Gwell na holl drysorau'r llawr

Craig yr Oesoedd! cuddia fi Gwell na holl drysorau'r llawr

gan John Gwyndud Jones

Mae carcharorion angau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

178[1] Cyflawnder Cariad Crist
77. 77. 77.

1 GWELL na holl drysorau'r llawr
Yw dy gariad, Iesu mawr;
'D oes dim arall yn y byd
A ddiwalla f'enaid drud;
Dyma'r trysor mwya'i fri,
Dyma leinw f'enaid i.

2 Yn y tywyll anial dir,
Rhydd dy gariad olau clir;
Rhydd i'm mynwes heddwch llon,
Nefol falm i'm drylliog fron;
Digon ynddo gaf i fyw,
Ac i farw, digon yw.

3 Boed im wrando, tra fwyf byw,
D'eiriau graslon, Iesu gwiw;
Eistedd wrth dy draed bob awr,
Plygu i'th ewyllys fawr:
Profi o'th gariad dan fy mron
Wna im fyw a marw'n llon.

John Gwyndud Jones


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 178, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930