Fy enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn

Mi ymddiriedais ynot, Ner Fy enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn

gan Edmwnd Prys

Molwch yr Arglwydd, cans da yw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

13[1] SALM CIII. 1-4, 11-13.
M. S.

1 FY enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn,
A Chwbl o'm heigion ynof;
Fy enaid, n'ad fawl f'Arglwydd nef,
Na'i ddoniau Ef yn angof.

2 Yr Hwn sy'n maddau dy holl ddrwg,
Yr Hwn a'th ddwg o'th lesgedd ;
Yr Hwn a weryd d'oes yn llon,
Drwy goron o'i drugaredd.

3 Cyhyd ag yw'r ffurfafen fawr
Oddi ar y llawr o uchder,
Cymaint i'r rhai a'i hofnant Ef,
Fydd nawdd Duw nef bob amser.


4 Os pell yw'r dwyrain olau hin
Oddi wrth orllewin fachlud,
Cyn belled ein holl bechod llym
Oddi wrthym Ef a'i symud.

5 Ac fel y bydd nawdd, serch, a chwant
Tad da i'w blant naturiol,
Felly cawn serch ein Tad o'r nef,
Os ofnwn Ef yn dduwiol.

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 13, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930