Nansi'r Dditectif/Y Ddwy Chwaer Eto

Stori Ddiddorol Nansi'r Dditectif

gan Owain Llew Rowlands

Cyfarfyddiad Anghysurus

PENNOD V
Y DDWY CHWAER ETO

ER fod y glaw wedi peidio yr oedd golwg ofnadwy ar y ffordd ar ôl y storm.

"Buasem yn falch pe arhosech hyd yfory," meddai Besi. "Mae'r ffordd yn ddrwg iawn i chwi ei cherdded." "Nid oes ond ychydig dros ddwy filltir eto," atebai Nansi. "Byddaf adref cyn iddi dywyllu. Mi ddymunwn dalu i chwi am eich trafferth."

"Ni fuaswn yn breuddwydio am dderbyn dim gennych," ebe Besi'n bendant. "Ar ein hochr ni y mae'r diolch."

"Hwyl iawn oedd i chwi fod yma," ychwanegai Glenys.

O'r diwedd, ar ôl diolch i'r chwiorydd am eu caredigrwydd, ffarweliodd Nansi â hwy. Gwyliodd Besi a Glenys hi yn cerdded ar hyd y ffordd hyd nes aeth o'r golwg.

Cerddai Nansi'n gyflym, a buan iawn y daeth i olwg Trefaes. Penderfynodd alw yn swyddfa ei thad ar unwaith i adrodd ei helyntion wrtho. Fel yr elai i mewn i'w ystafell cododd ei thad o'i gadair i'w chyfarfod.

"Yr wyf yn falch o'ch gweld yn ôl yn ddiogel, Nansi," meddai. "Yr oeddwn wedi dechrau pryderu yn eich cylch. Phoniais i'r tŷ i edrych a oeddych wedi cyrraedd."

"Bûm yn brysur, 'nhad," atebai Nansi'n bwysig, ac ar unwaith dechreuodd adrodd i'w thad sut y cyfarfu â'r ddwy chwaer yn y tŷ unig, a'r hyn ganfu am ewyllys Joseff Dafis.

"Y mae Besi a Glenys cyn dloted â llygod eglwys, ac yn rhy falch i gyfaddef hynny," ebe Nansi, wrth orffen yr hanes. "Gresyn na fedrem wneuthur rhywbeth i'w helpu. Haeddasant ran o ffortiwn Joseff Dafis, ond ni welant yr un ffyrling os na chymer rhywun ddiddordeb yn eu hachos.

"Yn ôl yr hyn a ddywedwch, y mae bron yn sicr, erbyn hyn, i Joseff wneud ewyllys yn eu ffafr," ebe Edward Puw, yn feddylgar. "Ni hoffais i erioed William Morris, a rhaid i mi gyfaddef na phoenid fi lawer pe gwelwn ef yn gorfod rhoddi yr arian i fyny. Byddaf yn falch o weld y ddwy chwaer yma i mi eu holi. Beth am eu gwahodd yma un diwrnod er mwyn i mi eu cyfarfod?"

"Yr oeddwn yn gobeithio y dywedech hynny."

"Dywedwch na ŵyr y genethod beth ddaeth o'r ewyllys?"

"Welsant hwy erioed mohoni."

"Efallai wrth siarad â hwynt y deuwn ar draws rhywbeth a'n cynorthwya."

"Fe'u gwahoddwn hwy yma yfory os dymunwch," ebe Nansi yn eiddgar. "Yr ydych chwi mor fedrus yn gofyn cwestiwn, a gwn y gwna'r genethod bopeth yn eu gallu i helpu."

Trodd Mr. Puw at ei ddesc ac astudiodd yr almanac am eiliad.

"Dyna ni ynteu," meddai, "ond gwell fyddai i ni eu gweld am dri o'r gloch y dydd ar ôl yfory. Gwn y byddaf yn rhydd yr awr honno.

Yr oedd Nansi'n awr ar ben ei digon.

"Gwyddwn yn iawn y ceisiwch eu helpu, nhad," meddai, "ac yn awr, gan eich bod wedi addaw, af adref i chwi gael mynd ymlaen gyda'ch gwaith."

Yr oedd diddordeb Nansi ym musnes Joseff Dafis wedi ei ail ennyn ar ôl cyfarfod â'r genethod, ac yn awr yr oedd yn awyddus iawn am eu gweled drachefn.

Pan ddaeth y diwrnod iddynt ddyfod, edrychai Nansi ar y cloc, yn dyfalu a ddeuai'r genethod ai peidio. Yr oedd wedi anfon atynt, a hwythau wedi addaw dyfod, ond yr oedd Nansi braidd yn anesmwyth, yn enwedig pan nesai tri o'r gloch, a hwythau heb gyrraedd.

"Wn i ddim pam na ddeuant," gofidiai.

Prin oedd y geiriau o'i genau na chanodd cloch drws y ffrynt.

"Dyna'r genethod!" meddai, gan lamu at y drws.

Besi a Glenys oeddynt, a chroesawodd Nansi hwynt yn llawen. Aeth â hwynt drwodd i ystafell ei thad, ac yn fuan dechreuasant siarad yn hollol gartrefol.

