O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt
← Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw | O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt gan Isaac Watts wedi'i gyfieithu gan William Owen Evans |
O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
52[1] Duw yn Nodded.
M. C.
1.O! DDUW, ein nerth mewn oesoedd gynt,
Ein gobaith wyt o hyd;
Ein lloches rhag ystormus wynt,
A'n bythol gartref clyd.
2.Dan gysgod dy orseddfainc Di
Cawn drigo'n dawel byth;
Digonol yw dy fraich i ni;
Fe'n ceidw yn ddi-lyth.
3.Cyn trefnu'r bryniau uwch y lli,
Cyn llunio llwch y byd,
O dragwyddoldeb Duw wyt Ti,
Parhei yr un o hyd.
4.Yn d'olwg Di daw oesoedd maith
Fel hwyrddydd byr i ben;
Fel gwyliadwriaeth nos mae'u taith,
Cyn codi haul y nen.
5.Mae prysur lwythau'n daear ni,
A'u llafur oll ynghyd,
Yn myned heibio gyda'r lli
I fôr tragwyddol fyd.
6.Dwg amser, fel llifeiriant cry',
Ei blant i gyd i lawr;
Ehedant ymaith fel y ffy
Y breuddwyd gyda'r wawr.
6.O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd fu,
Ein gobaith am a ddaw,
Bydd inni yma'n noddfa gu,
A chartref bythol draw.
Isaac Watts, cyf. William Owen Evans
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 52, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930