Mae carcharorion angau

Gwell na holl drysorau'r llawr Mae carcharorion angau

gan Evan Rees (Dyfed)

Addoliad, mawl a bendith
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

179[1] Ar ei Ben bo'r Goron
77. 87. D.

1 MAE carcharorion angau
Yn dianc o'u cadwynau,
A'r ffordd yn olau dros y bryn
O ddyfnder glyn gofidiau.
Cyhoedder y newyddion,
A gorfoledded Seion,
Mae'r Iesu ar ei orsedd wen,
Ac ar ei ben bo'r goron!


2 Cynefin iawn â dolur
Fu'r Iesu yn fy natur:
Gogoniant byth i'w enw Ef
Am ddioddef dros bechadur!
Yn addfwyn dan yr hoelion,
dwyfol waed ei galon
Fy mhrynu wnaeth Tywysog nen,
Ac ar ei ben bo'r goron!

3 Dilynaf yn ei lwybrau,
A chanaf yn fy nagrau:
Mae mwy na digon yn yr Iawn
I faddau'n llawn fy meiau;
Er dued yw fy nghalon,
Mae'r Iesu'n dal yn ffyddlon:
Eiriolwr yw tu hwnt i'r llen,
Ac ar ei ben bo'r goron!


Evan Rees (Dyfed)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 179, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930