Nansi'r Dditectif/Diwrnod Digon Di-hwyl
← Ymchwiliadau Nansi | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Newyddion Pwysig → |
PENNOD VIII
DIWRNOD DIGON DI-HWYL
LLWYDDODD Nansi i ddal 'bus yn cyfeirio at Fur y Maen. Gallasai gerdded yn hwylus o'r fan honno (eglwys, gwesty ac un neu ddau o dai oedd yno), i gartref y ddwy chwaer.
"Gobeithio na chaf wlaw fel y tro o'r blaen," meddyliai wrth deithio ar y 'bus.
Ni bu'n hir cyn cyrraedd Mur y Maen. Disgynnodd o'r ''bus, ac ymlaen â hi heibio talcen yr eglwys i fyny'r bryn. Cyn hir daeth i olwg y ffermdy. Gwelai ef yn well y tro hwn, ac o gyfeiriad gwahanol. Meddyliai iddi ei weled yn fwy o adfail nag o'r blaen. Nid oedd ôl paent arno ac edrychai fel pe bron mynd â'i ben iddo. Gwelai'r ysgubor lle cafodd loches, a methai ddeall sut yn y byd y daliodd bwysau storm erioed.
"Pe bai gan Besi a Glenys arian, fe wnaent y lle yn daclus a thwt," meddai wrth nesáu at y tŷ.
Rhedai ieir a chywion dan ei thraed fel y croesai'r buarth. Aeth at ddrws y gegin a churodd. Ni chafodd ateb. Aeth heibio i'r talcen a churodd drachefn ar ddrws y ffrynt.
Chwiliodd o gwmpas y tŷ ond nid oedd golwg o'r ddwy chwaer yn unman. Trodd i gychwyn adref a theimlai braidd yn ddigalon. Yr oedd ei thaith yn ofer wedi'r cwbl, a'i gobaith hithau mor gryf cyn iddi gychwyn o swyddfa ei thad.
"Rhwystrau o bob cyfeiriad," meddai wrthi ei hun wrth fynd yn ôl am y ffordd, "dim ond anhawsterau o hyd i'w hwynebu."
"Helo, helo!" gwaeddai llais o draw.
Cyrhaeddodd y llais Nansi a hithau wedi myned drwy'r llidiart i'r ffordd. Trodd, a gwelodd y chwiorydd yn rhedeg tuag ati o gyfeiriad yr ysgubor. Glenys redodd gyntaf.
"Gwelsom chwi fel yr oeddych yn mynd oddi wrth y drws," ebe hi â'i gwynt yn ei dwrn, "ni fynnem er dim beidio bod yma i'ch croesawu."
"Buom yn hel mafon yn y coed," ychwanegai Besi, oedd erbyn hyn wedi cyrraedd, a daliai lestr yn llawn o fafon coch yn ei llaw.
"Ond edrychwch ar ein breichiau yn gripiadau i gyd," chwarddai Glenys, gan edrych ar ôl y mieri.
"Dowch i mewn i'r tŷ ac mi gawn y mafon i dê. Maent yn flasus iawn gyda siwgr a hufen."
"Ofnaf na fedraf aros i dê," atebai Nansi. "Deuthum i siarad â chwi am yr ewyllys."
"A oes newyddion da inni?" gofynnai Glenys yn obeithiol, "a ydym am gael peth o'r eiddo?"
"Nis gwn hynny eto," cyfaddefai Nansi, "hyd yma nid wyf wedi canfod dim newydd am yr ewyllys.'
Syrthiodd wynepryd Glenys, ond ceisiodd ei gorau guddio ei siom.
"Y mae arnom gymaint o angen arian," meddai. "Nid yw Besi wedi cael dillad newydd ers tair blynedd. Hi wna ein dillad o hen bethau yn y tŷ yma."
"Nid oeddym yn disgwyl gormod am arian ein 'hewythr' chwi wyddoch," ebe Besi'n frysiog, "nid oeddym yn berthynasau chwi gofiwch."
"Wel, prin yr oedd y Morusiaid ychwaith," ebe Glenys. "Cefndyr pell iawn oeddynt."
"Medrwn fyw yn iawn heb yr arian," meddai Besi yn dawel. "Yr ydym wedi llwyddo hebddynt yn iawn hyd yn hyn. Bydd popeth yn rhagorol gyda ni pan gaf fi ddigon o waith gwnïo.'
"Ie, ond i'r siop y mae pawb yn mynd i brynu dillad yn awr," ebe Glenys.
