Madam Wen/Ar y Llaerad

Twм Pen y Bont, ac Eraill Madam Wen

gan William David Owen

Gwaeledd Siôn Ifan



XII

AR Y LLAERAD

GWYDDAI Madam Wen yn dda am ragorion yr encilion pan fyddai eisiau hamdden i feddwl. Yn ei hogof unig, heb neb i'w tharfu, treuliai oriau dedwydd yn cynllunio ac yn trefnu gwaith i'w mintai a hithau; heb neb i gynnig gwelliant, dim ond ei dychymyg ei hun, a'i threfn ei hun o'i roddi mewn gweithrediad. Mwynhai'r bywyd gwyllt direol, yn eilun ei phobl, heb ofal yn y byd, nac unrhyw bryder.

Ond amser fu oedd hynny, fel y myfyriai'n awr. Wedi'r ymddiddan yn nhŷ Siôn Ifan aeth yn ôl i unigedd y Parciau a'i theimladau'n gymysglyd, os nad yn gythryblus. Yr oedd rhywbeth yn yr awyrgylch, neu ynddi hi, a barai i bethau gyfnewid. Ai cilio ymaith yr oedd yr hen ymddiried? Ai beth oedd y rheswm? Braidd nad oedd yn edifar ganddi ymgymeryd â'r gwasanaeth a addawsai. Prin yr ystyriai hi ei hun yn abl i'w gyflawni. A oedd ei hyder wedi diflannu, ac ofn arni? Bron nad oedd bywyd y Parciau yn myned yn ddiflas iddi, yn faich arni.


Drannoeth, aeth at y dafarn yn gynnar y prynhawn, gan led—obeithio y byddai'r teithiwr yno, ac y gwelai hithau gyfleustra i dynnu'n ôl heb goll anrhydedd. Odid nad allent lunio rhyw drefniad arall. Ond er siom iddi yr oedd ef wedi ymadael yn gynnar yn y bore. Pan welodd hi'r hen ŵr awgrymodd iddo fod rhesymau dros ddywedyd cyn lleied ag oedd modd am y gŵr dieithr wrth yr ymholydd a'r chwilfrydig, boed hwnnw bwy bynnag fyddai.

"Dim gair!" meddai yntau mewn sibrwd, ac aeth ymlaen mewn cywair uwch, a mwy di—daro, i ganmol hyfrydwch y dydd ei ddull o'i sicrhau hi bod gair i gall yn ddigon. Ni ddewisodd hithau ddywedyd mwy yr adeg honno, ond pan ddaeth amser noswylio yn y dafarn aeth yno eilwaith i hysbysu Siôn Ifan bod ganddi orchwyl i'w gyflawni cyn codiad haul drannoeth, ac y dymunai gael ei gynorthwy ef.

Yr oedd yn noson gymylog, a'r lleuad ryw ddeuddydd wedi'r llawn. Daeth at y drws a churodd yn ysgafn, ond pan agorodd Siôn Ifan ni fynnai hi fynd i mewn nes deall yn gyntaf nad oedd yno neb dieithr. Dymunai drafod ei neges yn ddirgel, lle nad oedd arall a allai eu clywed.

"Pryd y mae'r llanw yn y culfor heno?" gofynnodd.

"Tua'r un ar ddeg yma," atebodd yntau.

"Mae gennyf orchwyl sydd heb fod yn hollol wrth fy modd, Siôn Ifan." Sylwodd yntau nad oedd ei hunan-feddiant arferol i'w weled heno. Petrusai, fel pe'n myfyrio.

"Beth a garech chwi i mi ei wneud?"

"Mynd gyda mi i'r traeth. Mae yno—," ond ni orffennodd y frawddeg fel yr oedd wedi bwriadu. Trodd yn sydyn ato, ac edrychodd yn ei wyneb—, "Dylaswn fod wedi egluro bod gan y gŵr dieithr oedd yma neithiwr lawer o drysor ar fwrdd ei long yn yr afon. Dyna paham y dymunwn i'w ymweliad fod mor ddirgel ag oedd modd."

