Madam Wen/Twм Pen y Bont, ac Eraill

Mordaith Y Wennol Madam Wen

gan William David Owen

Ar y Llaerad



XI.

TWM PEN Y BONT, AC ERAILL

UN hwyrddydd braf eisteddai Morys Williams ar y lawnt o flaen ei dŷ, a thynnai fwg o bibell hir yn ôl arferiad a ddaethai yn gyffredin ymysg gwŷr o'i safle ef. Meddwl yr oedd, fel y gwnâi yn fynych, am ei gariadferch. Ers llawer o fisoedd nid oedd wedi ei gweled na chael gair oddi wrthi, a theimlai'n llawn hiraeth amdani.

Gall mai rhyw ddylanwad cyfrin a fedd cariad a barai i'w delw fod mor fyw o flaen ei feddwl yr hwyr- ddydd hwnnw. Y mae lle i feddwl hynny, canys amdano ef y meddyliai hithau yr awr honno. O'r bron na theimlai ef ei phresenoldeb yn awel dyner yr hwyr, rhyw sisial pêr fod ei chalon hi'n hiraethu am gael siarad wrth ei galon yntau. O dan ddylanwad felly ni synnodd lawer wrth ganfod negesydd yn dyfod i'r fan gan ei hysbysu mai oddi wrth Einir Wyn y daethai'r neges.

Rhyw garu rhyfedd oedd anfon llythyrau meddyliai Morys . Ond beth oedd, i'w wneud? Yr oedd yn dda cael cymaint â hynny. Nid Einir fuasai hi petasai'n ymddwyn yr un fath â phob cyffredin arall. Ac er nad oedd ef erioed wedi olrhain i'w darddiadau yr hyn a ddenai ei fryd, diau fod a wnelai'r neilltuolion hyn ynddi hi lawer â dwyn ei fryd ar y cyntaf a sefydlu ei serch arni mor drylwyr byth wedyn.

Gofynnai am ei faddeuant am ei gadw mor hir heb air o'i hanes. Dyna sut y dechreuai'r llythyr. Wrth ofyn hynny gwnâi ar yr un pryd esgus drosti'i hun. Yr oedd wedi bod wrth yr hen orchwyl, cyflawni gwaith ei hadduned. Yr oedd wedi bod ymhell, ond ni ddywedai ym mha le. Ac yr oedd wedi llwyddo'n ddirfawr. Ond ni ddywedai pa fodd. Golygai llwyddiant ennill cyfoeth yn ddiamau. Ond methai Morys a dirnad pa fodd y gwnâi hynny.

Ond llythyr serch oedd y llythyr. Dyna oedd ei faich, ac wrth ddarllen ymlaen anghofiwyd yr adduned, a'r gwaith, a'r dirgelwch. Darllenai, a theimlai ei galon yn cynhesu, a'i obaith yn bywhau. Ond beth oedd yr elfen arall oedd megis yn ymguddio ymysg y brawddegau, gan ddangos ei phen yn awr ac eilwaith mewn ambell air nad oedd ei esboniad yn eglur? Dygai i'w feddwl rywbeth tebyg yn null Einir ei hun, rhyw elfen wibiol a rhiniol o dristwch neu ofid yn gymhleth â llawenydd, ac yn diflannu fel mwg pan geisid ei holrhain.

Mynnai Einir ei hysmaldod cyn diweddu'r llythyr. Soniai am Madam Wen a'i rhagoriaethau, gan ddannod iddo'r diddordeb a deimlai ef yn arwres y llyn. Cerddai ar ymylon difrifwch, nes peri iddo deimlo weithiau ryw don fechan o euogrwydd yn golchi trosto, nes bron a pheri iddo ofyn iddo'i hun ai tybed, mewn gwirionedd, y byddai Madam Wen yn amlach yn ei feddwl nag y dylai fod. Ond wedyn, ysmaldod oedd. Darllenodd y llythyr drosodd a throsodd.

Pan oedd haul yn tywynnu fel hyn mor ddisglair ar lwybr Morys Williams, tua'r un adeg yr oedd cymylau tywyll ar lwybr mwy distadl Twm Pen y Bont. Dywedai'r ardalwyr am Twm mai un anghymdogol i'r eithaf oedd. Ac os ceid ambell un yn eu mysg yn ddigon eangfrydig i wneud esgus drosto, yr unig dir y gwneid hynny arno fyddai mai hen lanc oedd Twm yn byw ei hunan, ac yn ddigon naturiol heb ganddo nac amser nac awydd i fod yn groesawus.

