Craig yr Oesoedd! cuddia fi
← Dacw gariad nefoedd wen | Craig yr Oesoedd! cuddia fi gan Augustus Toplady wedi'i gyfieithu gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Gwell na holl drysorau'r llawr → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
177[1] Craig yr Oesoedd
77. 77. 77
1 CRAIG yr Oesoedd! cuddia fi,
Er fy mwyn yr holltwyd Di;
Boed i rin y dŵr a'r gwaed,
Gynt o'th ystlys friw a gaed,
Fy nglanhau o farwol rym
Ac euogrwydd pechod llym.
2 Ni all gwaith fy nwylaw i
Lenwi hawl dy gyfraith Di;
Pe bai im sêl yn dân di-lyth,
A phe llifai 'nagrau byth,
Iawn ni wnaent i gyd yn un.—
Ti all achub, Ti dy Hun.
3 Dof yn waglaw at dy groes,
Glynaf wrthi trwy fy oes;
Noeth, am wisg dof atat Ti;
Llesg, am ras dyrchafaf gri;
Brwnt, i'r ffynnon dof â'm clwyf;
Golch fi, Geidwad, marw'r wyf.
4 Tra fwy'n tynnu f'anadl frau,
Pan fo'r llygaid hyn yn cau,
Pan fwy'n hedfan uwch y llawr,
Ac yng ngŵydd dy orsedd fawr,
Graig a holltwyd erof fi,
Gad im lechu ynot Ti.
Augustus Toplady,
cyf. Owen Griffith Owen (Alafon).
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 177, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930