Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun
← Wel dyma'r Ceidwad mawr | Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun gan John Thomas (1730-1803) |
Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
101[1] Pob peth yng Nghrist.
M. C.
1.TI, Iesu, ydwyt, oll dy Hun
Fy meddiant ar y llawr;
A Thi dy Hunan fydd fy oll
O fewn i'r nefoedd fawr.
2.Mae 'nymuniadau maith eu hyd
Yn pwyntio oll yn un,
Dros bob gwrthrychau is y sêr,
Ac atat Ti dy Hun.
3.O! ffynnon trugareddau maith,
Diderfyn yw dy ras,
I roi trysorau penna'r nef
I'r tlotaf un i maes.
4.Fy unig gysur dan bob gwae
Dy fod Di imi'n Dduw;
Ac yn dy gysgod mi af trwy
Gystuddiau o bob rhyw.
5.Anghyfnewidiol gair y nef,
Ond cyfnewidiol fi;
Am hyn mi safaf, doed a ddêl,
Mae'r afael sicraf fry.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 101, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930