnach wrtho'i hun, er cynared oedd, ei fod wedi cysgu'n hwyr. "Cychwyn chwech o'r gloch yn ddiffael a ddywedodd o, meddai Twm wrtho'i hun, a dyma hi'n awr a'r haul ar godi!" Wrth weld ei rodres gellid casglu ar unwaith bod rhywbeth a ystyriai'n bwysig ar droed y diwrnod hwnnw. Ni bu erioed y fath ymolchi ac ymdrwsio, y fath ffwdanu a brysio, anghofio a throi'n ôl, ac ailgychwyn ar fwy o ffrwst na chynt. Ond o'r diwedd rhoddwyd clo yn derfynol ar ddrws y bwthyn, ac i ffwrdd â Thwm i fyny'r meysydd tua chartref Morys Williams.

Yno bu raid i Lewys Ddu a'r merlyn melyn fynd o dan driniaeth ofalus, i'w gwneuthur hwythau'n addas i ymddangos ymhlith rhai pwysig. Yr oedd Twm wedi gorffen paratoi pan ddaeth yr yswain allan yn barod i daith, heb fawr o olion afiechyd arno. Edrychodd tua'r dwyrain, a'r wawr newydd dorri, a dywedodd yn llawen: "Diwrnod braf, Twm!"

A bore hyfryd ydoedd hwythau'n teithio tua chodiad haul ac yn gweled y wawr yn ymledu beunydd. Wrth ddringo ael Penymynydd, daeth i gof yr yswain daith flaenorol Twm ar draws y sir: "Dyma ffordd Biwmaris!" meddai, gyda gwên a arwyddai mai ffordd y trybini oedd honno'n fynych.

Ie, syr!" atebodd Twm, " ond y fi ydyw'r dyn rhydd heddiw!" mewn awgrym llydan nad anghofiai pa beth oedd neges yr yswain yn ninas yr esgob.

Wedi teithio'n hamddenol rhag blino'r meirch, daethant i olwg Menai uwchben Porthaethwy, yr haul erbyn hyn ar i fyny, a gwelsant yr Wyddfa a Charneddau'r tywysogion ar fore clir. Wedi croesi'r afon daeth Lewys Ddu a'r ebol melyn wrth eu pwys i Fangor, ac i westy o dan arweiniad Twm, a'r yswain yn mynd i'w ffordd yntau. Ac wedi darfod ymgeleddu'r meirch, aeth Twm hefyd tua'r eglwys gadeiriol, ac i mewn yn ddistaw i eistedd o'r neilltu, ac i syllu o hirbell ar y cwmni mawreddog oedd yn dechrau ymgasglu yno. Ni welodd yn ei oes y fath rwysg ac ysblander mor agos ato, y fath nifer gyda'i gilydd mewn un lle o "bobol fawr y wlad. Pe gwybuasai, hufen bonedd Gwynedd oedd yno wedi dyfod i dalu gwrogaeth i ddau o'u gwehelyth oedd hoff ganddynt.

Yn fuan daeth pawb i ddeall bod rhywun oedd bwysicach na neb arall ar ddyfod i mewn. Wrth weld eraill yn troi i edrych tua'r drws, ag yntau'n fyr o gorff, cododd Twm ar ei draed, a gwelodd farwnig y Penrhyn yn dyfod i mewn, ac yn ei fraich—"Nid âi o'r fan yma! meddai Twm wrtho'i hun, "Madam Wen!"—mewn gwisg ac mewn gwedd yr harddaf o'r holl wyryfon, pendefiges yn wir! O hynny hyd ddiwedd y gwasanaeth prin y gwyddai Twm pa un ai ar ei draed ai ar ei ben y safai. Yr oedd yn llawen y tu hwnt i allu geiriau i ddatgan hynny.

O'r gwesty yn y ddinas aeth Twm i'r Penrhyn, gan arwain y ceffyl du. Yn y castell yr oedd borefwyd wedi ei ddarparu ar gyfer cannoedd, ac ni bu'r dyn bach yn ôl o gyfran werth teithio ugain milltir i'w hymofyn. Ond uchaf hyfrydwch, wedi'r wledd, oedd i arwres hardd y dydd ddyfod ei hunan o ganol y rhwysg i chwilio amdano. I chwilio amdano ef, Twm Pen y Bont, ymysg ugeiniau! Drysodd hynny fwy arno nag amrywiaeth danteithion y byrddau gorlwythog. Ond chwarae teg i Twm, nid ef oedd yr unig un, o lawer, oedd wedi syllu arni'r bore hwnnw mewn edmygedd, yn fud o dan gyfaredd ei thegwch.

