Molwch yr Arglwydd, cans da yw

Fy enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn Molwch yr Arglwydd, cans da yw

gan Edmwnd Prys

Clodforaf fi fy Arglwydd Iôn 2
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

14[1] SALM CVII. 1, 2, 22.
M. S.

1 MOLWCH yr Arglwydd, cans da yw,
Moliennwch Dduw ein Llywydd;
Oblegid ei drugaredd fry
A bery yn dragywydd.

2 Y gwaredigion canent fawl,
I Dduw gerdd nodawl gyson:
Y sawl achubwyd, caned hyn,
O law y gelyn creulon.

3 Aberthant hefyd aberth mawl
I'w ogoneddawl fawredd;
Mynegi a wnânt ei waith a'i wyrth
Yn ei byrth mewn gorfoledd.

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 14, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930