Nansi'r Dditectif/Newyddion Pwysig

Diwrnod Digon Di-hwyl Nansi'r Dditectif

gan Owain Llew Rowlands

Dadleniad Abigail

PENNOD IX
NEWYDDION PWYSIG

"MAE'n rhaid mai hwn yw'r lle."

Yr oedd Nansi wedi dod i Benyberem gyda'r 'bus, ac wedi cyrraedd Tanybwlch. Bwthyn bychan digon diaddurn ydoedd, tebyg i ugeiniau o fythynod eraill ar lethrau bryniau Cymru. Yr oedd y muriau wedi eu gwyngalchu rhyw dro ond wedi eu diwyno gan y tywydd ers talm. Yr oedd yr ardd o flaen y tŷ wedi tyfu'n chwyn, a'r gwrych o'i chwmpas heb ei dwtio ers amser maith. Yr oedd y drws a'r ffenestri pydredig heb adnabod paent ers blynyddoedd.

"Nid yw'n edrych yn debyg bod neb yn byw yma, ac eto, mae'n rhaid mai hwn ydyw cartref Abigail Owen, ebe Nansi wrth ddilyn y llwybr gwyllt drwy'r ardd at y drws. "Os na chaf rywbeth i'm helpu yma, waeth i mi roi'r ymdrech i fyny.'

Curodd y drws. Arhosodd am ychydig a churodd drachefn. Yr oedd ar fin curo'r drydedd waith pan feddyliodd iddi glywed ryw symudiad tu fewn i'r tŷ. Onibai ei bod yn naturiol ddewr buasai wedi gadael y bwthyn unig a dychwelyd i'r dref. Ond nid llwfryn oedd Nansi. Curodd drachefn ar y drws, ac o'r diwedd clywai lais pell yn galw,

"Pwy sydd yna? Os mai crwydryn sydd yna, nid oes gennyf ddim i chwi. Os mai gwerthu yr ydych nid oes arnaf eisiau dim."

"Nid pedlar na chrwydryn sydd yma," ebe Nansi. "A gaf fi ddyfod i mewn. Geneth ieuanc ydwyf eisiau eich gweld."

Bu distawrwydd am ysbaid, ac yna atebodd y llais crynedig, "Ni fedraf agor y drws. Yr wyf wedi fy anafu ac ni allaf gerdded."

Arhosodd Nansi am ennyd a cheisiodd y drws. Nid oedd wedi ei gloi ac agorodd ef. Petrusodd ar y rhiniog am foment ac yna cerddodd i mewn. Y cyntaf peth y disgynnodd ei llygaid arno yn y gwyll oedd truanes yn gorwedd yn swp ar soffa. Llamodd cydymdeimlad parod Nansi i'w chalon ar unwaith. Yma yr oedd Abigail Owen, mewn hen siôl garpiog, a'i hwyneb curedig yn llawn poen. Trodd yr hen wraig ddau lygad pŵl ar yr eneth fel yr agoshai ati. Safodd Nansi uwch ei phen am ennyd.

"Nansi Puw ydwyf fi, ac yr wyf wedi dyfod i'ch helpu Miss Owen," meddai'n dyner.

Trodd Abigail yn boenus ar y soffa i'w gweled yn well, a daeth rhyw syndod plentynaidd i'w hwyneb.

"Wedi dyfod i fy helpu?" meddai, "ni feddyliais i erioed y deuai neb i ymholi am yr hen Abigail byth mwy."

"Arhoswch chwi am funud," meddai Nansi'n siriol. "Gadewch i mi'n gyntaf drefnu'r clustogau yna yn fwy esmwyth i chwi."

Symudodd Nansi yr hen wraig. Gwnaeth y gorau o'r gorchuddiau sâl oedd ar y soffa, a gosododd hi i orwedd lawer yn esmwythach nag yr oedd cynt.

"A fu'r meddyg yma yn eich gweld?" gofynnai Nansi. "Fu neb yma. Fu neb yn agos ataf," ebe Abigail gan ochneidio, "gorweddwn yma yn dyfalu pa bryd y deuai'r diwedd arnaf." Bu'r hen wraig yn cwynfan wrthi ei hun am ychydig. "Rwy'n mynd i oed," meddai, "ac ni byddaf byw yn hir eto

"Na, na," ebe Nansi, mor siriol ag y medrai, wrth weld bod yr hen wraig yn torri ei chalon, "Byddwch fyw flynyddoedd eto. Fedrwch chwi gerdded rhywfaint? A ydych chwi wedi torri eich clun?"

