Mae lluoedd maith ymlaen
← Caersalem, dinas hedd | Mae lluoedd maith ymlaen gan William Williams, Pantycelyn |
Am fod fy Iesu'n fyw → |
662[1] Pen y Daith.
66.66.88.
MAE lluoedd maith ymlaen,
'N awr o'u carcharau'n rhydd,
A gorfoleddu maent
Oll wedi cario'r dydd:
I'r lan, i'r lan diangasant hwy,
Yn ôl eu traed y sangwn mwy.
2 Cawn weld yr addfwyn Oen,
Fu farw ar y bryn,
Yn medi ffrwyth ei boen
Yn hyfryd y pryd hyn;
Bydd myrdd heb rif yn canu 'nghyd
I'r Hwn fu farw dros y byd.
—William Williams, Pantycelyn
663[2]Diogelwch y Saint yng Nghrist.
66. 84. D.
1 AM fod fy Iesu'n fyw,
Byw hefyd fydd ei saint;
Er gorfod dioddef poen a briw,
Mawr yw eu braint:
Bydd melys lanio draw,
'N ôl bod o don i don;
Ac mi rof ffárwel maes o law
I'r ddaear hon.
2 Ac yna gwyn fy myd,
Tu draw i'r byd a'r bedd:
Caf yno fyw dan foli o hyd
Mewn hawddfyd hedd;
Yng nghwmni'r nefol Oen,
Heb sôn am bechod mwy,
Ond canu am ei ddirfawr boen
Byth gyda hwy.
—John Thomas, Rhaeadr