Daeth gofid i wyneb Siôn Ifan. Ond ni ddywedodd air. Yn hytrach gwnaeth ymdrech i guddio'i deimladau. Yr oedd hithau yr un mor groen—deneu, ac ar unwaith yn ymwybodol bod rhywbeth allan o'i le. Ond ni wyddai beth. Tawodd hithau.

Trodd yr hen ŵr at y tân mawn, i gynhyrfu tipyn ar hwnnw. Aeth hithau at y setl hir ac eisteddodd. Ond ni ddeallent ei gilydd sut yn y byd. Un gair fuasai wedi cadw'r awyr yn glir, ond trwy ryw amryfusedd ni lefarwyd hwnnw.

Gofidio ynddo'i hun yr oedd yr hen ŵr wrth feddwl y gwelai ddymchwel ei hoff obeithion. Yr oedd wedi blino ar y sôn am ysbeilio. Braidd nad oedd cêl-fasnach wedi mynd yn atgas ganddo. Ac yr oedd wedi dyfod i feddwl ac i obeithio mai felly y teimlai hithau. Ond beth oedd hyn?

Ac amdani hi, ni ddaeth i'w hamgyffred unwaith nad oedd ei bwriad o gynorthwyo'r teithiwr, ac nid ei ysbeilio, yn hysbys i'r hen ŵr o'r cychwyn. A dyna gymylau duon rhyngddynt.

Wedi munud pellach o fyfyrio distaw, cododd ar ei thraed, a gwên ar ei hwyneb, "Ai tybed Siôn Ifan y buasem ein dau'n barotach petasai'r daith yn un ysbeilgar?"

Ni buasai dyrnod â ffust yn ysgwyd mwy ar yr hen ŵr nag a wnaeth ei geiriau. Am funud gwelodd ei fyd bychan yn troi o'i gylch, a'i syniadau'r tu gwrthwyneb allan.

"Yn barotach! Ysbeilio! Cato pawb!"

Chwarddodd Madam Wen dros y tŷ, wedi deall y dirgelwch. Chwalwyd y cymylau, a daeth popeth i'w le, er y teimlai Siôn Ifan dipyn yn sigledig. Ond daeth mwy o nwyf i'w hymddygiad hi nes codi llawer ar ei galon.

"Bydd raid i ni gymryd gofal neilltuol," meddai hi. "Mae ganddo gryn bwysau o aur ac arian ac eiddo arall, a disgwylir i ni ddyfod a'r cyfan i ddiddosrwydd o hyn i'r bore."

"Purion. Pa bryd y cawn ni gychwyn? "Bydd y distyll ar y llaerad bump o'r gloch. A fyddai'n well i ni gychwyn bedwar?"

"Byddai. Deuaf heibio am bedwar, ac mi guraf yn y ffenestr."

Wedi ei hebrwng i'r ffordd a'i gweld yn mynd o'r golwg i fyny'r allt tua'r eglwys, safodd Siôn Ifan funud yn y drws a gwelodd y lleuad yn dyfod i'r golwg o'r tu ôl i gwmwl du. "Mi gawn fore tywyll at bump o'r gloch!" meddai wrtho'i hun.

Aeth i'w wely'n ebrwydd, a chysgodd gwsg esmwyth meddwl tawel. Cysgodd yn drwm nes clywed cnoc ar y ffenestr, pryd y cododd yn ddiymdroi. Gwisgodd amdano'n frysiog ac aeth i'r drws, gan ddisgwyl gweled caseg wen y Parciau a'i pherchen ar y groeslon. Ond nid oedd yno arwydd yn y byd bod neb ar y cyffiniau. Gan rwbio ei lygaid trodd am y tŷ eilwaith. Pan oedd ar yr hiniog digwyddodd sylwi ar y lleuad, oedd newydd ddyfod i'r golwg, ac yn prysur groesi darn o lesni rhwng dau gwmwl dudew. Yn y fan daeth i ddeall mai tua hanner nos ydoedd ac nid pedwar yn y bore. "Cato pawb!" sibrydodd wrtho'i hun, gan roddi peth o'r bai ar henaint am y camgymeriad. "Mi gymrwn fy llw i mi ei chlywed hi'n curo!"

