Nansi'r Dditectif/Yr Ewyllys
← Cynnwys | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Wyneb yn Wyneb → |
NANSI'R DDITECTIF
PENNOD I
YR EWYLLYS
"MI fuasai'n gywilydd pe bai'r holl arian yn mynd i ddwylo teulu William Morus. Mi fyddant yn uwch eu pennau nag erioed."
Newydd gyrraedd adref o un o gyfarfodydd yr Urdd yr oedd Nansi, geneth hoffus un ar bymtheg oed. Merch ydoedd i Mr. Edward Puw, un o gyfreithwyr enwocaf a mwyaf poblogaidd Trefaes.
"Beth ddywedsoch chi Nansi? Beth sydd am y Morusiaid?"
"Doeddych chwi yn gwrando dim," ebe Nansi, "dim o gwbl. Dweud yr oeddwn nad yw'n deg i holl arian Joseff Dafis fynd i ddwylo'r Morusiaid ffroenuchel yna. Oes dim posib gwneud rhywbeth i atal y fath beth?"
Edrychodd Edward Puw yn syn ar ei ferch a chan dynnu ei sbectol ymaith oddi ar ei drwyn, atebodd,
"Mae arnaf ofn nad oes posib gwneud dim, Nansi. Ewyllys yw ewyllys, mi wyddost yn eithaf da."
"Ond y mae'n edrych yn beth annheg iawn, fod yr holl eiddo yn disgyn i'w meddiant. Ac yn enwedig pan gofiwch eu hymddygiad tuagat Joseff Dafis."
"Wel," ebe'i thad, gyda'i wên araf feddylgar, "fedr yr un ohonom gyhuddo'r Morusiaid o fod yn rhy garedig erioed. Er hynny, fe roisant gartref i Joseff Dafis.
"Do, ac mi ŵyr pawb pam. Cynllunio yr oeddynt iddo adael ei arian i gyd iddynt. Mae'n amlwg i'w cynllwyn lwyddo hefyd. Cafodd yr hen ŵr barch tywysogaidd nes iddo wneud ei ewyllys yn eu ffafr, ond wedyn, derbyniodd bob sarhad ganddynt."
"Does neb yn hoffi'r Morusiaid yn fawr yn Nhrefaes, yn nag oes?" atebai Mr. Puw yn sychlyd.
"Pwy fedrai eu hoffi nhad? Mi wyddoch sut mae William Morus wedi gwneud arian trwy fanteisio ar brisiau uchel yn ystod y Rhyfel Mawr tra'r oedd eraill yn ymladd trosto. Dynes ffroenuchel yw ei wraig hefyd. Y mae Gwen a Phegi, ei ddwy ferch, yn yr ysgol efo mi, a fedr yr un o'r genethod eu goddef, mwy na minnau. Os daw mwy o arian i'w rhan hwy, ni bydd Trefaes yn ddigon mawr i'w dal."
Ni ddywedai Nansi yr un gair yn ormod am y Morusiaid. Dyna farn gyffredinol rhan fwyaf o bobl Trefaes, ac yr oedd eu hymddygiad tuagat Joseff Dafis yn destun siarad yn y dref.
Nis adnabu Nansi Joseff Dafis erioed yn dda iawn, er iddi ei gyfarfod laweroedd o weithiau ar y stryd. Ei syniad amdano ydoedd mai creadur od rhyfedd oedd. Bu farw ei wraig yn ystod y ffliw mawr a ysgubodd dros y wlad ar ddiwedd y rhyfel, ac o'r pryd hynny, cymerodd Joseff Dafis ei gartref gyda gwahanol berthynasau iddo. Ar y cychwyn ni chymerodd y Morusiaid fawr ddiddordeb yn yr hen ŵr, a gorfu iddo aros gyda pherthynasau na allent fforddio i'w gadw. Mawrygai yr hen ŵr eu caredigrwydd, a haerai y mynnai wneud ei ewyllys yn eu ffafr. Nid oedd William Morus a'i wraig yn barod i gymryd unrhyw drugaredd arno.
