Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias/Marwnad John Elias

Rhagymadrodd Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias

gan William Williams, Talgarth

Englynion

MARWNAD.

1 BETH yw y newyddion glywaf,
Yn ehedeg draw o bell?
A yw'n tadau yn myn'd adref,
Fry i'r etifeddiaeth well?
Fy nhad, fy nhad, ai ti ddiangodd
At dy anwyl Briod glân,
I blith seintiau ac angylion,
'Nawr i seinio'r nefol gân?

2 Ai rhaid marw gwas mor enwog,
ELIAS anwyl, draw o Fôn?
A'i roi obry yn y ddaear,
Fel na chlywai mwy yn son
Am yr iachawdwriaeth rasol,
Doniau arfaeth fawr y nen;
Ac am Iesu croeshoeliedig,
'R hwn fu farw ar y pren?

3 Rhaid, oblegid darfu iddo,
Medd ei Arglwydd mawr yn llyn,
Orphen ei ddiwrnod gweithio,
Aeth i orphwys lawr i'r glyn:
Daeth yr awr, a daeth y fynyd,
Benderfynodd arfaeth nef,
Idd ei alw oddiwrth ei lafur,
'Mewn i'w gartref ato ef.

4 Yn Mehefin, ar yr wythfed,
Rhoddodd in' ffarwel yn lân;
Deunaw cant, ac un a deugain,
Ydoedd hon o'n Harglwydd glân,

Yn y flwyddyn wyth a thr'ugain
O'i oed yma ar y llawr;
Hanner canrif bu'n pregethu,
Onid pedair, yma'n awr.

5 Y pymthegfed, rhowd i orwedd,
Draw yn mynwent Llan-y-faes,
'N ymyl ei hen gyfaill anwyl,
Loyd, Beaumares, enwog was :
Jonathan a Dafydd oeddynt,
Cu ac anwyl, yr un wedd:
Yn eu hangau nis gwahanwyd,
Yma, na thu draw i'r bedd.

6 'Roedd llu liaws yn ei hebrwng
Tua'i wely hir y bedd;
Llu o weinidogion enwog,
A meddygon yr un wedd:
Hanner cant o wŷr cerbydau,
A'r gwŷr meirch yn ddeucant llawn;
Llu yn ddeng-mil, torf aruthrol,
Oll yn dangos parch mawr iawn.

7 Deued Homer, deued Virgil,
Deued Milton,—y gwir feirdd;
Deued Williams, Pant-y-celyn;
Deuent oll â'u dôniau heirdd;
Plethent a chordeddent hefyd,
Eu galluoedd oll yn un,
I fynegi doniau'r nefoedd,
Roddwyd ar yr anwyl ddyn.

8 Deffro f'awen, deffro'n fuan,
Cân alarnad ar y llawr,
Am yr enwog, anwyl, anwyl
Ddyn, ar furiau Seion fawr:
Seraph tanllyd, goleu, dysclaer,
Yn ehedeg yn y nef,
Er pan gododd gras ef allan
'N weithiwr yn ei winllan ef.


9 Cynysgaeddwyd yn rhyfeddol
Ef a doniau nef yn llawn,
Fel nad yn gyffredin clywid
Neb a'r fath hynodol ddawn;
Cododd allan fel rhyw angel,
Goleu fry yn entrych nen;
Yno hefyd ca'dd ei gadw,
Hyd nes crymodd yma'i ben.

10 Yn Nghaernarfon fawr y codwyd
'R enwog was, trwy ras ein Duw,
Draw yn ymyl tref Pwllheli,
Lle bu ar y cynta'n byw;
Ond yn mhen ychydig gwelaf
Ef, yn croesi draw i Fôn,
Ac yn bloeddio 'rhyd yr ynys,
Fywyd trwy haeddiannau'r O'n.

11 Byddai weithiau yn taranu
Oddiar Seinai fellt a thân,
A chalonau adamantaidd
Yn cael eu dryllio'n chwilfriw mân:
Yn y cyfwng cyfyng caled,
Pan ar l'wgu b'ai rhai hyn,
Mewn mynydyn gwnai droi'u golwg
Draw i ben Calfaria fryn.

