Nansi'r Dditectif/Mewn Perygl

Ar ol y Cloc Nansi'r Dditectif

gan Owain Llew Rowlands

Yng Ngafael Lladron

PENNOD XIII
MEWN PERYGL

WRTH ddychwelyd yn y cwch penderfynodd Nansi ynddi ei hun y dychwelai i hafoty'r Morusiaid trannoeth wrthi ei hunan. Yr oedd perygl iddynt ddyfod yno cyn iddi gael cyfle i ymweled â'r byngalo yn eu habsenoldeb. Cyn mynd i orffwys y noson honno dan gynfas dywedodd fwy nag unwaith mor flinedig yr oedd, a chymaint angen gorffwys a llonyddwch oedd arni. Ond yr oedd yn trefnu pethau heb gymryd cyfrif o Rona. Deffrôdd trannoeth a llond ei ffroenau o arogl pinwydd hyfryd yn gymysg ag arogl y borefwyd yn y gwersyll. Teimlai'n hynod fywiog wedi cysgu noson yn y babell. Ni wyddai Nansi ei bod yn cael profiad miloedd o filwyr yn y Rhyfel Mawr nad oes cwsg tebyg i gwsg dan gynfas.

Wedi bwyta'n sylweddol bu raid i Nansi gydymffurfio â threfniadau'r gwersyll. Er fod popeth mor rwydd a didrafferth ynddo gwelodd yn fuan fod yn rhaid syrthio i mewn â phob cynllun er budd pawb yn y gwersyll. Rhoddodd i fyny'r syniad o ymweled â hafoty'r Morusiaid ar unwaith. Gwelai ei bod yn anobeithiol os oedd am gymryd ei rhan fel aelod o'r gwersyll. Yr oedd rhywbeth i'w wneud a rhywle i fynd iddo drwy'r dydd. Erbyn nos yr oedd Nansi mor lluddedig fel mai prin y gallai gadw ei llygaid yn agored ac yr oedd yn falch iawn o weld ei gwely;

"Yfory," meddai cyn syrthio i drwmgwsg, "rhaid i mi gael cyfle i ymweled â byngalo'r Morusiaid."

Bore trannoeth, "trefn y dydd" oedd testun ymddiddan y bwrdd brecwast ar ei hyd. "Yr ydym i ddringo Moel y Fedwen heddiw," meddai Rona wrth Nansi, "a ydych yn barod i'r dasg?"

"Yn wir, Rona, carwn yn arw gael llonydd heddiw," atebai Nansi, "nid wyf yn teimlo yn dda iawn. Pe cawn orffwys ychydig credaf y buaswn lawer iawn yn well."

"Gresyn garw," ebe Rona, "gwn beth wnaf. Arhosaf yma gyda chwi.'

Yr oedd atebiad Rona yn hollol nodweddiadol ohoni. Pan oedd cyfeillgarwch yn y cwestiwn, rhoddai Rona bob amser ei chyfeilles yn gyntaf a hi ei hun yn ail.

"Dim o'r fath beth," meddai Nansi fel ergyd. "Ewch chwi gyda'r fintai. Byddaf fi yn hollol hapus yng nghyffiniau'r gwersyll am heddiw.

"Ie," ebe Rona, "ond nid wyf yn hoffi eich gweled chwi yn aros yn y———

"Byddaf fi yn hollol iawn, Rona," meddai Nansi, "os teimlaf yn well bydd yn hawdd iawn imi fynd ar y cwch ar y llyn am ychydig."

"Byddwch yn ofalus, Nansi. Cofiwch nad yw yn hawdd i un ei rwyfo.

"Cymeraf bob gofal, Rona. Ond, o ran hynny, efallai nad af o gwbl. Mae'n dibynnu yn union sut y teimlaf." Prin y gallai Nansi guddio ei hawydd i gael y genethod oddi ar y ffordd. Cymaint oedd ei phryder i adael y gwersyll fel y teimlai bron fod pob geneth am yr arafaf i gychwyn ar y dringo. O'r diwedd dyna'r fintai yn cychwyn.

"Edrychwch ar ôl eich hun," gwaeddai Rona dros ei hysgwydd fel y symudai'r genethod gyda'i gilydd o'r gwersyll.

Cyn gynted ag yr oeddynt o'r golwg, prysurodd Nansi i lawr at lan y llyn i'r fan lle rhwymid y cwch. Yr oedd yn gyfarwydd â rhwyfo. Yr oedd wedi dysgu trin cwch yn ystod ei gwyliau haf gyda'i thad y flwyddyn cynt. Bob tro yr elai i Gaerangor manteisiai ar y cyfle i fynd ar y môr mewn cwch rhwyfo. Ond nid oedd erioed wedi gorfod ymddiried ynddi ei hun gyda chwch rhwyfo ar lyn o'r blaen. Eisteddodd yn ofalus yng nghanol y cwch, a chan drefnu ei rhwyfau yn barod i'w dwylo, gwthiodd ef i'r dwfn. Gafaelodd yn y rhwyfau a dechreuodd dynnu'n araf am ganol y llyn. Yr oedd y llyn fel gwydr ac nid oedd gwmwl yn yr awyr. Nid oedd y rhwyfo ond fel pob rhwyfo arall. Anelodd yn syth am yr hafotai ymhen isaf y llyn.

