Dacw gariad nefoedd wen

Angylion doent yn gyson Dacw gariad nefoedd wen

gan William Williams, Pantycelyn

Craig yr Oesoedd! cuddia fi
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

176[1] Cariad yn disgleirio ar y Groes.
77. 77. 77.

1 DACW gariad nefoedd wen
Yn disgleirio ar y pren;
Dacw daledigaeth lawn.
I ofynion trymion iawn;
Iesu gollodd ddwyfol waed,
Minnau gafodd wir iachâd.

2 Na ddoed gwael wrthrychau'r byd
I gartrefu yn fy mryd;

Digon, f'enaid, digon yw
Myfyrdodau dwyfol friw:
Mae mwy pleser yn ei glwy'
Na'u llawenydd pennaf hwy.

3 Iesu gollodd ddwyfol waed,
Minnau gafodd wir iachâd;
Darfu ymffrost mawr y byd,
Iesu biau'r clod i gyd;
Wrth ei draed dymunwn fyw,
Holl hapusrwydd f'enaid yw.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 176, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930