Cadwai'r dyn bach ei gyfrinach mor hynod o glos fel na wyddai neb yn yr ardal beth oedd yn mynd ymlaen o dan gronglwyd ei dŷ. Hynny ydyw, ni wyddai neb ond y rhai y perthynai iddynt wybod,—Madam Wen a rhyw dri neu bedwar arall—ac yr oedd gwybod y rhai hynny fel y bedd, yn cymryd i mewn heb roddi dim allan. Damwain ac aflwydd oedd i un na pherthynai iddi wybod gael cip un noson ar ddirgelwch Pen y Bont. Fel hyn y bu hynny.

Yr oedd gan Margiad y Crydd haid o hwyaid, ac er bod llawn filltir o'r afon yn nes i'r cartref at eu gwasanaeth, ni thalai dim ganddynt ond llwydo'r dŵr beunydd yn y pyllau uwch Pen y Bont. Gwyddai Margiad yn burion am y gwendid yma yn yr hwyaid. Yr oedd Twm wedi dywedyd wrthi amdano fwy na dwywaith na theirgwaith mewn geiriau braidd yn egr. Ond nid oedd hynny'n tycio. O'r diwedd, wedi diflasu, cymerodd Twm y gyfraith yn ei law ei hun, a gwnaeth garcharorion o'r troseddwyr yng nghytiau'r gwyddau yng nghrombil y clawdd o flaen ei dý. Fel y disgwyliai, daeth Margiad heibio toc, a mawr fu'r taranu a'r tafodi. Ni ddywedodd Twm ddim gair, ond cafodd yr hwyaid eu rhyddid, ac yntau lonydd am dridiau neu bedwar. Ond un prynhawn collodd Margiad ei da eilwaith, ac ar unwaith cyfeiriodd ei thraed am Ben y Bont, gan chwythu bygythion bob cam o'r ffordd. Pan ddaeth at y tŷ yr oedd y drws yn gaeëdig, a chytiau'r gwyddau yn weigion bob un. Wrth weled hynny trawodd i feddwl drwgdybus Margiad fod y llechgi gan Twm wedi cau yr hwyaid yn y tŷ. Yn llawn o'r syniad hwnnw aeth at y ffenestr i edrych a oedd rhywbeth i'w weld y tu mewn.

Nid oedd yno yr arwydd lleiaf fod yr hwyaid i mewn, ond yr oedd Twm wrth ryw orchwyl o bwys oedd yn galw am ofal neilltuol a'i sylw i gyd. Yr oedd Margiad wedi clywed sôn am y gwaith peryglus hwnnw yn cael ei gario ymlaen mewn lleoedd eraill, a deallodd ar unwaith. A chan fod ganddi elyniaeth at Twm o achos yr hwyaid, heblaw rhyw fân gwerylon eraill, teimlai ryw lawenydd dieflig o fod wedi ei ddal yn torri cyfraith ei wlad. Dihangodd mor ddistaw ag y medrai, gan edrych tros ei hysgwydd bob teirllath o'r ffordd, rhag ofn bod llygaid Twm arni. Teimlai ryw euogrwydd yn ei hymlid, a phan ddigwyddodd ddyfod wyneb yn wyneb ag yswain Cymunod wrth droi i'r ffordd fawr, rhoddodd ei llaw ar ei chalon a gwaeddodd allan mewn tipyn o ddychryn.

Fel y digwydd yn fynych, arweiniodd miri bychan hwyaid Margiad y Crydd i helbul mawr yn hanes Twm. Ryw noson, gyda'r gwyll, yr oedd wrth ei orchwyl drachefn yn unigrwydd Pen y Bont, a heb fawr feddwl bod unrhyw berygl ar ei warthaf. Ar bentan y simdde fawr yr oedd padell bres o faintioli anghyffredin, a chan mai tri neu bedwar o foch a rhyw ddau neu dri o ebolion oedd holl dda byw Twm, naturiol ydoedd i ddyn dieithr geisio dyfalu pa beth oedd yr hylif oedd yn y badell.