"Nid un o'r rhai hynny wyf fi," ebe Nansi, "gwell gennyf fi waith cartref o lawer. Wnewch chwi wnio i mi, Besi? Dyna oedd rhan o fy neges yma heddiw."
Goleuodd llygaid Besi â llawenydd. "Wnaf fi?" meddai, "yr wyf yn ddiolchgar am bob mymryn o waith.
"Nid wyf wedi bod yn ffodus iawn yn ystod y tri mis diwethaf yma. Nid wyf yn pryderu cymaint amdanaf fy hun, ond am Glen" a'i llais yn torri, "addewais i mam yr edrychwn ar ei hôl. Yr wyf yn mynd i boeni pan fethaf gadw fy addewid olaf iddi hi."
Rhedodd Glenys at ei chwaer a rhoddodd ei dwylo am ei gwddf yn gariadus.
"O Besi," meddai yn edifeiriol, "ddylaswn i ddim fod wedi dweud yr un gair am ein hangen."
"Ond dyna'r gwir."
"O, mi ddeuwn ymlaen yn iawn, Besi annwyl. Pe bai arian fy ieir i yn dod yn gyflymach. O, pam na fedr iâr ddodwy mwy nag un wy yn y dydd."
Gwenodd Besi ar ddigrifwch Glenys, ac i dorri ar yr awyrgylch bruddaidd, meddai Nansi,
"Prynnaf ddefnydd yn barod i chwi, a deuaf ag ef yma y tro nesaf gyda mi."
Nid oedd angen dilledyn arni, ond methai ganfod unrhyw ffordd arall i helpu'r genethod heb frifo eu teimladau. Gwyddai eu bod yn rhy falch i dderbyn swm o arian, heb gyfle i wneuthur rhywbeth amdano.
"Yn awr, yr wyf am ofyn ychydig yn ychwaneg o gwestiynau am Joseff Dafis," meddai Nansi wrthynt. "Yn gyntaf, a fyddai yn ymweled â rhai o'r perthynasau eraill heblaw y Morusiaid?"
"O byddai," atebai Glenys yn eiddgar. "Ymwelai ag amryw eraill yn aml."
"Cyn iddo fynd i fyw at y Morusiaid ymwelai â hwynt oll yn eu tro," ychwanegai Besi.
"A fedrwch chwi roddi enwau'r lleill i mi?"
"Wel, arhoswch funud. Dyna ei ddwy gyfnither, y ddwy Miss Harris. Hen ferched hynod garedig. Buont hwy yn rhyfeddol o ofalus o Joseff Dafis tra bu gyda hwynt. Ym Mhenyberem y maent hwy yn byw."
"Yna mae dau nai i Joseff Dafis," ebe Glenys, "yn byw mewn fferm i fyny ar y mynydd rhwng yma a Phenyberem. Enw'r fferm yw Dolgau. Yr oedd pawb yn credu y caent hwy ran o'r eiddo beth bynnag."
"Gallaf alw yn y ddau le felly ar un siwrnai," ebe Nansi. "Pe cychwynnwn yn awr, gallaswn ymweld â hwy, a chael y 'bus adref o Benyberem. Af yn awr, a gobeithio ar ôl siarad â'r perthynasau hyn y caf oleuni pellach ar bethau."
"Ofnaf mae pur anobeithiol ydyw arnom," meddai Besi, "mae'r Morusiaid yn rhy alluog i enethod fel ni."
"Yr unig beth sydd arnom eisiau, Besi, ydyw yr ewyllys. Unwaith y cawn honno, gall y Morusiaid ganu ffarwel i'r cwbl sydd ganddynt."
"O Besi, anghofiaist ddweud wrth Nansi am Abigail Owen," ebe Glenys, "ni fuasai'n syndod i mi na ŵyr hi fwy na fawr neb am yr ewyllys.
"Eithaf gwir," ebe Besi, "yr oeddwn innau wedi anghofio amdani am y funud. Dylech alw i'w gweld hi, Nansi. Hi ofalodd am fy ewythr pan oedd yn wael iawn. Teimlai yr hen Joseff yn ddyledus iddi, a chlywais ef â'm clustiau fy hun yn dweud na byddai byth yn edifar ganddi."
"Buasai hyd yn oed ugain punt yn ffortiwn iddi hi," ebe Glenys. "Mae yn awr yn hen a methiantus. Y mae'n siwr ei bod dros ei deg a thri ugain, ac nid oes ganddi neb i ofalu amdani."