"Twm!" meddai wrtho, a'i llygaid yn dawnsio o lawenydd: "A wyt ti ddim am ddymuno'n dda imi ar ddydd fy mhriodas?

"Ydw!" meddai yntau, gan adael i'w lygaid di-gêl haeru mor bur oedd y dymuniad.

"Dos i Dafarn y Cwch nos yfory, a dywed yr hanes wrth Nanni!"

"Yr ydwyf yn siwr o fynd!" meddai Twm, ac wrth weld ei bod hi ar ei adael, a heb gael amser i ystyried ai hyfdra ynddo oedd hynny, gofynnodd: "Mi ddowch yn eich ôl i'r ardal?"

Gan hanner troi yn ôl, chwarddodd hithau mewn ateb: "A wyt ti'n meddwl y byddai'n well i mi ddyfod?"

"Wn i ddim beth ddaw ohonom ni heboch chwi!" atebodd yntau o waelod ei galon.

Yn fore drannoeth cychwynnodd Twm tuag adref, ac ar ei ysgwyddau gyfrifoldeb holl dda'r yswain yng Nghymunod am bythefnos faith. Ym min yr hwyr aeth at Dafarn y Cwch, nid i glywed hanes y "glapsant, ond am y gwyddai fod allwedd clo'r prif ddiddordeb yn ei feddiant ef. Ac ni siomwyd ef yn y croeso a gafodd. Nanni a fynnodd glywed yr hanes i gyd o bant i dalar yn gyntaf a'r hen ŵr yn dianc yno i wrando bob cyfle a gai. Ond nid oedd hynny ond dechrau adrodd. Twm oedd arwr yr hwyr, wedi diorseddu Dic yn llwyr o'r anrhydedd a enillodd hwnnw ryw ddeuddydd yn gynt trwy briodi Nanni yn eglwys y llan.

*****

Daeth noswaith yn fuan wedyn pan welwyd cynteddau Cymunod o dan eu sang o wahoddedigion, a'r rheini i gyd yn breswylwyr ardal y llynnoedd. Daethant yno i lawenhau, ac i roi croeso i'w chartref newydd i wraig yr yswain.

Yr oedd yno amryw a welai Einir Wyn am y tro cyntaf erioed a mawr y sibrwd oedd yn eu plith, a'r edmygu a'r rhyfeddu at degwch digymar a harddwch y wraig ifanc. Enillodd lawer o galonnau o'r newydd y noswaith honno.

Ond yr oedd yno liaws eraill, a'u cariad diwyro tuag ati wedi gwreiddio'n ddwfn mewn cyfnod a aeth heibio wedi ffynnu trwy flinfyd a thrwy wynfyd blynyddoedd ac yn awr yn derbyn y wobr uchaf wrth ei gweled hi yn wraig ddedwydd un o wŷr unionaf a thirionaf y wlad. Yng ngolwg y rhai hyn yr oedd ei briodas wedi gosod mwy o urddas ar Morys mewn un awr na holl dras a bonedd y Chwaen.

Wrth syllu arni, a gweled fel yr addurnai ei chylch newydd, diau i lawer atgo o'r dyddiau a fu wibio drwy eu meddyliau. Ond dyma Siôn Ifan ar ei draed, a gofynnir am osteg.

Y mae'n mynd i ddymuno hir oes a dedwyddyd i'r yswain a'i wraig, ac i gynnig eu iechyd da hwy mewn cwpaned o win. Ofer mwyach fydd hiraethu am yr hen amser. Dyna roddi clo nas datodir byth ar bob mynwes ffyddlon. Ni ddywedir hynny, wrth reswm. Ond y mae'r cwpan wrth enau llanciau'r ardal, a'r hyn a fu, a fu. Hir oes i wraig yr yswain! Ac ni bydd ond sôn yn y gwynt mwyach am Madam Wen.

Y DIWEDD.

Nodiadau golygu