Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias/Rhagymadrodd

Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias

gan William Williams, Talgarth

Marwnad John Elias

RHAGYMADRODD.


NID oedd genyf yr un bwriad am argraffu y llinellau canlynol wrth eu cyfansoddi, ond yn unig gollwng allan ffrwd galar ar ol un ag oeddwn yn ei garu fel fy enaid fy hun ond ar ddymuniad lluaws am i mi eu hargraffu, ac ar ddymuniad a thrwy gydsyniad y gŵr parchus yr ymddiriedodd ein hanwył frawd ymadawedig ofal ei holl ysgrifeniadau, wele hi at eich gwasanaeth, am wrthddrych nad ymddangosodd yn Nghymru ei fwy yn y weinidogaeth er dyddiau yr apostolion. Ond gan fod Bywgraffiad o hono yn dyfod allan o'r wasg, a chan y ceir hyspysrwydd am dano yn hwnw, terfynaf yn bresenol trwy daflu yr hatling hon i drysorfa ei goffadwriaeth, gan ddymunaw ar i Dduw Elias dywallt deuparth ei Ysbryd ar ddegau etto yn Nghymru.

W. W.


[Entered at Stationers' Hall.]


Nodiadau

golygu