Ond rhyw dair blynedd cyn ei farw, daeth cyfnewidiad dros y Morusiaid. Crefasant ar i Joseff Dafis ddod i aros atynt hwy, ac o'r diwedd, cytunodd yntau. Cyn hir clywyd bod y Morusiaid wedi ei berswadio i wneuthur ei ewyllys yn eu ffafr.
Fel yr elai'r amser heibio, trodd y Morusiaid yn angharedig tuag at Joseff, tra y daliai yntau mewn iechyd pur dda. Parhai i drigo gyda hwynt, er yr hoffai yn awr ac eilwaith ymweled â hen ffrindiau. Sibrydid yn aml y bwriadai newid yr ewyllys olaf, gan adael dim i'r Morusiaid.
"Nhad, beth oedd Joseff Dafis yn geisio'i ddweud wrth y meddyg cyn iddo farw? gofynnai Nansi, ymhen y rhawg, "ai rhywbeth am ei ewyllys?" Yr oedd pawb yn Nhrefaes yn gwybod yn dda fel yr oedd Joseff wedi ceisio mynegi rhyw gyfrinach wrth y meddyg ychydig funudau cyn marw.
"Pur debyg, Nansi. Efallai y bwriadai adael ei eiddo i berthynasau mwy anghenus. Ond beth bynnag oedd arno eisiau ddweud, collodd ei gyfle."
"Ond feallai ei fod wedi gwneud ewyllys felly a'i fod am adael i'r meddyg wybod amdani."
"Gallasai hynny fod, wrth gwrs. Dyn rhyfedd iawn oedd yr hen Joseff."
"Efallai iddo guddio'r ewyllys yn rhywle, ac iddo geisio dweud ymha le yr oedd," awgrymai Nansi'n ystyriol.
"Os gwnaeth ewyllys felly ofnaf na wêl byth olau dydd. Fe ofala'r Morusiaid am hynny."
"Beth sydd yn eich meddwl, nhad?"
"Wel, mae'r eiddo'n fawr, Nansi, ac nid yw'r Morusiaid am i neb weld ceiniog ohono. Fy marn bersonol yw y gofalant hwy na ddaw ail ewyllys byth i'r amlwg.
"A ydych yn meddwl y dinistriant hi pe caent hyd i un?"
"Wel, Nansi, nid wyf am wneuthur cyhuddiadau, ond gwn mai gŵr cyfrwys ydyw William Morus, ac nid yw yn hynod am ei onestrwydd chwaith."
"Oni ellir gwrthbrofi'r ewyllys bresennol?"
"Prin. Nid wyf wedi ystyried y mater, ond hyd y gwelaf y mae gan y Morusiaid bob hawl cyfreithiol i'r ffortiwn. Fe gostiai lawer i geisio gwrthbrofi'r ewyllys, ac hyd y gwn, pobl dlawd yw'r perthynasau eraill. Y maent wedi rhoi cais i mewn, yn honni bod ewyllys ddiweddarach wedi ei gwneud yn eu ffafr hwy, ond y mae'n amheus gennyf a â'r mater ymhellach."
"Ond nid yw'r Morusiaid yn haeddu'r ffortiwn, nhad. Nid yw peth fel yna'n deg.
"Na nid oes tegwch ynddo. Ond y mae'n gyfreithiol, ac ofnaf na ellir gwneuthur dim i gael cyfiawnder i'r perthynasau tlawd yna. Yr oedd dwy eneth tua Mur y Maen, ac yr oedd Joseff yn bur hoff ohonynt. Dylasent fod hwy wedi cael rhywbeth ar ei ôl, ac y mae amryw o berthynasau eraill ddylai gael rhan o'r ffortiwn."
