O! Dduw, rho im dy hedd

Am fod fy Iesu'n fyw O! Dduw, rho im dy hedd

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Ti, Farnwr byw a meirw

664[1]Heddwch Duw yn concro Angau.
66. 86. 86. 886.

O! DDUW, rho im dy hedd,
A golwg ar dy wedd,
A maddau'n awr fy meiau mawr,
Cyn elwy' i lawr i'r bedd:
Ond im gael hyn, nid ofna'i 'r glyn,
Na cholyn angau'n hwy;
Dof yn dy law i'r ochor draw,
Heb friw na braw, ryw ddydd a ddaw,
Uwchlaw pob loes a chlwy'.

—Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 664, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930