Mor ddistaw ag y medrai aeth yn ôl i'w wely, gan gwyno iddo'i hun am i'w ddychymyg dorri ar ei gyntun heb fod eisiau, ond yn lled-amau er hynny ai dychymyg oedd. Yr oedd ynghanol trwmgwsg arall pan glywodd guro eilwaith. Wedi hanner deffro, cofiodd am y cytundeb â Madam Wen. Gorweddodd funud i wrando. Yn ebrwydd daeth dau gnoc clir a hyglyw ar y gwydr. "Does dim dau feddwl i fod ar hynyna!" meddai, a chododd, a gwnaeth fwy o frys na chynt i wisgo amdano.

Ond pan aeth allan, nid oedd yno neb ar y cyfyl yn awr mwy na'r tro cyntaf. Llewyrchai'r lloer mewn wybren oedd bron yn glir, wedi dianc am ysbaid o blith y cymylau. "Taid annwyl!" meddai Siôn Ifan, wrth edrych ar honno, "dydi hi fawr gydag un o'r gloch y bore!"

Aeth i fyny'r ffordd i edrych a oedd yno rywun heibio'r troad ai peidio. Aeth i lawr, ac yn ôl ac ymlaen, gan sefyllian a chlustfeinio. Ond nid oedd na siw na miw i'w glywed yn unman. Daeth rhyw ias o ryndod trosto wrth iddo droi'n ôl am y tŷ. Nid oedd gormod o ofergoeledd yn Siôn Ifan, ac ni byddai ofn. y gwyll yn blino dim arno. Ond yn ei fyw ni fedrai lai na theimlo rywsut bod yno ryw ddylanwadau dieithr a dirgel megis yn hofran o gwmpas y tŷ y noson honno. Gorweddodd hanner awr effro yn gwrando ac yn disgwyl, ond heb glywed dim. O'r diwedd, daeth hûn i'w amrantau drachefn.

Deffrowyd ef y drydedd waith gan drwst curo pendant ar y ffenestr. Arhosai'r atsain yn ddigamsyniol wedi iddo ddeffro; a chyn iddo gael amser i ymysgwyd a chodi daeth y gnoc drachefn. "Ffat—tat! ar y ffenestr, yn hyglyw ac awdurdodol, fel pe byddai pwysigrwydd yn galw am frys. Ufuddhaodd yntau i'r alwad yn ddiymdroi, a goleuodd y gannwyll frwyn fel arwydd ei fod yn dyfod heb oedi. Yr oedd mor sicr yn ei feddwl y byddai Madam Wen o flaen y tŷ yn disgwyl amdano fel y cafodd siom fel ergyd wrth agor y drws ac heb ei chanfod yn unman.

Teimlai ychydig yn gysglyd a hurt, ac yn barod i rwgnach petai haws. A oedd hi'n peidio â bod yn chwarae rhyw gampau direidus ag ef gefn trymedd nos fel hyn? Dyna drawodd gyntaf i'w feddwl wrth weld nad oedd y gaseg wen yno. Ond syniad annheilwng oedd hwnnw erbyn ystyried. Yna daeth i sylweddoli mai cynnar iawn ar y bore oedd hi eto; rywdro rhwng dau a thri, ac yntau wedi deffro deirgwaith. Ond yr oedd ei feddwl wedi cael ei gythryblu ormod iddo fyned i orwedd eilwaith. Aeth i'r llain, a ffrwyn yn ei law, i ddal y merlyn.

Disgwyliodd hanner awr yn rhagor, nes blino'n disgwyl. Yna cychwynnodd tua'r Parciau. Disgwyliodd wedyn rhag ofn iddi fyned yn ei wrthgefn a pheri dryswch. O'r diwedd gwelodd hi'n dyfod, a'i gair cyntaf oedd ysmaldod wrth ei weld wedi troi allan mor fore a chyn yr amser.

