Na foed im feddwl, ddydd na nos

Ni all angylion nef y nef Na foed im feddwl, ddydd na nos

gan William Williams, Pantycelyn

Ni welodd llygad dyn erioed
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

223[1] Gorsedd Gras ar Galfaria
888. 888.

1 NA foed im feddwl, ddydd na nos,
Ond cariad perffaith angau'r groes;
Hwn alwaf mwy yn orsedd gras:

Ar Galfari mae mainc y nef,
Yn agos at ei groesbren Ef;
Oddi yno rhoddir hedd i maes.

2 Boed oesoedd meithion, fwy na mwy,
Heb rif, heb ddarfod arnynt hwy,
I ganu am ei ddirfawr boen:
Na thawed tafod o un rhyw,
Na dim o dan y nef sy'n byw,
A sôn am gonewest addfwyn Oen.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 223, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930