Ni welodd llygad dyn erioed

Na foed im feddwl, ddydd na nos Ni welodd llygad dyn erioed

gan William Williams, Pantycelyn

Gwnaed concwest ar Galfaria fryn

224[1] Hawddgarwch Crist
888. 888.

1 NI welodd llygad dyn erioed,
Ni chlywodd clust o dan y rhod
Am neb cyffelyb iddo Ef:
O! Rosyn Saron hardd ei liw:
Pwy ddyd i maes rinweddau 'Nuw?
Efe yw bywyd nef y nef.

2 Fe ddaw diwrnod-doed pan ddêl,
A'r llygaid yma'u hun a'i gwêl,
Pan ymddangoso'i fawredd Ef,
Mewn rhwysg a harddwch, parch a bri,
Ymhlith cwmpeini aneirif ri'
Fydd yn rhyfeddod nef y nef.

3 O! f'enaid, edrych arno'n awr,
Yn llanw'r nef, yn llanw'r llawr,
Yn holl ogoniant dŵr a thir;
Nid oes, ni fu erioed, ni ddaw,
O'r dwyrain i'r gorllewin draw,
Gyffelyb i'm Hanwylyd pur.

4 Mi garaf fy Anwylyd mwy,
Ddioddefodd trosof farwol glwy',
Agorodd ffynnon loyw fyw;

I olchi'r holl archollion wnaed
Gan bechod cas, o'm pen i'm traed,
Y dyfroedd dardd dan groes fy Nuw.


William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 224, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930