"Yr ydych chwithau cyn eich amser," meddai yntau, gan ei amddiffyn ei hun yn wyneb ei chellwair.

"Breuddwydio wnes i," meddai hithau. "Breuddwydio eich gweled chwi a a minnau mewn helynt yn ceisio dianc oddi ar ffordd rhyw ysbrydion drwg, ac yn methu syflyd, a'r rheini ar ein goddiweddyd." Faint bynnag o wir a ddywedai, yr oedd yn eglur oddi wrth yr ymddiddan a ddilynodd nad oedd a wnelai hi ddim â'r curo ar y ffenestr yn Nhafarn y Cwch, a barnodd Siôn Ifan mai tewi am hynny fyddai ddoethaf, ond yn ei fyw ni fedrai gael ymwared a'r atgof o'i brofiad annymunol.

Yr oedd Madam Wen yn ddistawach y bore hwnnw nag oedd ei harfer hi. A chan nad oedd ei chyd— ymdeithydd mewn cywair fawr yn well, teithient mewn distawrwydd. Wedi dyfod i gwr y traeth trowyd pennau'r meirch i fyny'r culfor gyda'r glannau, a chyn hir daethant i olwg y llaerad. Yma gadawsant y meirch a cherddasant tua'r lle oedd wedi ei benodi'n fan cyfarfod rhwng y teithiwr a Madam Wen. Yr oedd y lleuad wedi ymguddio ers meityn y tu ôl i gwmwl trwchus.

Cerddasant ôl a blaen am ysbaid gan ddisgwyl. Ond nid oedd yno unrhyw arwydd o'r gŵr a geisient. Wylofain y môr wrth adael y tywod oedd yr unig sŵn a ddeuai i'w clyw.

"Beth oedd hwnacw?" gofynnodd Siôn Ifan yn sydyn, gan sefyll i bwyntio braich ar draws y draethell.

"Ni welais ddim!" atebodd hithau'n gynhyrfus, gan nesu at yr hen ŵr a gafael yn ei fraich. Yn ddiddadl yr oedd ei breuddwyd neu rywbeth arall wedi gwanhau ei nerfau cryfion hithau y bore hwn. Ai ynte cynnwrf Siôn Ifan a'i dychrynodd am funud?

"Mi gymraf fy llw i mi weled rhyw lygedyn o olau yn y cwr draw," eglurodd yr hen ŵr, gan ddal i syllu'n graff. "Fuasem ni dro bach yn mynd yno. Beth ddyliech chwi? Af ar fy llw mai golau a welais!"

Cychwynnodd y ddau fraich ym mraich ar draws. y draethell wleb, heb fawr o ddim i gyfeirio'u ffordd. A'r tywod yn fyw o dan eu traed. Yn y pellter clywent sŵn cwynfan y môr.

Fel y dynesent at lan y llif, ei llygad cyflym hi oedd y cyntaf i ganfod rhyw bentwr tywyll yn gorwedd ar y tywod. Gafaelodd yn dynnach ym mraich Siôn Ifan. Beth allai fod, a mân donnau olaf ac eiddilaf y llanw yn chwarae o'i gylch fel pe'n hwyrfrydig i'w adael? Pan syrthiodd llygad llai craff yr hen ŵr arno, cyflymodd ei gerddediad nes dyfod i'r fan. Yr oedd ef wedi gweled llawer golygfa debyg, ond amdani hi, safodd ryw ddwylath yn ôl, gan grynu fel deilen, a rhyw ofn nad allai ei draethu yn ei mynwes.

"Mae'n ddyn go fawr," sibrydodd Siôn Ifan, yn fwy wrtho'i hun nag wrthi hi. Nid oedd darganfod corff ar y traeth yn beth dieithr i breswylwyr y glannau, ac er y dangosent y gwylder tawel a ddisgwylir pan fyddis ym mhresenoldeb y marw, eto yr oedd gwahaniaeth; corff ar y traeth ydoedd, ac nid gŵr marw yn ei dŷ.

