Nansi'r Dditectif/Ar ol y Cloc
← Ymweled â'r Morusiaid | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Mewn Perygl → |
Yr oedd dyn trwm yr olwg arno yn cerdded i fyny at y tŷ a'i gap wedi
ei dynnu i lawr dros ei lygaid.
Gweler tudalen 83
PENNOD XII
AR OL Y CLOC
AR y ffordd adref y sylweddolodd Nansi'n hollol yr hyn amlygodd Pegi iddi. Yr oedd y cloc yn y byngalo ar lan Llyn y Fedwen. Yr oedd gan amryw o drigolion Trefaes hafotai ar lan y llyn. Aent yno dros bob gŵyl bron, yn enwedig y Pasg a'r Sulgwyn, a thros wyliau'r haf. Synnai Nansi erbyn iddi feddwl na bai'r Morusiaid yno hefyd. "Efallai mai yr ewyllys sydd yn eu poeni. Efallai na theimlant yn ddiogel heb ryw sicrwydd amdani."
Ond yr hyn a barai gysur i Nansi oedd y ffaith fod gwersyll yr Urdd eleni hefyd ar lan Llyn y Fedwen. Yr oedd Syr William Elffin yn garedig wedi rhoddi ei ganiatâd i wersyllu yn ei barc, ymhen uchaf y llyn, a llai na phedair milltir oddi yno, yn y pen isaf yr oedd y drefedigaeth fechan o hafotai.
Nid oedd Nansi erioed wedi bod yn y llecyn o'r blaen. Gwell bob amser fyddai ganddi hi a'i thad dreulio eu gwyliau ar lan y môr. Ni wyddai pa un o'r hafotai berthynai i'r Morusiaid, ond gwyddai'n dda y gallai yn hawdd ddod o hyd iddo, a hithau yn gwersyllu mor agos. Ac unwaith y canfyddai'r bwthyn, yr oedd yn benderfynol y gwelsai'r cloc.
Nid oedd awydd yn Nansi rywfodd i ddweud dim am y cloc wrth ei thad. Yr oedd am wneud yn sicr o bopeth i ddechrau ac am beri syndod iddo ar y diwedd os y gallai. Nid oedd raid iddi wrth esgus am fynd i Lyn y Fedwen. Gan mai dydd Iau ydoedd, yr oedd yn hwylus iddi i drefnu i fyned gyda'r genethod y Sadwrn dilynol.
Y noson honno, wrth y bwrdd swper, ebe Nansi,
"Nhad, byddaf yn mynd i wersyll yr Urdd ddydd Sadwrn. Bydd arnaf eisiau siopa ychydig yfory." Dyna ffordd Nansi o ddweud wrth ei thad fod arni angen pres.
"Mae'n dda gennyf eich bod yn mynd. Nid ydych wedi ymddangos yn rhy dda yn ddiweddar, a bydd awyr iach y bryniau yn lles i chwi."
Bore drannoeth aeth Nansi i orffen ei siopa. Prynnodd ddefnydd er mwyn mynd ag ef i Besi a Glenys fel yr addawodd. Aeth yno atynt yn y prynhawn. Cafodd y ddwy i mewn ac mewn penbleth amlwg. Yr oedd Glenys mewn profedigaeth. Yr oedd rhywbeth yn difa ei chywion ieir. Ac ar ben y cwbl yr oedd gwaith gwnïo i Besi yn brin.
"O na bai f'ewythr Joseff wedi cofio amdanom,' gofidiai Besi, "a glywsoch chwi rywbeth ymhellach am yr ewyllys, Nansi?"
"Dim gwerth ei adrodd," atebai Nansi, gan droi y cwestiwn o'r neilltu, "ond yr wyf yn dal i obeithio."
"Byddaf yn meddwl weithiau nad yw'n werth inni obeithio," meddai Glenys.
Trodd Nansi'r stori. "Deuthum â'r defnydd i chwi ei wneud yn ffrog imi," meddai.
"O diolch i chwi," meddai Besi yn llawen, "yr wyf mor falch o gael rhywbeth i'w wneud.
"Hoffwn gael talu yn awr," ychwanegai Nansi, "yr wyf yn mynd i wersyll yr Urdd yfory, ac efallai na chaf gyfle i alw am ysbaid eto."
"Dim talu nes gorffen y gwaith," atebai Besi'n benderfynol.
Nansi ddigalon oedd yn troi yn ôl i Drefaes. "O na chawn afael ar y dyddlyfr yn yr hen gloc," meddai. Cododd ei chalon wrth feddwl am trannoeth.