"Gobeithio fod y gofalwr o gwmpas ac y caf siawns i edrych dros y byngalo," meddyliai.

Ond nid oedd Nansi i gyrraedd y lan draw y dydd hwnnw. Nid cynt oedd y geiriau o'i genau nag y collodd rwyf, a llithrodd y cwch yn gyflym oddi wrtho yn ei bwysau. Prin y medrai Nansi sylweddoli beth oedd wedi digwydd am ennyd.

"Beth a wnaf yn awr?" meddai yn uchel.

Yr oedd yn llithro'n araf yn nes i ganol y llyn, ymhellach ymhellach o'r gwersyll bob eiliad. Gwelai ei rhwyf ychydig o'i hôl. Ceisiodd ei gyrraedd â'r rhwyf arall. Cododd ar ei thraed a bu bron iddi a dymchwel y cwch a disgyn i'r dyfroedd.

Nid oedd yn anghyfarwydd a "scwlio," a cheisiodd wneud hynny â'r rhwyf oedd ganddi o starn y cwch. Ond buan iawn y daeth i ganfod mai ychydig o gynnydd wnai'r llestr y ffordd honno. "Nid oes dim i'w wneud ond gadael i'r cwch ddod i dir," meddai. "Gallaf ei rwymo a cherdded yn ôl i'r gwersyll.

Erbyn hyn yr oedd y cwch, drwy ryw ffrwd yn y llyn, gyferbyn â hafoty'r Morusiaid. Yr oedd yr adeilad wedi ei argraffu ei hun ar feddwl Nansi fel nad oedd yn bosibl iddi ei anghofio. Gwelai nad oedd mwg yn y simnau a theimlai'n ddig wrthi ei hun am fod mor ddiofal gyda'r rhwyf. Cofiodd am yr hen linell, "Rwy'n agos iawn ac eto 'mhell," ac ni allai lai na gwenu.

Daeth y syniad i nofio i'r lan iddi, ond nid oedd yn hoffi'r syniad o gerdded yn ôl i'r gwersyll yn ei dillad glybion, er dichon na welid hi gan neb. Yr oedd y cwch wedi arafu ei symudiad cryn lawer erbyn hyn, ac yr oedd awel ysgafn o ben isaf y llyn yn dechrau ei glosio i fyny'r dyffryn. Teimlai Nansi yn bur oer a digalon.

Edrychodd ar ei horiawr. Cafodd fraw pan ganfu iddi fod ar y dŵr am deirawr. Ni welai neb i weiddi arno a theimlai awydd cryf am fwyd.

"Dyma'r tro olaf i mi fentro mewn cwch ar fy mhen fy hun," ebe Nansi, "bydd yn amhosibl imi gael cyfle i alw yn y byngalo ar ôl heddiw. Nid oes dim allaf wneud ond hel esgus i fynd adre'n ôl ymhen diwrnod neu ddau. Digon o waith y daw'r Morusiaid yma cyn y Sadwrn. Nid oes ôl paratoi yma beth bynnag.

Tra'n synfyfyrio fel hyn trodd i edrych tua'r lan arall. Ac o graffu ar y dŵr gwelodd fod y rhwyf wedi dynesu cryn lawer ati. Yr oedd yr awel yn erbyn y llif ac yn gwthio'r cwch yn araf i fyny'r llyn.

"Pe medrwn gadw'r cwch yn ei unfan am ychydig deuai y rhwyf heibio iddo, ac yn ddigon agos imi afael ynddo.

Drwy ymdrech â'r rhwyf oedd yn aros iddi, llwyddodd Nansi i gadw'r cwch yn weddol lonydd. Ymhen ysbaid bu yn alluog i ymafael yn y rhwyf achosodd gymaint o bryder iddi.

"Mae'n rhy hwyr i fynd i unlle ond yn ôl i'r gwersyll," meddai. Rhwyfodd yn ofalus ar draws y llyn. Cymerodd ofal neilltuol na chollai mo'i rhwyf drachefn. Wrth rwymo'r cwch yn ei angorfa gwelodd y genethod yn dychwelyd i'r gwersyll o'u dringfa yn edrych yn lluddedig. "Buoch yn ddoeth iawn i beidio dod gyda ni," ebe Rona. "Yr ydym oll wedi blino'n enbyd." Ataliodd ei chyfarchiad yn sydyn. "Beth fuoch chwi'n ei wneud â chwi eich hun?" meddai, "mae golwg arnoch fel pe baech wedi bod drwy ddrain."

Adroddodd Nansi am ei hanffawd wrthi, heb amlygu dim o wir amcan y fordaith. Chwarddodd pawb yn galonnog a Nansi gyda hwynt fel yr adroddai ei helyntion. Ond er cymryd y peth mor ysgafn yr oedd Nansi yn wir siomedig i'w hymdrech fod mor aflwyddiannus.

Dyma ddiwrnod arall wedi ei wastraffu. Tybed a lwyddai i weled tu fewn i'r hafoty rhyw dro? Hyd yn hyn yr oedd rhwystrau wedi ei lluddias.

Nodiadau

golygu