"Mewn gwisg dda hefyd!" meddai wedyn. Nid oedd wedi taro i'w feddwl o gwbl y gallai'r truan fod yn neb a adwaenai ef. Estron o ryw long neu'i gilydd. Ni cheid cyrff gwŷr Llanfihangel-yn-Nhowyn ar y tywod ar y traeth.

Ond amdani hi, ni allai ers meityn ffurfio'r geiriau a fuasai'n adrodd ei hofn.

Ac fel y syllent, daeth paladr o oleuni gan ddisgyn ar draws y llif, fel llwybr o arian yn dawnsio ar wyneb y dŵr, ac yn dynesu. Edrychodd Siôn Ifan i fyny mewn dychryn, ond cafodd dawelwch meddwl ar unwaith wrth weld ymylon carpiog cwmwl du yn llachar o belydr claerwynion y lloer ar ymddangos.

Teithiai'r llwybr yn gyflym tuag atynt, a heb yn wybod iddi'i hun symudodd Madam Wen gam neu ddau yn nes. Am ennyd fer cafodd syllu ar wyneb John Ffowc y teithiwr, yn welwlas yn angau. Yr oedd fel pe mynnai ef alw cyn ymadael i'w hysbysu hi o'i dynged. A daeth tywyllwch eilwaith i ordoi'r traeth.

Safodd y ddau am funud heb yngan gair. Ei hawydd cryfaf hi oedd dianc ar unwaith. Ond meistrolodd yr awydd hwnnw.

"Taid annwyl! Sut y digwyddodd hyn, tybed!' meddai Siôn Ifan.

Yr oedd yn anodd ganddi gynnig yr esboniad a gynigiai ei hun iddi hi. Ond ail—feddyliodd. "Yr oedd ganddo wregys ag ynddo emau lawer,' sibrydodd.

Cymerodd Siôn Ifan yr awgrym a chwiliodd. "Mae hwnnw wedi mynd!" A dyna'r munud cyntaf i'r syniad mai trais fuasai yno ddyfod i feddwl Siôn Ifan, er yr ofnai hi o'r cychwyn. Mewn ufudddod i ryw duedd elfennol mewn dyn yn ddiamau y dechreuodd yr hen ŵr edrych o'i gwmpas pan ddaeth y syniad ato. Ond nid oedd dim i'w weld.

'Byddai'n well i ni fynd adre!" sibrydodd hi.

"Byddai!"

Cychwynasant mor ddistaw â dwy lygoden, a da oedd ganddi hi gael mynd o'r fan. Wrth droi ei chefn ar gorff y marw, wedi deall y gwaethaf, diflannodd y rhan fwyaf o'r ofn a fu arni. Wrth groesi'r traeth i ddyfod i'r lle, yr oeddynt wedi teithio ar hanner cylch oherwydd y tywyllwch. Ond yn awr, gan wybod eu cyfeiriad yn well, trwy gadw yn nes i'r llif, a'u hwynebau tua Chymyran, torrent y ffordd. Ni siaradent air, ond cerddai hi ym mraich Siôn Ifan mewn myfyrdod dwfn.

Wedi iddynt gerdded peth ffordd, safodd Siôn Ifan yn sydyn, gan sibrwd, "Ust!"

Estynnodd ei fys, ac edrychodd hithau, a gwelsant o'u blaenau, heb fod ymhell, olau egwan. Gwyddai'r ddau o ba le y deuai'r golau. Gwyddent yn dda am yr ystordy bychan, hanner—adfail, a safai ymysg y creigiau ryw bum canllath o enau'r culfor.