Rhyw gip ar y badell hon a gawsai Margiad, a gwyddai hi yn burion beth oedd yn mynd ymlaen. Mewn rhyw hanner munud o syllu drwy'r ffenestr yr oedd hi wedi cael eglurhad cyflawn ar lawer o bethau oedd o'r blaen yn dywyll iddi hi ac i eraill, ac yn arbennig ar foddion bywoliaeth Twm bach. Ond pwy fuasai'n dychmygu, chwedl Margiad, y buasai'r gwalch bach yn gwybod sut i ddistyllio chwisgi, heb sôn am ei werthu heb yn wybod i'r seismon?

Gwelodd Twm ryw gysgod yn mynd heibio'r ffenestr, a chan feddwl mai un o'i gymdogion oedd yn troi i mewn, yr hyn na ddigwyddai yn fynych, cipiodd y caead pren a dododd ef ar wyneb y badell bres, a thaflodd sach dros hwnnw. Cuddiodd hefyd ddau neu dri o offerynnau eraill na pherthynant fel arfer i waith cyffredin tŷ.

Curwyd yn y drws ac aeth Twm i'w agor. Dau ŵr dieithr oedd yno, rhai llyfn eu tafodau, ac meddai un ohonynt, Clywed ddarfu i ni bod gennych ebol ar werth."

Byddai gan Twm ebol ar werth ar bob adeg o ran hynny, a gwelsai y gwŷr dieithr un neu ddau ar eu ffordd at y tŷ, ac ystryw oedd eu stori er mwyn cael mynediad i dŷ Twm mewn ffordd heddychol.

Rhai hir eu pennau oedd y ddau ŵr dieithr, ond yr oedd Twm yn hwy ei ben na'r ddau gyda'i gilydd ond cael chwarae teg. A phetasai ganddo un tebyg iddo'i hun gydag ef i gadw'r fantol yn deg, odid fawr nad caff gwag y buasai'r ddau ymwelydd wedi ei gael.

"Oes," meddai Twm, "mae gennyf ebol campus". Nesaodd gam yn nes i'r gorddrws, fel math o awgrym mai nid yn y tŷ y cadwai'r ebol. "Mae'n pori yng Nghymunod, heb fod ymhell. Dof efo chwi yno y munud yma."

Ond nid oedd hynny wrth fodd yr ymwelwyr. A daeth yn ofynnol cael rhyw gynllun arall er cael y dyn bach i'w gwahodd i mewn. Ni allent feddwl am ddim amgenach na dywedyd eu bod yn dra sychedig. Ac ni allai Twm lai na bod yn barod i roi llymaid i rai sychedig ar eu taith. Ond fel yr ofnai y buasent yn gwneud, cymerodd y gwŷr yr hyfdra o'i ddilyn i'r tŷ, heb unrhyw anghenraid amlwg am hynny, a phan welsant ar y pentan rywbeth a allasai fod yn badell bres, tybient mai ffolineb fyddai ffugio ymhellach. Aeth un yn syth at y pentan. Symudodd y sach a'r caead, heb ofyn caniatâd na chynnig esgus. "Fel yr oeddym yn amau!" meddai'n fyr, mewn goslef swyddogol.

Daeth Twm i'r fan fel mellten. "Amau beth, os gŵyr rhywun!" meddai, a'i lygaid yn fflachio dicter.

Gosododd y mwyaf heini o'r ddau ei law ar ei ysgwydd, ond ysgydwodd Twm ef ymaith gyda dirmyg. Beth ydyw hyfdra fel hyn i'w gymryd yn fy nhŷ?

Pwyll, gyfaill! Beth sydd yn y badell, meddwch chwi?

"Haidd i'r moch sydd ynddi."

"Does fawr o arogl haidd arno erbyn hyn," meddai'r swyddog.

Daliodd Twm i daeru ac i ffraeo nes poethi o'i dymer, ac yr oedd ar fedr torri'r ddadl yn yr hen ddull cyntefig gyda dyrnau, ond darbwyllwyd ef mewn pryd gan eiriau pwyllog y swyddog. "Fydd o ddiben yn y byd i chwi wneud twrw. Os nad ymostyngwch i ni, daw eraill. Ac ni fydd y camwedd—na'r gosb— yn llai o achosi trafferth ddianghenraid.