Deg o enethod Trefaes oedd yn mynd i wersyll yr Urdd y tro hwn. Aent gyda 'bus a golygai daith o ryw bymtheg milltir i groesffordd Pen y Llyn. Yr oedd gwaith milltir o gerdded i'r gwersyll ar ôl hynny. Ni fu erioed ddeg geneth hapusach yn cychwyn i unlle, ac yn sŵn yr holi a'r ateb a'r chwerthin a'r hwyl buan iawn y daethant i groesffordd Pen y Llyn. Gadawsant y modur yn llawen a chyn hir daethant i olwg y gwersyll. Gwelent rhwng y coed uchel resi o bebyll gwynion, a thu hwnt iddynt y llyn fel ysmotyn glas yn y pellter.
Wedi cyrraedd y gwersyll a setlo i lawr, cafodd Nansi a Rona gyfle am yr ymddiddan oedd y ddwy yn edrych ymlaen ato. Soniodd Nansi fel yr oedd wedi gwerthu tocynau Rona i'r Morusiaid, a rhoddodd y papur punt yn ei llaw.
"Bobl annwyl, beth ddaeth drosto?" ebe Rona.
"Rhyw deimlad y carai ddangos ei hun a chael ei enw yn y newyddiadur," atebai Nansi'n sychlyd.
Yr oedd bwyd rhagorol yn y gwersyll fel arfer, a phan ddaeth yn amser cinio canfu Nansi bod min ar ei harchwaeth. Er hynny ni ymunodd â'r genethod y prynhawn hwnnw. Arhosodd yn ei phabell i gael heddwch i ystyried dros bethau.
Yr oedd Syr Elffin wedi gadael ei gwch ar lan y llyn at wasanaeth y genethod yn y gwersyll. Ar ôl cinio daeth y syniad i ben rhai ohonynt i fanteisio ar y cynnig, a threfnwyd mordaith fechan ar y llyn. Nid oedd gan Nansi yr un awydd i fyned gyda hwy. Teimlai y gwnâi cysgu fwy o les iddi.
Daeth Rona o rywle. "Nansi," meddai, "mae arnom flys mynd ar y cwch am dro cyn swper. Gwnewch eich hun yn barod i ddod gyda ni."
"Nid oes arnaf awydd dod, Ron, os esgusodwch fi heddiw."
"Nansi annwyl, beth sydd arnoch? Yn siwr nid ydych am golli cyfle i weld rhai o bobl Trefaes yn yr hafotai yna sydd ym mhen isaf y llyn.'
"Hafotai?" ebe Nansi. Gloywodd ei llygaid wrth gofio fod arni eisiau gwybod pa un oedd byngalo'r Morusiaid, a dyma gyfle rhagorol.
"Byddaf gyda chwi mewn dau funud, Ron," meddai yn frysiog. Yr oedd ei blinder wedi diflannu.
Chwech o enethod oedd yn y cwch a chymerwyd y rhwyfau gan ddwy ohonynt.
Fel y symudai'r cwch i ganol y llyn, credai Nansi na welodd erioed olygfa mor hardd. Machludai'r haul yn goch o'u golwg a thaflai ei belydrau olaf ar yr awyr uwch eu pennau a'r dŵr oddi tanynt. Edrychai ffenestri'r tai ar y lan yn dân coch. Pan oedd ar ymgolli yn hyfrytwch yr olygfa dygwyd hi'n ôl wrth gofio ei hamcan.
"Y mae gan deulu Gwen a Phegi Morus dŷ yma yn rhywle, onid oes?" gofynnai'n ddistaw i Rona.
"Oes, draw yr ochr arall. Awn heibio iddo yn y man," atebai hithau.
"Tybed a ydynt yno yn awr?"
"Na, nid ydynt wedi dod yma eleni am ryw reswm neu'i gilydd. Ond y mae rhywun yn edrych ar ei ôl iddynt.
Daliai Nansi i gwestiyno. "A ydyw yn anodd cyrraedd ato?" gofynnai drachefn.
"Nac ydyw. Mae'n hawdd i'w gyrraedd gyda'r cwch, ond y mae ffordd go faith wrth amgylchu'r llyn ar y lan."
Yr oedd gofyniadau Nansi yn dechrau deffro diddordeb Rona. "Paham eich bod mor awyddus i wybod cymaint am y Morusiaid, Nansi?" meddai. "Holasoch lawer arnaf y dydd o'r blaen hefyd."
"O," meddai Nansi'n gyflym, "nid oeddwn yn holi am ddim yn neilltuol. Gwyddoch nad ydynt yn rhyw gyfeillion mawr iawn i mi."
Ymhen ychydig daeth y cwch yn nes i lan y llyn. "Dacw hafoty'r Morusiaid, Nansi," ebe Rona, gan gyfeirio ei bys at adeilad sylweddol a safai heb fod ymhell o fin y dŵr.
Trodd Nansi i edrych arno yn iawn. Syllodd arno yn hir fel y gallai fod yn sicr o'i gofio pan fyddai eisiau. Rhoddodd ef yn ddiogel yn ei meddwl ar gyfer y dyfodol.