Angylion doent yn gyson
← Mae'r Iesu'n fwy na'i roddion | Angylion doent yn gyson gan William Williams, Pantycelyn |
Dacw gariad nefoedd wen → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
175[1] Anfeidrol Gariad Crist.
76. 76. D.
1 ANGYLION doent yn gyson,
Rifedi gwlith y wawr,
Rhoent eu coronau euraid
O flaen y fainc i lawr,
A chanent eu telynau
Ynghyda'r saint yn un:
Fyth, fyth ni chanant ddigon
Am Dduwdod yn y dyn.
2 Ni fuasai gennyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A'r twllwch dudew byth,
Oni buasai'r Hwn a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari
O ryw anfeidrol gariad
Yn cofio amdanaf fi.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 175, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930