"Ymhle mai hi yn byw?" gofynnai Nansi.
"Yr ochr arall i Benyberem, yn nes i'r mynydd mewn bwthyn digon diaddurn. Rhaid i chwi ymholi yn y ffermdai cyfagos pan ewch yno. Nid yw yn hawdd dywedyd wrthych yn union ymha le y mae.
"Tan y Bwlch yw enw'r lle," ychwanegai Glenys.
"Mae'n amhosibl imi fynd i'r tri lle heddiw, ebe Nansi. "Ceisiaf gael cyfle i fyned yno yr wythnos nesaf." Ffarweliodd Nansi a'r genethod yn frysiog. Danfonodd y ddwy chwaer hi i'r ffordd. Cyflymodd ei cherddediad i geisio cyflawni ei bwriad cyn gynted ag y gallai.
"Nis gwn beth wnaf os methaf â helpu'r genethod yna yn awr, " meddai wrthi ei hun wrth frysio ymlaen. Disgynnai'r ffordd yn raddol am y dref a gallai gerdded yn gyflymach oherwydd hynny. Wedi iddi gerdded rhyw dri chwarter milltir cyferfu ddyn ar y ffordd a holodd ef am Ddolgau, cartref y ddau nai. Cafodd gyfarwyddyd i droi ar y dde ychydig ymhellach ymlaen. Cyrhaeddodd y fferm yn ddiogel. Daeth gŵr at y drws mewn ateb i'w chnoc, ac wedi deall mai William Ifans ydoedd, eglurodd Nansi ei neges. Pur gyndyn oedd y gŵr i ddweud dim ar y dechrau, ond pan fodlonodd ei hun nad oedd Nansi o blaid y Morusiaid, gwahoddodd hi i'r tŷ, ac agorodd ei galon iddi ynghylch Joseff Dafis. Dywedodd yr oll a wyddai am yr ewyllys.
"Y mae fy mrawd a minnau wedi dod â'r mater i sylw awdurdodau'r llys," eglurai. "Yr ydym bron yn sicr bod ewyllys arall wedi ei gwneuthur, gan y dywedai f'ewythr Joseff bob amser y bwriadai adael rhywbeth inni ar ei ôl."
"A welsoch chwi yr ewyllys rywdro?" gofynnai Nansi'n obeithiol.
Ysgydwodd y ffermwr ei ben. "Na, nid oes gan fy mrawd na minnau ddim i brofi iddo wneuthur ewyllys arall. Ond gwyddom yn eithaf da, tuhwnt i bob amheuaeth, nad oedd yn dda ganddo'r Morusiaid. Teimlai ef bob amser mai eu rheswm dros ei groesawu ydoedd eu hawydd am feddiannu ei arian. Nid oedd eu croeso iddo ond ffug a gwyddai yr hen frawd hynny'n dda. Credaf ei fod yn hollol yn ei le yn dal y syniad hwn amdanynt. Yr oedd y peth yn amlwg i bob un ohonom."
"Efallai iddo esgeuluso gwneuthur ewyllys arall, neu iddo fethu â chario ei fwriad allan oherwydd iddo ei gymryd yn wael."
"Peidiwch petruso ynghylch hynny, Miss Puw. Nid oeddych yn adnabod f'ewythr. Nid dyn i fethu gwneud yr hyn a ddymunai ydoedd Joseff Dafis. Yr oedd yn un o'r rhai rhyfeddaf fyw mewn pethau bychain, ond yr oedd yn dra gofalus gyda materion pwysig. Mae'n haws o lawer gennyf fi i gredu iddo wneud ei ewyllys a'i chuddio mewn man diogel wedi iddo ei gwneud.'
"A oes gennych ryw syniad ymha le y gallasai fod wedi ei chuddio?"
"Dim o gwbl. Buasai'n dda gan fy nghalon pe gwypwn. Mae fy mrawd a minnau yn hollol barod i gynnig gwobr sylweddol i bwy bynnag a'i darganfyddo.
Gofynnodd Nansi amryw o gwestiynau eraill ond nid oedd y ffermwr yn alluog i roddi unrhyw wybodaeth o fudd iddi. Yn siomedig o'r braidd, trodd Nansi ei chamrau i gyfeiriad Penyberem. "Nid oes dim lwc imi heddiw," meddai wrthi ei hun, fel y dynesai at y dref. "Gobeithio y byddaf yn fwy llwyddiannus yn y lle nesaf yma."
