Am fod fy Iesu'n fyw
← Mae lluoedd maith ymlaen | Am fod fy Iesu'n fyw gan John Thomas, Rhaeadr |
O! Dduw, rho im dy hedd → |
663[1]Diogelwch y Saint yng Nghrist.
66. 84. D.
1 AM fod fy Iesu'n fyw,
Byw hefyd fydd ei saint;
Er gorfod dioddef poen a briw,
Mawr yw eu braint:
Bydd melys lanio draw,
'N ôl bod o don i don;
Ac mi rof ffárwel maes o law
I'r ddaear hon.
2 Ac yna gwyn fy myd,
Tu draw i'r byd a'r bedd:
Caf yno fyw dan foli o hyd
Mewn hawddfyd hedd;
Yng nghwmni'r nefol Oen,
Heb sôn am bechod mwy,
Ond canu am ei ddirfawr boen
Byth gyda hwy.
—John Thomas, Rhaeadr
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 663, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930