Bu Nansi'n ddistaw yn hir iawn ar ôl hyn, yn troi'r mater yn ei meddwl. Yr oedd ganddi feddwl craff, tebyg i'w thad. Dywedai ef yn aml fod ganddi feddwl fel ditectif, yn hoffi mynd ar ôl pethau, yn enwedig os byddai rhyw ddirgelwch o'u cwmpas.
Yr oedd Nansi'n amddifad o fam, ac felly yr oedd hi a'i thad yn hoff iawn o'i gilydd. Ymfalchïai ei thad iddo ei dysgu i feddwl drosti ei hun, a meddwl yn glir. Gwyddai yn dda y gallai ymddiried yn Nansi, ac oherwydd hynny dywedai lawer wrthi am yr achosion dyrys a diddorol a ddeuai i'w ran, fel twrne, i'w datrys.
Fwy nag unwaith bu Nansi'n bresennol gyda'i thad pan ddaeth rhai o uchel swyddogion yr heddlu i'r swyddfa i ymofyn ei gyngor. Unwaith cafodd fod yno pan ddaeth ditectif enwog i ymweled â'i thad ar fusnes pwysig. Diwrnodiau mawr oedd y rhai hyn i Nansi. Er hyn i gyd, nid geneth wedi ei sbwylio ydoedd: hoffid hi gan bawb, a dygai ei natur fwyn lu o gyfeillion iddi. Yr oedd colli ei mam a byw gymaint yng nghwmni ei thad wedi ei dysgu i ddibynnu arni ei hunan. Penderfynodd drefnu ei bywyd yn y modd y tybiai hi y dymunai ei mam iddi wneud, ac yr oedd cofio rhai o gynghorion ei mam iddi yn help i wneuthur hynny. Oherwydd hyn gwelid hi yn gyson yng nghyfarfodydd y capel, a deuai ei meddwl chwim, craff, o fantais iddi yn nadleuon yr Ysgol Sul. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r Urdd ers blynyddoedd, ac wedi dwyn anrhydedd fwy nag unwaith o'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Mabolgampau i Adran Trefaes.
Casbeth ganddi ydoedd anhegwch o unrhyw fath, ac ni allai oddef gweled y gwan yn dioddef. Yr oedd swyn neilltuol iddi, fel i bob geneth tuag un ar bymtheg oed, yn y gair "dirgelwch," ac ni byddai byth yn fodlon pan ddeuai ar draws rhyw ddirgelwch heb geisio ei ddatrys.
Efallai mai'r pethau hyn a barai fod achos Joseff Dafis yn ennyn ei diddordeb. Credai'n sicr fod rhywbeth cudd tu ôl i ewyllys yr hen ŵr, a theimlai, hefyd, fod rhai o'r perthynasau tlawd fu'n garedig wrtho yn cael cam. "Ydych chi'n meddwl fod Joseff Dafis wedi gwneud ail-ewyllys?" gofynnodd yn sydyn.
"Wir, Nansi, 'rwyt yn fy nghroesholi fel twrne,' atebai ei thad, yn amlwg yn mwynhau ei hun. "I ddweud y gwir, wn i ddim a wnaeth o ewyllys arall ai peidio. Y cwbl a wn i yw,—ond efallai na ddylwn ei grybwyll gan nad wyf yn rhy sicr."
"Ewch ymlaen," gorchmynnai Nansi'n ddiamynedd, "fy mhryfocio yr ydych.
"Na, ni ddymunwn eich plagio," atebai ei thad, "ond cof gennyf tua blwyddyn neu well yn ôl fod yn dod allan o Fanc y Maes pan aeth Joseff Dafis i mewn gyda Tomos Walters, y cyfreithiwr."
"Efo pwy? Efo'r twrne hwnnw sy'n gwneud dim ond paratoi ewyllysiau i bobl?"
"Ie, ac yr oeddynt yn dyfod i mewn i'r banc efo'i gilydd. Nid oedd gennyf yr un bwriad i wrando ar eu sgwrs, ond deallais mai trafod rhyw ewyllys yr oeddynt, a threfnu i Joseff Dafis alw yn swyddfa Mr. Walters drannoeth."