12 Bloeddiai, nes dadseiniai'r werin,
Gyda rhyw nefolaidd ddawn,
Am eu cadw, am eu hachub,
Trwy haeddiannau'r dwyfol iawn:
Gweinidogaeth y Glân Ysbryd
Fyddai gyda'i eiriau ef,
Nes dadseiniai'r bryniau oesol,
Yma'n aml, gyda'i lef.

13 Weithiau byddwn mewn petrusdod,
P'un ai John a fyddai ef,
Neu ryw Uriel, neu ryw Gabriel,
'Nawr a glywn yn codi'i lef;

Na nid John, ac na nid Gabriel,
Ydwyt, ond mi ddywedaf pwy,—
Rhyw Elias ar ben Carmel,
Draw yn rhanu'r dorf yn ddwy.

14 Byddai'r dorf yn gwaeddi allan,
'R Arglwydd Ior, efe sy Dduw;
Ar ei ol ef yr awn ninau
Bellach, tra y b'om ni byw :
Duw Israel a wasanaethwn,
Ef addolwn tra'n y byd,
Oblegid aeth ef a'n calonau,
Ac yn gwbl aeth a'n bryd.

15 Llestr ydoedd yn llawn trysor,
A neullduodd arfaeth nef
I gyhoeddi, a mynegu
Yma ei holl gynghor ef;
Gyda rhyw eglurder hynod
Gwnai ef hyny ini gyd,
Yma i'r tyrfaoedd filoedd,
Fai'n ei wrandaw ef o hyd.

16 Dygai allan o drysorau,
Y Cyfammod gras yn llawn,
Ini bethau hen a newydd,
Sydd o ddyfais ddwyfol ddawn:
Iachus oedd ei ymadroddion
Am athrawiaeth gras ein Duw;
Cadarn, a diysgog hefyd,
Cadwodd ati tra bu byw.

17 'Roedd ef genym i'n blaenori
Yma yn y fyddin fawr;
Ni oddefai in', fel Aaron,
Addoli'r llo am fynyd awr;
Ond fe allai byddai weithiau,
Ef, fel Moses, yn llawn tân,
Pan y torodd ef y llechau
Y pryd hyny'n ddrylliau mân.


18 Ond nid byth y byddai hyny,
Gyda'i enw ef ei hun,
Ond gogoniant Duw y nefoedd,
Fyddai gan yr anwyl ddyn:
Zel Phineas ydoedd ynddo,
Tra bu yma yn y byd,
Ac eiddigedd dros ei Feistr
Oedd i'w ganfod ynddo y'nghyd.

19 Ysbryd Paul, nid rhagrith Pedr,[1]
Fyddai ynddo gyda'r gwaith;
Can's dywedai, yn yr wyneb,
Wrth y beius am ei waith:
Sel dros dŷ ei Dad oedd ynddo,
Felly'n para dros ei oes;
Er bod saethyddion wrtho'n chwerw,
Cryf ei fwa ef arhoes.

20 Teithio wnaeth ef Dde a Gogledd,
Gyda gwaith ei Arglwydd glân,
Trwy rew, eira, gwres, ac oerni,
Nes ein gadaw yma'n lân:
Nid rhaid i'm betrusaw dywedyd,
Na lafuriodd mwy nag ef,
Er pan gyntaf t'rawodd allan
Gyda gwaith yr Arglwydd nef.

21 Byddai i dyrfaoedd mawrion
Yn cyhoeddi'n groch i ma's,
Dwfn godwm gaed yn Eden,
Ac anfeidrol rinwedd gras;
Trueni dyn, a gras y nefoedd,
A olrheiniai'n ddysclaer iawn,
Nes b'ai pawb o'r dorf yn synu
Wrth ei ddigyffelyb ddawn.

