Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw

Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw

gan William Williams, Pantycelyn

O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

51[1] Duw yn Noddfa a Nerth.
M. C.


1.MEWN cyfyngderau bydd yn Dduw,
Nid wyf ond gwyw a gwan;
Nid oes ond gallu mawr y nen
A ddeil fy mhen i'r lan.


2.Ni fedda' i mewn nac o'r tu maes
Ond nerthol ras y Nef
Yn erbyn pob tymhestloedd llym,
A'r storom gadarn gref.

3.Cysurwch fi, afonydd pur,
Rhedegog ddyfroedd byw,
Sy'n tarddu o dan riniog cu
Sancteiddiaf dŷ fy Nuw.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 51, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930