Dymuniad Siôn Ifan oedd cael troi ffordd arall a mynd adre mor ddistaw ag y medrent. Ond nid felly Madam Wen. Pan welodd hi'r golau gwan drwy gil drws yr hen ystordy, daeth temtasiwn ati na allai hi ei gorchfygu. Dyma antur, a rhaid oedd cael mynd. Dyma waith yn galw am ofal, a dirgelwch, a rhyfyg; a chiliodd pob ofn ar unwaith. Yn unig yr oedd Sion Ifan yn dipyn o gyfrifoldeb. Ond arweiniodd yr hen ŵr yn erbyn ei ewyllys ar gylch ac yn ddistaw i lecyn diogel yng nghysgod craig, ac aeth ymlaen ei hun gan symud fel lledrith.

Fel y dynesai, clywai leisiau rhai'n siarad. Yr oedd yr hen ddrws hanner pydredig ar un bach, ac wedi ei gil gau. Nesaodd ato'n ofalus, a thrwy'r agen rhwng y ddôr a'r ystlys gwelodd wynebau dau a adwaenai. Ac nid amheuai nad oedd yr wynebau hynny wedi eu hacru gan euogrwydd llofruddion.

Ymgecru'r oeddynt ar ôl rhannu'r ysbail. Yn eu cyhuddo eu hunain o'u geneuau eu hunain. Cweryla uwch ben yr ysbail, er y gorweddai'r gŵr a lofruddiwyd ar ei elor llaith gan aros am y gwasanaeth olaf oddi ar law'r rhai oedd wedi tywallt ei waed.

Pan feddyliodd hi eu bod ar godi ac ymadael, ciliodd yn ôl fel cysgod, a daeth at Siôn Ifan. Â'i llaw ar ei fraich, galwodd am ddistawrwydd fel y bedd.

Clywsant yr hen ddrws yn gwichian ar ei unig fach, ac yna lais garw un yn gofyn," Ple mae'r ysgerbwd, dywed?"

Adwaenodd Siôn Ifan lais Robin y Pandy, a phlygodd ei ben. Tynhaodd hithau ei gafael yn ei fraich.

"Cau dy geg lydan!" meddai'r llofrudd arall, yn is ei dôn. "Beth wyddost ti nad oes yma rywun o gwmpas!"

Dechreuodd calon yr hen ŵr guro fel gordd, wedi deall pwy oedd hwnnw eto. Ond yr oedd ei gafael hi yn dyn yn ei fraich yn ei gynnal i fyny, er y daliai hi ddryll yn ei llaw arall rhag digwydd damwain. Ond cerddodd y ddau lofrudd rhagddynt heb fawr o feddwl bod neb o fewn clyw. A phan dybiodd Madam Wen ei bod yn ddiogel symud, arweiniodd yr hen ŵr ymaith ar draws y tywod mor gyflym â phetai wŷr a chleddyfau yn eu hymlid. Ni bu erioed yn well gan fam weld ei phlentyn nag oedd gan y ddau weld y gaseg wen a'r merlyn yn pori'n dawel ymysg yr eithin ger y traeth.

Nid agorodd yr hen ŵr ei enau nes dyfod i olwg Llyn Llywelyn, a'r cartref heb fod ymhell. "Taid annwyl!" meddai yn y fan honno, gan geisio crynhoi mewn dau air ei sylwadau i gyd ar brofiadau chwerwon y bore.

Pwy a wâd bod coel ar freuddwyd?" meddai hithau. Dyna mreuddwyd i i ben!

"Ie, ac mi fu acw ryw guro rhyfedd iawn hefyd ar hyd y nos am wn i," meddai yntau. "Mi godais o'm gwely deirgwaith gan feddwl mai chwi oedd yn curo. Rhyfedd iawn! Taid annwyl! Beth ddaw ohonom!"

Siôn Ifan! I Dafarn y Cwch yr wyf fi yn mynd y bore yma, petai yno bymtheg o fwganod!

"Purion!" atebodd yntau, yn rhy lawn o'i fyfyrdodau ei hun i gymryd sylw mawr o'r hyn a ddywedai hi. Taid annwyl!" sibrydai'n hanner hyglyw, "Dyna ni wedi mynd i'n crogi 'ntê! Wil yn llofrudd! Robin yn llofrudd! Taid annwyl! Wil a Robin yn llofruddion!"

Nodiadau golygu