22 'Roedd hyawdledd Demosthenes,
Wedi ei wau â gras y nef;
Cysegrodd yntau hyny'n gwbl
Idd ei glod mynegol ef:

Ni b'ai byth ryw dyb chwyddedig,
Uchelfrydig, ynddo'n byw;
Ca'dd ei gadw'n ostyngedig,
Gan rinweddau gras fy Nuw

23 Cristion hardd, a gŵr profedig,
Ydoedd yma 'rhyd ei oes;
Dyn-duw anwyl, gŵr dysymĺ,
Dyma'n gwbl oedd ei foes:
Pwy fel fe yn gwrando'i frodyr,
Pwy fel fe o dan y gair;
Byddai ef yn gwrando'r oedfa,
Fel y dywedir in' am Fair.

24 P'un ai yn y pulpud fyddai,
Neu o danodd ar y llawr,
Mwyaf oll a fyddai yn mhob-lle,
Pa le rhoddai'i droed i lawr:
Pwy yn daerach mewn gweddiau,
Pwy'n ffyddlonach nag efe,
Gyda gwaith ei Arglwydd nefol,
Tra bu yma îs y ne'.

25 Pwy dros y Gymdeithas Feiblaidd
Yn fwy selog ar y llawr?
Nid oedd 'nol i Charles o'r Bala,
Richards (o Dregaron) fawr;
'Chwaith yr enwog Charles, Gaerfyrddin,
Loyd, Beaumares, ffyddlon ŵr;
'R enwog Ebenezer Morris,
Nag oedd ef yn ddigon siwr.

26 Pwy dros y Gymdeithas Dramor,
Fawr genhadol nag efe?
Pwy dros y Sabothawl Ysgol
Yn fwy ffyddlon dan y ne'?
Pwy dros y Gymdeithas enwog,
Y Traethodau yn un man?
Pwy'n fwy bywiog, pwy'n fwy selog,
Yma'n gweithio ar eu rhan?


27 Pwy o blaid Cymdeithas Dirwest,
Na'n ELIAS anwyl ni?
Mi ofynaf i'r enwogion,
Rees, o Lerpwl, ai chwychwi?
Neu ai chwi, yr enwog Richards,
Abergwain, 'n awr dywedwch in'?
Neu ai chwi, yr anwyl Havard,
O Frycheiniog fach, yn llyn?

28 Neu ai chwi, Jones o Lanllyfni,
Roberts draw yn Amlwch, Mon?
Na, nid Morris o Dy Ddewi,
Gwn y gwnaiff ef dewi son.
Nid chwychwi ai 'e Elias,
O Langammarch, gyda ni?
Na Hughes anwyl, o Bontrobert,
Er eich hegni gyda hi.

29 Ai chwychwi, Jones, Aberystwyth,
Neu Evans o Ton'refail draw?
Neu rhyw Walters, Ystradgynlais,
Dywedwch i mi yn ddifraw?
F'allai mai chwychwi, serch hynny,
Hymphreys, Dyffryn, oedd y dyn;
Neu rhyw enwog Edwards, Bala,
Rho'wch i'm glywed 'nawr

30 Mi ofynwn etto i ragor pa un.
O'r ffyddloniaid dan y nef,
Pe gwybyddwn fod yn rhyw le,
Ryw un ag oedd fwy nag ef;
Nag o'wn i, medd Williams, Lerpwl,
Nag o'wn i, medd Howels dda,
Nag o'wn i, medd Edwards, Wyddgrug,
Er gwrthsefyll yr hen bla.

31 Nag o'em ni, medd pawb yn un-llais,
Nag o'em ni, medd pawb yn un;
Ond er hynny gwnawn ein goreu,
Gyda gwaith ein Harglwydd cun;

Ond yr oeddym, bawb yn gryno,
Oll yn rhoddi iddo'r bla’n;
Can's fe'i llanwyd yn rhyfeddol
A rhyw nefol, rasol dân.

