Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd

Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd

gan William Williams, Pantycelyn

Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

102[1] Ffordd at yr Orsedd.
M. C.

1.MAE'R orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan;
Wel, cyfod bellach, f'enaid prudd,
Anadla tua'r lan.

2.Wel, anfon eirchion amal rif,
I mewn i byrth y nef;
Gwrandewir pob amddifad gri
Yn union ganddo Ef.


3.Myfi anturia'n awr ymlaen,
Heb alwad is y ne',
Ond bod perffeithrwydd mawr y groes
Yn ateb yn fy lle.

4.Calfaria fryn yw'r unig sail
Adeilaf arno mwy;
A gwraidd fy nghysur fyth gaiff fod
Mewn dwyfol farwol glwy'.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 102, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930