Y peth callaf fyddai i chwi ufuddhau'n ddidwrw. Y mae yma ddigon o brofion o'r trosedd."

Gwelodd Twm bod rheswm yn yr hyn a ddywedid, a thawodd. Daeth syniad arall i'w ben.

"Mi ddwedaf i chwi beth," meddai, "hoffwn yn fawr gael gair efo gŵr Cymunod sydd heb fod ymhell o berthynas i'r ebol hwnnw, ac os caniatewch chwi hynny, addawaf finnau wneud wedyn fel y mynnoch, heb beri i chwi unrhyw aflwysdod."

Yr oedd hwn yn gynnig mor rhesymol fel mai ffolineb a fuasai ei wrthod, yn enwedig pan ystyrrid bod y dyn bach yn edrych fel un na byddai yn ddoeth croesi rhyw lawer arno. Trefnwyd felly, ac wedi i'r swyddogion gael costrelaid o'r hylif i'w gludo ymaith fel dangosiad o fedr Twm yng nghelfyddyd distyllio, aed tua Chymunod.

Deuwyd o hyd i'r yswain yn ddioed, a chafodd yntau fraw wrth weled Twm fel carcharor yn sefyll rhwng dau ŵr â golwg swyddogol arnynt. Daeth i'r casgliad ar unwaith mai arwyddion helynt oedd yno.

"Ymddengys bod yn rhaid imi fynd efo'r gwŷr bynheddig yma i rywle," meddai Twm, gan dynnu ei het a chrafu ei gorun, ac yr oeddwn yn meddwl, syr, y buasech chwi'n taflu golwg ar yr ebol—yr ebolion —tra byddaf i ffwrdd."

"Beth sy'n bod?" meddai Morys, gan droi at un o'r swyddogion.

Eglurodd hwnnw "beth oedd yn bod" fel petai'n cyflwyno'r achos i'r llys.

"Wel," meddai Morys, "mi adwaen i 'r gŵr bach yma'n bur dda. Pa faint o feichiafaeth sy'n ofynnol?

"Ni allwn ni ystyried hynny," oedd yr ateb.

Bu trafodaeth hir o barth i'r priodoldeb o gael meichiau i Twm yn yr yswain, ac yntau'n ynad hedd. A'r diwedd fu i'r yswain ymostwng, ac er ei ofid gwelodd Twm yn ymadael yng nghwmni'r swyddogion yn ôl gofynion y gyfraith.

Y noson y cymerwyd Twm i'r ddalfa am ddistyllio gwirod yn groes i reolau llywodraeth ei wlad, daeth gŵr dieithr i aros i Dafarn y Cwch. Y mae'n wir nad oedd a fynno'r ddau amgylchiad ddim â'i gilydd, ac na wyddai Twm ddim am ymwelydd Siôn Ifan, mwy nag y gwyddai hwnnw fod y fath un ar y ddaear â Thwm bach. Ond cronicl ydyw hwn yn dilyn dydd-lyfr. Ac yn y dyddlyfr hwnnw daeth y ddau amgylchiad at ei gilydd am yr adwaenai Madam Wen y ddau wrthrych.

Gŵr bynheddig ' oedd y teithiwr. Adwaenai Siôn Ifan y rhywogaeth. A dyna iddo ef oedd un nodwedd arbennig ynglŷn â Madam Wen—rhai felly a adwaenai hi ymhobman. Ac fel y dywedodd yr hen ŵr wrtho'i hun ganwaith, gan ysgwyd ei ben yn ddoeth, golygai hynny "rywbeth."

Wedi blynyddoedd o'i hadnabod, ac o fanteisio ar y fasnach a ddygid ymlaen o dan ei chyfarwyddyd a'i hamddiffyniad hi, yr oedd Siôn Ifan wedi dyfod i goleddu syniadau uchel amdani, ac i deimlo'n gynnes tuag ati. Ar y dechrau nid oedd y berthynas rhyngddynt yn hollol felly, ond yn hytrach rhyw fath o gyd-ddwyn oedd yno, megis rhwng dau leidr. Wedi'r cyfan yr oedd yng nghyfansoddiad Siôn Ifan lawer o anrhydedd; rhyw ddyhead rhyfedd am drefn mewn anhrefn, am uniondeb mewn trosedd. Ac yr oedd y pethau hynny i'w cael yn ei natur amrywiol hithau.