"Gallaf gerdded ychydig, ond nid heb boen dirfawr." "Felly nid yw eich clun wedi torri," ebe Nansi gyda gollyngdod. "Beth am eich ffêr. Nid oes gennych gadach arno. Gadewch i mi roi un i chwi."

"Y mae cadach gwyn yn y cwpwrdd yna," ebe Abigail wrthi, gan bwyntio i gornel yr ystafell.

"Ofnaf y bydd raid i chwi gael rhywbeth mwy na chadach; os yr ydych wedi ysigo eich ffêr dylid gofalu amdano yn briodol. Dylech gael meddyg ato a dweud y gwir."

"Nis gallaf fforddio meddyg," ebe'r hen wraig.

"Peidiwch poeni am hynny," ebe Nansi, "talaf fi am feddyg i chwi."

Ysgydwodd Abigail ei phen yn ystyfnig. "Na, diolch yn fawr i chwi, nid wyf yn barod i dderbyn cardod gan neb."

"Wel, os na fynnwch weled y meddyg, rhaid i mi fynd i lawr i'r dref i chwilio am ychydig bethau. Ond yn gyntaf, efallai y byddai'n well imi wneud cwpanaid o dê i chwi."

"Nid oes deilen o dê yn y tŷ," ebe Abigail.

"Felly af i mofyn peth. Beth arall sydd eisiau?"

"Popeth bron, ond nid oes gennyf y moddion i dalu amdanynt. Beth pe cawn dê a thorth o fara. Byddai hynny'n ddigon. Mae yna ychydig o bres yn y cwpan glas acw yn y cwpwrdd. Dyna hynny sydd gennyf.

"Byddaf yn ôl toc," ebe Nansi. Edrychodd o'i chwmpas i geisio cael syniad beth oedd angenrheidiol. Wrth chwilota yn y cwpwrdd gwelai bob llestr yn wâg oddi gerth ychydig siwgr a blawd. Nid oedd dim i'w fwyta yn y tŷ, dim tân, na dim cysur. Ychydig sylltau yn unig oedd yn y cwpan, a hynny oedd gan Abigail yn y byd mae'n debyg. Llithrodd Nansi allan yn ddistaw heb gyffwrdd â'r arian. Yr oedd wedi sylwi ar siop ar ei thaith o'r dref—siop wlad yn gwerthu popeth bron—rhyw hanner milltir i lawr y ffordd. Wedi cyrraedd yno prynodd ddigon o bopeth dybiai yn angenrheidiol i gyfarfod ag anghenion Abigail. Gresynnai na bai modd iddi gael meddyg at yr hen wraig, ond ofnai ei balchter. Cafodd hefyd yn y siop gorn o rwymyn a phiol o Olew Morris Evans at ffêr yr hen wraig. Yna prysurodd yn ôl at y bwthyn.

Mor fuan ag y gallai, gwnaeth dân a rhoddodd decellaid o ddwr arno. Aeth ati wedyn i baratoi bwyd, a gwnaeth Abigail yn gyfforddus. Molchodd hi yn lân a gofidiai ei gweld mor ddiymgeledd. Rhoddodd olew ar y mân ddoluriau oedd yn y golwg, ac wedi iro'r ffêr yn drwyadl, rhoddodd y rhwymyn yn dynn amdano.

"Yr wyf yn teimlo yn llawer iawn gwell yn barod," ebe Abigail yn llawn diolch. "Ni wn beth a wnawn onibai i chwi ddod pan ddaethoch."

Wrth fwynhau ychydig luniaeth dechreuodd Nansi adrodd ychydig o'i hanes wrth Abigail. Llonnodd llygaid yr hen wraig wrth siarad.

"Nid pawb fuasai'n helpu hen wraig dlawd fel myfi," meddai, "pe buasai Joseff Dafis yn fyw, buasai yn wahanol iawn arnaf."

"A oedd y Joseff Dafis yma yn garedig wrthych?" gofynnai Nansi. Nid oedd am amlygu gwir amcan ei hymweliad os gallai osgoi hynny. Credai, a gobeithiai y medrai gael yr hen wraig i siarad am Joseff Dafis heb godi gobeithion yn ei chalon, na sylweddolid byth o bosibl.

"Yr oedd Joseff yn selog am gofio amdanaf bob amser," ychwanegai Abigail. "Y mae'n rhaid ei fod wedi gadael peth imi yn ei ewyllys. Dywedodd ddegau o weithiau tra bu'n wael a minnau'n gofalu amdano, 'Cofiaf amdanat yn fy ewyllys, Abigail. Ni bydd byth yn edifar gennyt edrych ar fy ôl fel hyn'."