Ar ôl cyrraedd Penyberem holodd Nansi ei ffordd i dŷ'r ddwy hen ferch. Cafodd eu bod yn trigo yng nghwr pellaf y dref. Cartref pur syml oedd ganddynt, ac ôl gofal cariadus arno. Ni ellir dweud fod golwg dlawd arno, ond prin iawn oedd y dodrefn oddi mewn.
Cafodd fod y merched gartref a derbyniodd bob croeso ganddynt. Treuliodd awr gron yn eu cwmni bron heb yn wybod iddi. Ond er holi a chwestiyno, methodd yn lân â chael a dybiai fyddai o gynorthwy iddi i ddarganfod yr ewyllys goll.
Credai'r ddwy, fel y lleill, y bwriadai Joseff Dafis gadw'r Morusiaid allan o'r ewyllys. Yr oeddynt yn sicr yn eu meddwl hefyd y deuent hwy i mewn am gyfran o'r eiddo, gan iddo addo mor fynych na byddent byth mewn angen wedi iddo ef eu gadael. Weithiau tybient mai chwarae un o'i driciau cellweirus â hwynt ydoedd, ond ni allant goelio y gallai fod mor greulon â hynny, a hwythau wedi bod mor garedig tuag ato ac mor ofalus ohono. Yr oedd yn hawdd ganddynt gredu ei fod wedi gwneuthur ei ewyllys, a'i fod wedi ei chuddio yn rhywle'n ddiogel. Yr oedd y ddwy hen ferch mor syml eu cymeriadau ac mor onest yn mynegi eu meddyliau fel y tynnodd ein ditectif ryw gymaint o gysur oddi wrthynt. Yr oedd o leiaf, yn berffaith sicr ei hun, fod ewyllys arall yn rhywle. Ond ymhle? Ni allai'r ddwy hen ferch ddweud unpeth i'w chynorthwyo yn ei hymchwil amdani.
"Paham nad ewch at Abigail Owen," awgrymai Ann o'r diwedd, yn eiddgar i helpu Nansi. "Gofalodd Abigail am Joseff Dafis yn ei waeledd unwaith. Yr oedd yn meddwl y byd ohoni. Deallai hi ei ffyrdd yn well na neb arall. Os oes rhywun o'r perthynasau all eich helpu, Abigail ydyw honno."
Methaf weld pa les fydd i'r foneddiges yma fynd at Abigail. Mae hi wedi mynd i oed yn awr a'i chof yn bur wallus," meddai ei chwaer.
Rhaid oedd i Nansi eu gadael a rhedeg nerth ei thraed i Benyberem i ddal ei 'bus. Yr oedd yn bur flinedig a newynog. "Hyd yma dyna ddiwrnod wedi ei wastraffu," meddai. "Nid wyf ronyn nes i ddarganfod yr ewyllys. Yr unig beth wyf yn sicr ohono yw fod ewyllys yn rhywle. Gallaf yn hawdd gredu fy nhad yn awr mai dyfalbarhad yn unig all ddatrys y dirgelwch.
Yr oedd wedi ymweled a pherthynasau Joseff Dafis i gyd yn awr oddigerth Abigail Owen. Ac yn ôl tystiolaeth un o'r ddwy chwaer amheuai a oedd yn werth iddi wario'r amser i ymweled â'r hen wraig. Yn wir, fel y rhedai drwy ddigwyddiadau a dywediadau y dydd yn ei meddwl, tyrrai'r amheuon i'w dyrysu. Rywfodd teimlai fod popeth yn ei herbyn. Yr oedd mor obeithiol pan gychwynnodd allan o swyddfa ei thad ychydig oriau ynghynt.
Daliodd ei 'bus yn ddidrafferth er ei bod mor flinedig, a suddodd i'r glustog esmwyth gydag ochenaid o ollyngdod, na byddai raid iddi gerdded yr holl ffordd i Drefaes. Yr oedd ar fin dod i'r penderfyniad i roi'r ymdrech i fyny. Ond yn ei meddwl gwelai eto frwydr ddewr Besi a Glenys i ennill eu tamaid yn yr hen ffermdy bregus. Gwelai'r wên hoffus ar wyneb Besi pan syllai'n ystyriol ar ei chwaer. Ac yn sydyn daeth i'w chof yr hanesyn difyr arferai ei mam adrodd wrthi am Robert Bruce a'r pryf copyn yn yr ogof, Pan oedd hi mor barod i ddigalonni. "Mae gennyf un gobaith bach eto," meddai, "af i weld yr hen Abigail Owen yfory eto, doed a ddelo."