"Dywedwch wrthyf am Joseff Dafis," awgrymai Edward Puw. "Deallaf ei fod yn hen ŵr od iawn."

"Oedd, yr oedd yn un rhyfedd iawn," dechreuai Glenys ar unwaith. "Gwelais ef unwaith yn chwilio am ei spectol a hwythau ar ei drwyn."

"A oedd yn hoff o guddio pethau?" holai Mr. Puw.

"Fu erioed ei fath am wneuthur hynny," chwarddai yr eneth. "Yr oedd beunydd yn rhoi pethau mewn 'lle diogel,' chwedl yntau. Yr oedd y lle mor ddiogel fel na fedrai byth gael hyd iddo drachefn."

"Ddywedodd ef rywdro rywbeth barai i chwi gredu y gallasai fod wedi cuddio ei ewyllys?"

Ysgydwodd Glenys ei phen.

"Ni fedraf fi gofio

"Wel, do, fe wnaeth," ebe Besi ar ei thraws. "Un dydd pan oedd yn ein tŷ ni dechreuodd siarad am y Morusiaid, a'r ffordd y ceisient gael ei arian."

"Cânt eu siomi pan welant fy mod wedi gwneud ewyllys arall," meddai, gan chwerthin fel y gwnai ef. "Nid wyf am eu rhoi yn llaw unrhyw dwrne y tro hwn. Rhoddaf hi mewn lle y gwn y bydd yn ddiogel."

"O, ie, yr wyf finnau'n cofio yn awr," ategai Glenys. "A oedd Joseff Dafis yn byw gyda'r Morusiaid pan ddywedodd hyn wrthych?" gofynnai Mr. Puw yn gyflym.

"Oedd," ebe Besi.

"A ydyw'n bosibl iddo fod wedi cuddio'r ewyllys yn y tŷ?"

"Yn nhŷ'r Morusiaid?" gofynnai Besi. "Nis gwn am hynny, ond gallaswn dybio hynny wrth i chwi ofyn."

Edrychodd Nansi a'i thad ar ei gilydd; yr un peth ym meddwl y ddau. Efallai i'r Morusiaid ganfod yr ewyllys a'u bod wedi ei dinistrio.

Gofynnodd Edward Puw amryw o gwestiynau ymhellach. Er mor awyddus oedd y genethod i helpu, ychydig o oleuni a allent daflu ymhellach ar fater yr ewyllys goll. Cawsant dê gyda'i gilydd, a diolchasant i Mr. Puw am ei ddiddordeb yn eu helyntion. Codasant i fyned.

"Os gallaf eich helpu mewn unrhyw fodd, gwnaf hynny," ebe Mr. Puw wrth y chwiorydd, wrth eu hebrwng i'r drws, "ac wrth gwrs ni raid i chwi bryderu am dâl am fy ngwasanaeth. Ond heb yr ewyllys, amhosibl fydd gwneuthur dim.

Ar ôl i'r genethod ymadael trodd Nansi lygaid ymofyngar ar ei thad.

"Genethod dymunol iawn," ebe ef. "Haeddant bob cynorthwy."

"Felly, bwriedwch roddi eich cynorthwy iddynt?" gofynnai Nansi'n eiddgar.

"Ofnaf na fedraf wneud fawr iawn." Yr oedd golwg gofidus yn llygaid Mr. Puw. "Pur debyg bod yr ewyllys ar goll am byth. Ni synnwn ronyn pe bai wedi ei dinistrio."

"Gan y Morusiaid?"

"Ie."

"Bûm innau'n meddwl yr un peth," ebe Nansi. "Dyna allasech ddisgwyl pe cawsent yr ewyllys i'w dwylo. Pobl hollol ddiegwyddor ydynt yn ôl popeth glywir amdanynt."

"Wrth gwrs, Nansi, rhaid i ni fod yn wyliadwrus beth a ddywedwn. Un peth yw amau, ond peth arall yw profi bod y Morusiaid wedi gwneud i ffwrdd â'r ewyllys. Credaf y buasai'n annoeth crybwyll hynny wrth y chwiorydd. Haeddant ran o'r eiddo'n ddiamau. Ond mae'n anobeithiol iawn iddynt gael eu cyfran heb i'r ewyllys newydd ddod i olau dydd.'

"Y mae'n debyg eich bod yn iawn," meddai Nansi'n gyndyn.

Ni bu sôn rhyngddynt am y peth am beth amser ar ôl hyn, ond nid oedd Nansi wedi anghofio'r chwiorydd. Daliai i obeithio y deuai rhywbeth fyddai'n foddion i ddwyn iddynt eu rhan o'r eiddo.

"Os yw'r ewyllys wedi ei dinistrio, nid oes dim dycia i'w helpu," meddai wrthi ei hun yn boenus, "ond hyd yn oed pe bawn yn sicr o hynny, ni allaf ildio. Ac hyd byddaf yn sicr ni roddaf i fyny ychwaith." Sythodd yn benderfynol gan ddywedyd: "Mi fynnaf gael allan beth ddaeth o'r ewyllys rywfodd neu gilydd."

Nodiadau

golygu