"Ac yna gadawodd y cwbl i'r Morusiaid," ebe Nansi, mewn ymdrech i gael yr hen wraig i barhau ei sgwrs.

"Yn ôl yr ewyllys gyntaf oedd hynny," ebe Abigail, "ond gwnaeth Joseff ewyllys arall ar ôl honno, beth bynnag ddaeth ohoni."

"A ydych yn berffaith sicr fod yna ewyllys arall?" gofynnai Nansi, braidd yn or-eiddgar, a gwelai fod llygaid Abigail arni ar unwaith.

'Wrth gwrs yr wyf yn sicr; cyn sicred a fy mod yn gorwedd yma'n awr. Oni welais hi â'm llygaid fy hun?" "Beth?" ochai Nansi, "gwelsoch yr ewyllys eich hun?"

Amneidiodd yr hen wraig ar i Nansi ddynesu ati. "Nid oes dim sicrach. Cofiwch ni welais beth oedd yn yr ewyllys. Un dydd daeth Joseff i mewn, ac eisteddodd yn y gadair siglo yna, a sylwais ar unwaith ei fod yn gynhyrfus. Yr oedd ganddo ddarn o bapur yn ei law. Abigail,' meddai, 'yr wyf wedi gwneud fy ewyllys. Yr wyf wedi twyllo'r twrneiod yna i gyd.' Dywedodd fel yr oedd wedi ei hysgrifennu ei hunan."

"Pa bryd oedd hyn?" gofynnai Nansi.

Arhoswch funud," atebai Abigail yn ystyriol, "nis gallaf gofio'r dyddiad yn hollol. Tua blwyddyn yn ôl, gallaswn gredu. Wrth ddangos yr ewyllys i mi yr oedd yn hawdd gweld y tybiai ei fod wedi gwneud gorchest fawr. Dywedodd yn eglur ei fod wedi darparu gogyfer â mi ynddi. "Wel, Joseff,' meddwn innau wrtho, 'a ydych yn sicr ei bod yn gyfreithiol?' 'Wrth gwrs, mae hi'n gyfreithiol,' meddai yntau, 'dywedodd twrne pur bwysig wrthyf ei bod yn hollol iawn ond cael tystion ohoni'.'

"Pwy ydoedd y tystion?" gofynnai Nansi, "a wyddoch chwi pwy oeddynt?"

"Na, ni ofynnais iddo, ac ni ddywedodd yntau wrthyf. Aeth allan o'r tŷ yma gan fwmian wrtho'i hun a chwerthin am ben rhywbeth oedd yn ei feddwl."

"Onid oes gennych ryw synied beth ddaeth o'r ewyllys?" holai Nansi'n obeithiol.

Gallaswn dybio iddo i chuddio yn rhywle. Cofiaf iddo ddweud rhywbeth am ei rhoi 'lle na chaiff neb mohoni ond drwy awdurdod cyfreithiol.' Ond yn wir, nid oes gennyf syniad yn y byd ymha le y gallai fod yn awr. Efallai iddo ei rhoi i ryw gyfreithiwr.

"Ai dyna'r oll a ddywedodd?" gofynnai Nansi'n dosturiol.

"Choeliaf fi byth na ddywedodd rywbeth arall, rhywbeth am yr hyn fwriadai wneud â'r ewyllys, ond ni fedraf yn fy myw gofio beth ydoedd."

"Teimlai Nansi bod datrys y broblem yn ymyl, ac ar yr un pryd yr oedd cyn belled ag erioed. Yn ddios yr oedd cyfrinach yr ewyllys gan Abigail Owen, ond ynghlô yn ei hymenydd. Efallai na fedrid byth ddatod y clo. Efallai na fedrai yr hen wraig byth gofio beth ddywedodd Joseff Dafis am yr ewyllys, oddi gerth i rywbeth anarferol gynhyrfu ei chof.

"Ceisiwch gofio,"crefai Nansi'n daer.

Yr oedd yn amlwg mor ymdrechgar ydoedd yr hen wraig i geisio cofio. Ond yr oll gafodd Nansi ydoedd ei gweld yn syrthio'n ôl ar y clustogau wedi llwyr ddiffygio. Yr oedd ei llygaid ynghau.

A'r foment honno, trawodd y cloc un,—dau,—tri. Ac ar y trydydd sŵn o'r hen gloc agorodd Abigail ei llygaid yn gynhyrfus, a daeth rhyw wedd ddieithr dros ei hwyneb. Am ennyd syllodd yn syth o'i blaen. Yna trodd i edrych ar y cloc ac ni thynnodd ei llygaid oddi arno.

Nodiadau

golygu