"Edrych yn debyg bod Joseff Dafis wedi bwriadu gwneud ewyllys arall, oni wna?"
"Dyna dybiwn innau ar y pryd."
"Rhyw flwyddyn yn ôl yr oedd hi? Dwy flynedd ar ôl i Joseff Dafis wneud ei ewyllys yn ffafr y Morusiaid, yntê?"
"Ie, pur debyg i'r hen Joseff fwriadu newid ei ewyllys. Synnwn i ddim na fwriadai adael y Morusiaid allan ohoni, ond wn i ddim."
"Wel, nhad, mae Mr. Tomos Walters yn hen gyfaill i chwi?"
"Ydyw, er yr amser y buom yn y coleg gyda'n gilydd."
"Yna, pam na ofynnwch iddo ddarfu iddo dynnu allan ewyllys i Joseff Dafis yr adeg honno?"
"Wel, prin y medraf wneud hynny, Nansi. Ni fydd pobl yn ein galwedigaeth ni yn bradychu cyfrinachau. Efallai y dywed wrthyf am edrych ar ôl fy musnes fy hun."
"Mi wyddoch yn dda na wna Mr. Walters hynny. Gwyddoch y gellwch fentro gofyn iddo."
"Wel, cawn weld. Wna i ddim addo mynd ato yn un swydd i ofyn iddo. Ond pam y cymerwch y fath ddiddordeb yn y mater, Nansi?"
"Wn i ddim yn iawn, ond fedra i yn fy myw weld nad oes rhywbeth yn rhyfedd yn yr achos. Mi ddylai rhywun estyn help i'r perthynasau tlawd yna, er mwyn iddynt gael chwarae teg.
"Mae arnaf ofn dy fod yn tynnu ar ôl dy dad. Dywed wrthyf, pa ddirgelwch a weli di ynglŷn â'r peth?"
"Os oes ewyllys ar goll, onid yw hynny'n ddigon o ddirgelwch i rywun?"
"Ydyw, wrth gwrs, os oes ewyllys ar goll. Ond y mae'n bosibl i Joseff Dafis fod wedi ysgrifennu ewyllys, ac wedi newid ei feddwl drachefn a thrachefn, ac wedi eu dinistrio. Gwnai yr hen ŵr bethau pur ryfedd weithiau."
"Beth bynnag, mi hoffwn wybod mwy am y mater. Wnewch chi siarad â Mr. Walters, nhad?"
"Yr wyt yn bur daer, fel arfer, Nansi," a gwenai Mr. Puw. "Tybed fyddai yn well i mi ei wahodd i ginio yfory?"
"O, gwnewch, wir," ebe Nansi'n eiddgar, "dyna gyfle rhagorol i ganfod beth ŵyr ef am yr ewyllys.'
"Olreit, fe geisiaf wneud hynny, ond peidiwch chi â disgwyl gormod." Edrychodd Edward Puw ar ei oriawr. "Wir, mae hi bron yn ddeg o'r gloch, Nansi. Dyma ni wedi trafod yr hen Joseff Dafis a'i ewyllys am awr gron. Gwely piau hi'n awr. Anghofiwch y Morusiaid a chysgwch.
"Gwnaf," ebe Nansi, braidd yn ddifater. "Peidiwch chi ag anghofio gwahodd Mr. Walters yfory."
Bu Edward Puw yn eistedd yn hir wrth y tân ar ôl i Nansi fynd i'w gwely.
O'r diwedd safodd ar ei draed.
"Synnwn i ddim nad yw Nansi wedi taro ar rywbeth od iawn," meddai'n ddistaw wrtho'i hun, wrth droi am y grisiau a throi'r golau trydan i ffwrdd, "Efallai na ddylwn ei hannog i ymyryd a'r peth, ond rhaid i mi gofio y mae'r achos yn un teilwng iawn."