Ar y llaw arall pellhau yr oedd y berthynas rhwng Siôn Ifan a Wil a Robin y Pandy. Fel y treiglai amser gwaethygai syniad yr hen ŵr amdanynt. Gwyddai am droeon brwnt yn hanes y ddau; gwyddai am weithredoedd na buasai ond dyhirod yn euog ohonynt. Dirywio yr oedd Wil a Robin, ac yr oedd yn mynd yn achos gofid i'r hen ŵr fod a wnelo'i lanciau ef ei hun ddim â hwy. A dywedyd y gwir, felly y teimlai Dic hefyd, ond nad oedd wiw sôn.

Dyn cymharol ieuanc oedd ymwelydd Siôn Ifan, ond dyn a'i yrfa fer wedi ei llenwi ag anturiaeth. Daethai i Dafarn y Cwch i chwilio am Madam Wen, am yr adwaenai hi flynyddoedd cynt. Ac fel dangosiad neilltuol o wrogaeth iddi hi y cymerodd Siôn Ifan arno'i hun yn bersonol fyned i'w hysbysu hi o ddyfodiad yr ymwelydd. Yr oedd profiad wedi dysgu i'r teithiwr fod yn wyliadwrus, ac ni wyddai'r tafarnwr, mwy nag eraill, ddim o'i hanes. Ni wyddent mai anturiaethwr oedd, wedi gwneud ei ffortun, ac wedi dyfod a'i drysor mewn llong i lannau'r hen wlad. Ond dyna oedd y ffaith, ac i Madam Wen yn unig yr adroddodd hanes rhyfedd ei ymdaith yn y wlad bell a thywyll y dychwelai ohoni. Cadwodd hi ei gyfrinach. Ond yr oedd llygaid un neu ddau o ddyhirod arno serch hynny.

Gofalodd Siôn Ifan am i'r teithiwr gael ystafell iddo'i hun a'i ymwelydd o'r Parciau, a chafodd y ddau ymgom hir heb neb i'w tarfu. "Mi ddwedaf i chwi brofiad un prynhawn yn fy hanes," meddai'r teithiwr, "a chewch chwithau farnu pa un ai trais ai tegwch fu ar waith y tro hwnnw.' Rhyddhaodd wregys o'r fath a wisgid y dyddiau hynny, a dododd ef ar fwrdd o'i flaen.

"Yr oeddwn yn un o saith," meddai, "ar hynt helwriaethol, pan dynnwyd ni yn erbyn ein hewyllys i ymgiprys â'r brodorion, mewn lle wrth enau afon Narbada. Lle tywyll ac eilunaddolgar i'r eithaf ydoedd, ac yn ôl pob ymddangosiad ar y pryd, lle tlawd. Rhaid i mi ddweud cymaint â hyna mewn ffordd o eglurhad, ac i ddangos nad oedd yn ein bwriad ar y dechrau wneud dim o'r fath ag a wnaed cyn y diwedd.'

Syllodd hithau ar y gwregys, gan geisio dyfalu beth oedd a wnelai hwnnw â'r adroddiad. Ond aeth ef ymlaen heb gynnig amlygiad.

"Yn yr ymladdfa lladdwyd un o'n nifer, bachgen. o Gaer, a gwelsom ar unwaith mai dyna fyddai tynged pob un ohonom os na fedrem gael y llaw uchaf ar ein gelynion. Mi gredaf mai rhyw gymysgedd o ofn ac anobaith yn fwy na dim arall a barodd i mi ymddwyn fel y gwnes. Prin y gwn yn iawn sut y dechreuais, ond mae'n ymddangos mai fi oedd y cyntaf i gipio fy nryll a rhuthro i'w plith fel dyn lloerig. Yr unig atgof clir sydd gennyf ydyw fy ngweld fy hun yn eu canol yn ffustio o'm cwmpas yn ddireol ac fel dyn wedi colli ei synhwyrau. Gwelais fy nghymdeithion yn gwneud yr un modd, a'r peth nesaf yr wyf yn ei gofio ydyw gweled y brodorion yn troi eu cefnau ac yn ffoi, a minnau'n ymlid wedi ennill y dydd."