32 O! gan hyny, bu'm bron gofyn,
'Nawr yn gynnil i fy Nhad,
Pa'm cymmeraist ŵr mor enwog
Yma, oddiar faes y gwa'd?
Gŵr yn medru trin ei arfau,
Yma'n daclus yn ei ddydd;
Gwr hynodol, doeth, rhinweddol,
'Nawr wedi ymadaw sydd.

33 Mwy nis cawn ei weled yma,
Yn y Gymdeithasiad fawr;
Ofer i mi mwy i chwilio,
'M dano'n un-lle ar y llawr;
Ofer i mi i chwilio'm dano
'N Ler'pwl nag yn Llundain fawr;
'N nhref Manceinion na Llangefni,
Mae ef wedi gado'r llawr.

34 Yn Bodedyrn a Llanrhuddlad,
Amlwch a Chaergybi, Mon,
Yn Beaumares, ac yn Cemes,
Dywedodd lawer am yr O'n:
Ai nid tybed, dywedwch wrthyf,
Medd dychymmyg i mi'n siwr,
Pe olrheiniwn fryniau, pantau,
Na chawn ef tu yma i'r dwr.

35 Na, medd rhyw un o'r angylion,
Nid yw yna gyda chwi;
Ond mi ddywedaf yn glir wrthych,
Ei fod yma, gyda ni.
'Roeddwn I yn un o'r teulu,
Yn y cwm'ni nefol glan,
Yn dwyn adref y gwas enwog,
Fry i'r nef, mewn cerbyd tân.


36 Darfu in, wrth gael commisiwn,
'Nawr i'w hol i'r nefol wlad,
Ddeall mai rhyw ail Elias,
Ydoedd, olchwyd yn y gwa'd;
'Roeddym yn gerbydau tanllyd,
Gyda rhyw rhyfeddol frys,
'N dwyn adre'i enaid canaid,
Y tu fewn i'r nefol lys.

37 Y mae wedi dechreu's dyddiau
Ar yr anthem, cân yr O'n;
Tarawodd ar y tannau'n hwylus,
Glywsoch chwi ef yna'n son.
Gras yr arfaeth, grym Cyfammod,
Yn haeddiannau dwyfol Iawn,
Roddwyd drosto ar Galfaria,
Yw ei gân ef yma'n llawn.

38 Nid oes genym ond dystewi,
A galaru yma yn nghyd;
Colled i ni oedd ei golli,
Fe ga'dd ennill yr un pryd.
Gwisg dy alar Gymru hawddgar,
Gwisg dy alar ynys Môn;
Ac o de wch i gydalaru
Wrth fy mod am dano'n son.

39 Apostol Iesu, gwas yr Arglwydd,
Cenad o Ladmerydd oedd,
Gwasanaethwr pur, difefl,
Yn ein plith heb ball ar go'dd;
Un o weinidogion cymmwys
Newydd Destament oedd ef;
Ac am hynny boed yn gryno,
Y clod i gyd i ras y nef.

40 Gras a'i cododd ar y cyntaf,
O bydew llygredigaeth cas,
Gras a'i daliodd yma'n gwbl,
Flwyddau meithion ar y maes;

Gras a roddodd arno'r harddwch,
Gras a'i daliodd yn y byd;
Ac o ras ca'dd ei goroni
Heddyw yn y nefol fyd.

41 Mrs. Elias, hawddgar dirion,
Na rwgnechwch tra'n y byd,
Ond dymunwch ras yr Arglwydd,
Cymmorth ydyw nerth mewn pryd.
Chwithau, 'i holl berthynasau hawddgar,
Dymunwch nerth yr Arglwydd Ion,
Am eich golchi, am eich canu,
Yn rhinweddau gwaed yr O'n.

42 'Nawr wrth dewi a rhoi fynu,
Dymunwn etto am i Dduw
Godi Thesbiaid, gwir wroniaid,
Gyda'i waith nefolaidd gwiw.
Gwir genhadau goleu cedyrn
Yma ini îs y nen,
Yw dymuniad y caniedydd,
Felly byddo byth. Amen.

Nodiadau

golygu
  1. Gal. ii. 11-14.