"Ni laddwyd yr un ohonynt, ond erlidiasom hwynt i ganol eu pentref, a'n harswyd wedi syrthio ar bob un, nes ffoi o bawb o'n blaenau fel anifeiliaid o flaen tân. Yn fuan daethom yn ddamweiniol ar draws adeilad gorwych oedd yn edrych yn debyg i deml, a chyda'r bwriad o ddangos nad oedd arnom ofn na Duw na dyn yn eu gwlad anwar rhuthrasom ar honno ac aethom i mewn."

Gafaelodd yn y gwregys a dadlennodd logell yn ei ganol. "Welais i erioed y fath ysblander ag oedd yno. Ni buasai undyn yn amau o weld y creaduriaid tlodaidd eu hunain, fod y fath olud yn gorwedd yn segur mor agos atynt. Ond edrychwch yma!"

Arllwysodd ar gledr ei llaw ddyrnaid o emau o bob lliw a llun; adamantau drudfawr a'u hwynebau lawer yn fflachio golau fel cynifer o lampau cain; emraldau heirddwyrddion liaws; rhuddemau cochach na'r gwin; meini saffir yn disgleirio fel yr haul, a pherlau claerwynion lawer.

"A welwch chwi hwn? meddai wrthi, gan ddal yn ei law ddiamwnt mawr. "Hwn oedd llygad de un o'r duwiau mwyaf diolwg a addolwyd erioed gan greadur o bagan!"

"A dyma bâr o lygaid fflamgoch rhyw hen eilun arall a gawsom mewn congl dywyll yno.' Neilltuodd ddau ruddem a fuasai'n gwerthu, am bris can erw o dir da ym Môn.

"Er mwyn yr hen amser gynt," meddai, mi hoffwn yn fawr gael rhoddi hwn i chwi os byddwch mor hynaws a'i dderbyn ar fy llaw." Un o'r rhai mwyaf o'r gemau oedd hwnnw, diamwnt a'i belydr fel cyfundrefn gyfan o heuliau. Diolchodd hithau iddo.

Yn y llong yr oedd mwy o gyfoeth ar ffurfiau eraill, a heb fod mor hawdd eu diogelu mewn cylch bychan; llestri o aur ac o arian, cyrn ifori, sidanau a thrysorau eraill. Cael ei chymorth hi i ddiogelu'r rhain oedd amcan ei ymweliad â hi. Trefnwyd pa fodd a pha bryd i gyrchu'r trysor, a pha le i'w ddiogelu wedi ei gael. Llechai'r llong rhag gwynt y gorllewin ymhell i fyny'r culfor, ac ni wyddai neb i bwy y perthynai.

Gall mai'r ffaith mai nid ei heiddo hi ei hun oedd y nwyddau a fyddai mewn perygl a wnâi iddi deimlo'n anesmwyth. Neu gall bod rhyw rith o ofn arall wedi ei meddiannu hithau, fel yr oedd amheuaeth o un neu ddau o'r fintai wedi gafael yn Siôn Ifan. Nid oedd pethau yn union fel yr arferent fod. Braidd nad oedd hi'n ddig pan sylweddolai mor bryderus y teimlai. Dywedodd wrthi'i hun nad arferai fod felly. Daeth un munud arni pan fuasai'n dda ganddi gael dywedyd na theimlai'n dawel i roddi lloches i'r fath olud yn y fath le ac ymhlith y fath bobl. Ond ni ddywedodd hynny.

Yr hyn a ddywedodd wrth ymadael oedd, “Mi ddof i'ch cyfarfod fy hunan. A digon tebyg y dof a hen ŵr y dafarn gyda mi. Gallaf ymddiried yn llwyr ynddo ef."

Cartrefol iawn oedd Madam Wen er pan ddaethai yn ôl o'i mordaith yn y Wennol. Yr oedd y sôn am y fordaith honno wedi ei ledaenu yn y cylch cyfrin braidd cyn iddi hi gyrraedd adref. Aeth Huw Bifan i Dafarn y Cwch y noson y daeth y llong i mewn, a pharodd ddifyrrwch nid bychan i gynhulliad detholedig o gwsmeriaid Siôn Ifan drwy adrodd hanes Abel Owen a'r modd y drysodd Madam Wen ei gynlluniau. Ac â'r stori honno y diddorai Siôn Ifan ei ymwelydd wedi i'r arwres droi ei chefn.

Nodiadau golygu